Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Job 26

26
1Yna atebodd Job:
2“O fel yr wyt ti wedi cynorthwyo'r di-rym,
a chynnal braich y di-nerth,
3a rhoi cyngor i'r diddeall,
a mynegi digonedd o wir ddoethineb!
4I bwy yr oeddit yn traethu geiriau,
a pha ysbryd a ddaeth allan ohonot?
5Cryna'r cysgodion yn y dyfnder,
a'r dyfroedd hefyd, a'r rhai sy'n trigo ynddynt.
6Y mae Sheol yn noeth ger ei fron,
ac nid oes gorchudd dros Abadon.
7Taena'r gogledd ar y gwagle,
a gesyd y ddaear ar ddim.
8Rhwyma'r dyfroedd yn ei gymylau,
ac ni rwygir y cwmwl odanynt.
9Taena orchudd dros wyneb y lloer,
a thyn ei gwmwl drosto.
10Gesyd gylch ar wyneb y dyfroedd,
yn derfyn rhwng goleuni a thywyllwch.
11Sigla colofnau'r nefoedd,
a dychrynant pan gerydda.
12Tawelodd y môr â'i nerth,
a thrawodd Rahab trwy ei ddoethineb.
13Cliriodd y nefoedd â'i wynt;
trywanodd ei law y sarff wibiog.
14Eto nid yw hyn ond ymylon ei ffyrdd;
prin sibrwd a glywsom am yr hyn a wnaeth.
Ond pwy a ddirnad drawiad ei nerth?”

Dewis Presennol:

Job 26: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda