Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Job 24

24
1“Ni chedwir yr amseroedd gan yr Hollalluog,
ond nid yw'r rhai sy'n ei adnabod yn eu gwybod.
2Y mae'r annuwiol#24:2 Felly Groeg. Hebraeg heb annuwiol. yn symud terfynau,
ac yn lladrata'r praidd i'w bugeilio.
3Dygant asyn yr amddifad i ffwrdd,
a thywysant ymaith ych y weddw.
4Gwthiant y tlawd o'r ffordd,
a chwilia rhai anghenus y wlad am le i ymguddio.
5Ânt i'w gorchwyl fel asynnod gwyllt yn yr anialwch;
chwiliant am ysglyfaeth yn y diffeithwch, yn fwyd i'w plant.
6Medant faes nad yw'n eiddo iddynt,
a lloffant winllan yr anghyfiawn.
7Gorweddant drwy'r nos yn noeth, heb ddillad,
heb gysgod rhag yr oerni.
8Fe'u gwlychir gan law trwm y mynyddoedd;
am eu bod heb loches, ymwthiant at graig.
9“Tynnir yr amddifad oddi ar y fron,
a chymryd plentyn y tlawd yn wystl.
10“Cerddant o gwmpas yn noeth heb ddillad,
a newynant wrth gasglu ysgubau.
11Gwasgant yr olew rhwng y meini;
sathrant y cafnau gwin, ond y maent yn sychedig.
12O'r ddinas clywir griddfan y rhai sy'n marw,
ac ochain y rhai clwyfedig yn gweiddi am gymorth;
ond ni rydd Duw sylw i'w cri.
13“Dyma'r rhai sy'n gwrthryfela yn erbyn y goleuni,
y rhai nad ydynt yn adnabod ei ffyrdd,
nac yn aros yn ei lwybrau.
14Cyn i'r dydd wawrio daw'r llofrudd
i ladd yr anghenus a'r tlawd.
Yn y nos y gweithia'r lleidr;
y mae'n torri i mewn i dai yn y tywyllwch.#24:14 Hebraeg, y mae'n torri… tywyllwch ar ddechrau adn. 16.
15Y mae'r godinebwr yn gwylio'i gyfle yn y cyfnos,
gan ddweud, ‘Nid oes neb yn fy ngweld’,
ac yn gosod gorchudd ar ei wyneb.
16Cuddiant eu hunain yn ystod y dydd—
y rhain na wyddant beth yw goleuni.
17Y mae'r bore yr un fath â'r fagddu iddynt;
eu cynefin yw dychrynfeydd y fagddu.
18“Llysnafedd ar wyneb dyfroedd ydynt;
melltithiwyd eu cyfran yn y tir;
ni thry neb i gyfeiriad eu gwinllannoedd.
19Fel y mae sychder a gwres yn cipio'r dyfroedd ar ôl eira,
felly y gwna Sheol i'r rhai a bechodd.
20Anghofir hwy gan y groth, fe'u hysir gan y llyngyryn,
ac ni chofir hwy mwyach;
torrir ymaith anghyfiawnder fel coeden.
21Drygant yr un na ddygodd blant,
ac ni wnânt dda i'r weddw.
22“Y mae ef yn meddiannu'r cryf trwy ei nerth,
a phan gyfyd, nid oes gan neb hyder yn ei einioes.
23Gwna iddynt gredu y cynhelir hwy;
eto y mae ei lygaid ar eu ffyrdd.
24Dyrchefir hwy dros dro, yna diflannant;
gwywant a chiliant fel hocys#24:24 Felly Groeg. Cymh. 30:4. Hebraeg, popeth.;
gwywant fel brig y dywysen.
25Os nad felly y mae, pwy all fy ngwrthbrofi
a gwneud fy ngeiriau'n ddim?”

Dewis Presennol:

Job 24: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda