Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 51

51
Gwaredigaeth i Seion
1“Gwrandewch arnaf, chwi sy'n dilyn cyfiawnder,
sy'n ceisio'r ARGLWYDD.
Edrychwch ar y graig y'ch naddwyd ohoni,
ac ar y chwarel lle'ch cloddiwyd;
2edrychwch at Abraham eich tad,
ac at Sara, a'ch dygodd i'r byd;
un ydoedd pan elwais ef,
ond fe'i bendithiais a'i amlhau.
3Bydd yr ARGLWYDD yn cysuro Seion,
yn cysuro ei holl fannau anghyfannedd;
bydd yn gwneud ei hanialwch yn Eden,
a'i diffeithwch yn ardd yr ARGLWYDD;
ceir o'i mewn lawenydd a gorfoledd,
emyn diolch a sain cân.
4“Gwrandewch arnaf, fy mhobl;
clywch fi, fy nghenedl;
oherwydd daw cyfraith allan oddi wrthyf,
a bydd fy marn yn goleuo pobloedd.
5Y mae fy muddugoliaeth gerllaw,
a'm hiachawdwriaeth ar ddod;
bydd fy mraich yn rheoli'r bobloedd;
bydd yr ynysoedd yn disgwyl wrthyf,
ac yn ymddiried yn fy mraich.
6Codwch eich golwg i'r nefoedd,
edrychwch ar y ddaear islaw;
y mae'r nefoedd yn diflannu fel mwg,
a'r ddaear yn treulio fel dilledyn,
a'i thrigolion yn marw fel gwybed#51:6 Felly Sgrôl. TM, marw yr un modd.;
ond bydd fy iachawdwriaeth yn parhau byth,
ac ni phalla fy muddugoliaeth.
7“Gwrandewch arnaf, chwi sy'n adnabod cyfiawnder,
rhai sydd â'm cyfraith yn eu calon:
Peidiwch ag ofni gwaradwydd pobl,
nac arswydo rhag eu gwatwar;
8oherwydd bydd y pryf yn eu hysu fel dilledyn,
a'r gwyfyn yn eu bwyta fel gwlân;
ond bydd fy muddugoliaeth yn parhau byth,
a'm hiachawdwriaeth i bob cenhedlaeth.”
9Deffro, deffro, gwisg dy nerth,
O fraich yr ARGLWYDD;
deffro, fel yn y dyddiau gynt,
a'r oesoedd o'r blaen.
Onid ti a ddrylliodd Rahab,
a thrywanu'r ddraig?
10Onid ti a sychodd y môr,
dyfroedd y dyfnder mawr?
Onid ti a wnaeth ddyfnderau'r môr yn ffordd
i'r gwaredigion groesi?
11Fe ddychwel gwaredigion yr ARGLWYDD;
dônt i Seion dan ganu,
a llawenydd tragwyddol ar bob un.
Hebryngir hwy gan lawenydd a gorfoledd,
a bydd gofid a griddfan yn ffoi ymaith.
12“Myfi, myfi sy'n eich diddanu;
pam, ynteu, yr ofnwch neb meidrol,
neu rywun sydd fel glaswelltyn?
13Pam yr ydych yn anghofio'r ARGLWYDD, eich creawdwr,
yr un a ledodd y nefoedd,
ac a sylfaenodd y ddaear?
Pam yr ofnwch o hyd, drwy'r dydd,
rhag llid gorthrymwr sy'n barod i ddistrywio?
Ond ple mae llid y gorthrymwr?
14Caiff y caeth ei ryddhau yn y man;
ni fydd yn marw yn y gell,
ac ni fydd pall ar ei fara.
15Myfi yw'r ARGLWYDD, dy Dduw,
sy'n cynhyrfu'r môr nes i'r tonnau ruo;
ARGLWYDD y Lluoedd yw fy enw.
16Gosodais fy ngeiriau yn dy enau,
cysgodais di yng nghledr fy llaw;
taenais y nefoedd a sylfaenais y ddaear,
a dweud wrth Seion, ‘Fy mhobl wyt ti.’ ”
Cwpan Digofaint Duw
17Deffro, deffro, cod, Jerwsalem;
yfaist o law yr ARGLWYDD gwpan ei lid,
yfaist bob dafn o waddod y cwpan meddwol.
18O blith yr holl blant yr esgorodd arnynt,
nid oes un a all ei thywys;
o'r holl rai a fagodd,
nid oes un a afael yn ei llaw.
19Daeth dau drychineb i'th gyfarfod—
pwy a'th ddiddana?
Dinistr a distryw, newyn a chleddyf—
pwy a'th gysura?#51:19 Felly Sgrôl a Fersiynau. TM, trwy bwy y'th gysuraf?
20Gorwedd dy blant yn llesg ym mhen pob heol,
fel gafrewig mewn magl;
y maent yn llawn o lid yr ARGLWYDD,
a cherydd dy Dduw.
21Am hynny, gwrando'n awr, y druan,
sy'n feddw, er nad trwy win.
22Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, dy Arglwydd a'th Dduw di,
yr un sy'n dadlau achos ei bobl:
“Cymerais o'th law y cwpan meddwol,
ac nid yfi mwyach waddod cwpan fy llid;
23ond rhof hi yn llaw dy ormeswyr,
a ddywedodd wrthyt, ‘Plyga i lawr
i ni gerdded trosot.’
Ac fe roist dy gefn fel llawr,
ac fel heol iddynt gerdded trosti.”

Dewis Presennol:

Eseia 51: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda