Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 42

42
LLYFR 2
I'r Cyfarwyddwr: Mascîl. I feibion Cora.
1Fel y dyhea ewig am ddyfroedd rhedegog,
felly y dyhea fy enaid amdanat ti, O Dduw.
2Y mae fy enaid yn sychedu am Dduw, am y Duw byw;
pa bryd y dof ac ymddangos ger ei fron?
3Bu fy nagrau'n fwyd imi ddydd a nos,
pan ofynnent imi drwy'r dydd, “Ple mae dy Dduw?”
4Tywalltaf fy enaid mewn gofid wrth gofio hyn—
fel yr awn gyda thyrfa'r mawrion#42:4 Felly rhai llawysgrifau. TM, gyda'r dyrfa a'u harwain. i dŷ Dduw
yng nghanol banllefau a moliant, torf yn cadw gŵyl.
5Mor ddarostyngedig wyt, fy enaid,
ac mor gythryblus o'm mewn!
Disgwyliaf wrth Dduw; oherwydd eto moliannaf ef,
fy Ngwaredydd a'm Duw#42:5 Hebraeg, a'm Duw ar ddechrau adn. 6..
6Y mae fy enaid yn ddarostyngedig ynof;
am hynny, meddyliaf amdanat ti
o dir yr Iorddonen a Hermon
ac o Fynydd Misar.
7Geilw dyfnder ar ddyfnder
yn sŵn dy raeadrau;
y mae dy fôr a'th donnau
wedi llifo trosof.
8Liw dydd y mae'r ARGLWYDD yn gorchymyn ei ffyddlondeb,
a liw nos y mae ei gân gyda mi,
gweddi ar Dduw fy mywyd.
9Dywedaf wrth Dduw, fy nghraig,
“Pam yr anghofiaist fi?
Pam y rhodiaf mewn galar,
wedi fy ngorthrymu gan y gelyn?”
10Fel pe'n dryllio fy esgyrn,
y mae fy ngelynion yn fy ngwawdio,
ac yn dweud wrthyf trwy'r dydd,
“Ple mae dy Dduw?”
11Mor ddarostyngedig wyt, fy enaid,
ac mor gythryblus o'm mewn!
Disgwyliaf wrth Dduw; oherwydd eto moliannaf ef,
fy Ngwaredydd a'm Duw.

Dewis Presennol:

Y Salmau 42: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd