Ar y pryd roedd llawer yn synnu ato—
roedd ei wedd yn rhy hagr i ddyn,
a'i bryd yn hyllach na neb dynol,
a phobloedd lawer yn troi i ffwrdd rhag ei weld,
a brenhinoedd yn fud o'i blegid.
Ond byddant yn gweld peth nas eglurwyd iddynt,
ac yn deall yr hyn na chlywsant amdano.