Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 14

14
I'r Cyfarwyddwr: i Ddafydd.
1Dywed yr ynfyd yn ei galon,
“Nid oes Duw.”
Gwnânt weithredoedd llygredig a ffiaidd;
nid oes un a wna ddaioni.
2Edrychodd yr ARGLWYDD o'r nefoedd
ar ddynolryw,
i weld a oes rhywun yn gwneud yn ddoeth
ac yn ceisio Duw.
3Ond y mae pawb ar gyfeiliorn,
ac mor llygredig â'i gilydd;
nid oes un a wna ddaioni,
nac oes, dim un.
4Oni ddarostyngir y gwneuthurwyr drygioni
sy'n llyncu fy mhobl fel llyncu bwyd,
ac sydd heb alw ar yr ARGLWYDD?
5Yno y byddant mewn dychryn mawr,
am fod Duw yng nghanol y rhai cyfiawn.
6Er i chwi watwar cyngor yr anghenus,
yr ARGLWYDD yw ei noddfa.
7O na ddôi gwaredigaeth i Israel o Seion!
Pan adfer yr ARGLWYDD lwyddiant i'w bobl,
fe lawenha Jacob, fe orfoledda Israel.

Dewis Presennol:

Y Salmau 14: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda