1
Eseia 51:12
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
“Myfi, myfi sy'n eich diddanu; pam, ynteu, yr ofnwch neb meidrol, neu rywun sydd fel glaswelltyn?
Cymharu
Archwiliwch Eseia 51:12
2
Eseia 51:16
Gosodais fy ngeiriau yn dy enau, cysgodais di yng nghledr fy llaw; taenais y nefoedd a sylfaenais y ddaear, a dweud wrth Seion, ‘Fy mhobl wyt ti.’ ”
Archwiliwch Eseia 51:16
3
Eseia 51:7
“Gwrandewch arnaf, chwi sy'n adnabod cyfiawnder, rhai sydd â'm cyfraith yn eu calon: Peidiwch ag ofni gwaradwydd pobl, nac arswydo rhag eu gwatwar
Archwiliwch Eseia 51:7
4
Eseia 51:3
Bydd yr ARGLWYDD yn cysuro Seion, yn cysuro ei holl fannau anghyfannedd; bydd yn gwneud ei hanialwch yn Eden, a'i diffeithwch yn ardd yr ARGLWYDD; ceir o'i mewn lawenydd a gorfoledd, emyn diolch a sain cân.
Archwiliwch Eseia 51:3
5
Eseia 51:11
Fe ddychwel gwaredigion yr ARGLWYDD; dônt i Seion dan ganu, a llawenydd tragwyddol ar bob un. Hebryngir hwy gan lawenydd a gorfoledd, a bydd gofid a griddfan yn ffoi ymaith.
Archwiliwch Eseia 51:11
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos