Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Job 23

23
1Atebodd Job:
2“Heddiw eto y mae fy nghwyn yn chwerw#23:2 Felly Groeg. Hebraeg, yn wrthryfelgar.,
a'i law#23:2 Felly Syrieg, Fwlgat. Hebraeg, a'm llaw. sy'n drwm er gwaethaf f'ochenaid.
3O na wyddwn ble y cawn ef,
a pha fodd i ddod at ei drigfan!
4Yna gosodwn fy achos o'i flaen,
a llenwi fy ngenau â dadleuon.
5Mynnwn wybod sut yr atebai fi,
a deall beth a ddywedai wrthyf.
6Ai gyda'i holl nerth y dadleuai â mi?
Na, ond fe roddai sylw imi.
7Sylwai mai un uniawn a ymresymai ag ef,
a chawn fy rhyddhau am byth gan fy marnwr.
8“Os af i'r dwyrain, nid yw ef yno;
ac os i'r gorllewin, ni chanfyddaf ef.
9Pan weithreda yn y gogledd, ni sylwaf;
os try i'r de, nis gwelaf.
10Ond y mae ef yn deall fy ffordd;
wedi iddo fy mhrofi, dof allan fel aur.
11Dilyn fy nhroed ei lwybr;
cadwaf ei ffordd heb wyro.
12Ni chiliaf oddi wrth orchmynion ei enau;
cadwaf ei eiriau yn fy mynwes.
13Erys ef yr un, a phwy a'i try?
Fe wna beth bynnag a ddymuna.
14Yn wir fe ddwg fy nedfryd i ben,
fel llawer o rai eraill sydd ganddo.
15Am hyn yr arswydaf rhagddo;
pan ystyriaf, fe'i hofnaf.
16Duw sy'n gwanychu fy nghalon;
yr Hollalluog sy'n fy nychryn;
17nid y tywyllwch sy'n cyfyngu arnaf,
na'r fagddu'n fy nghuddio.”

Dewis Presennol:

Job 23: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd