Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Job 25

25
1Yna atebodd Bildad y Suhiad:
2“Y mae awdurdod a dychryn gyda Duw
sy'n peri heddwch yn yr uchelder.
3A ellir rhifo ei fyddinoedd?
Ac ar bwy ni chyfyd ei oleuni?
4Sut y gall unrhyw un fod yn gyfiawn gerbron Duw?
A pha fodd y gwneir yn lân un a anwyd o wraig?
5Gwêl, nid yw'r lleuad yn rhoi goleuni pur,
ac nid yw'r sêr yn lân yn ei olwg.
6Beth, ynteu, am feidrolyn, y llyngyryn,
ac un dynol, y pryfyn?”

Dewis Presennol:

Job 25: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda