Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 15

15
Salm. I Ddafydd.
1 ARGLWYDD, pwy a gaiff aros yn dy babell?
Pwy a gaiff fyw yn dy fynydd sanctaidd?
2Yr un sy'n byw yn gywir, yn gwneud cyfiawnder,
ac yn dweud gwir yn ei galon;
3un nad oes malais ar ei dafod,
nad yw'n gwneud niwed i'w gyfaill,
nac yn goddef enllib am ei gymydog;
4un sy'n edrych yn ddirmygus ar yr ysgymun,
ond yn parchu'r rhai sy'n ofni'r ARGLWYDD;
un sy'n tyngu i'w niwed ei hun, a heb dynnu'n ôl;
5un nad yw'n rhoi ei arian am log,
nac yn derbyn cildwrn yn erbyn y diniwed.
Pwy bynnag a wna hyn, nis symudir byth.

Dewis Presennol:

Y Salmau 15: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd