Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 16

16
Michtam. I Ddafydd.
1Cadw fi, O Dduw, oherwydd llochesaf ynot ti.
2Dywedais wrth yr ARGLWYDD, “Ti yw f'arglwydd,
nid oes imi ddaioni ond ynot ti.”
3Ac am y duwiau sanctaidd sydd yn y wlad,
melltith#16:3 Tebygol. Hebraeg, a'r rhagorolion. ar bob un sy'n ymhyfrydu ynddynt.
4Amlhau gofidiau y mae'r un sy'n blysio duwiau eraill;
ni chynigiaf fi waed iddynt yn ddiodoffrwm,
na chymryd eu henwau ar fy ngwefusau.
5Ti, ARGLWYDD, yw fy nghyfran a'm cwpan,
ti sy'n diogelu fy rhan;
6syrthiodd y llinynnau i mi mewn mannau dymunol,
ac y mae gennyf etifeddiaeth ragorol.
7Bendithiaf yr ARGLWYDD a roddodd gyngor i mi;
yn y nos y mae fy meddyliau'n fy hyfforddi.
8Gosodais yr ARGLWYDD o'm blaen yn wastad;
am ei fod ar fy neheulaw, ni'm symudir.
9Am hynny, llawenha fy nghalon a gorfoledda f'ysbryd,
a chaiff fy nghnawd fyw'n ddiogel;
10oherwydd ni fyddi'n gadael fy enaid i Sheol,
ac ni chaiff yr un teyrngar i ti weld Pwll Distryw.
11Dangosi i mi lwybr bywyd;
yn dy bresenoldeb di y mae digonedd o lawenydd,
ac yn dy ddeheulaw fwyniant bythol.

Dewis Presennol:

Y Salmau 16: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda