Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 5

5
Cân y Winllan
1Mi ganaf i'm hanwylyd
ganig serch am ei winllan.
Yr oedd gan f'anwylyd winllan
ar fryncyn tra ffrwythlon;
2fe'i cloddiodd, a'i digaregu;
fe'i plannodd â'r gwinwydd gorau;
cododd dŵr yn ei chanol,
a naddu gwinwryf ynddi.
Disgwyliodd iddi ddwyn grawnwin,
ond fe ddygodd rawn drwg.
3Yn awr, breswylwyr Jerwsalem,
a chwi, bobl Jwda,
barnwch rhyngof fi a'm gwinllan.
4Beth oedd i'w wneud i'm gwinllan,
yn fwy nag a wneuthum?
Pam, ynteu, pan ddisgwyliwn iddi ddwyn grawnwin,
y dygodd rawn drwg?
5Yn awr, mi ddywedaf wrthych
beth a wnaf i'm gwinllan.
Tynnaf ymaith ei chlawdd,
ac fe'i difethir;
chwalaf ei mur,
ac fe'i sethrir dan draed;
6gadawaf hi wedi ei difrodi;
ni chaiff ei thocio na'i hofio;
fe dyf ynddi fieri a drain,
a gorchmynnaf i'r cymylau
beidio â glawio arni.
7Yn wir, gwinllan ARGLWYDD y Lluoedd yw tŷ Israel,
a phobl Jwda yw ei blanhigyn dethol;
disgwyliodd gael barn, ond cafodd drais;
yn lle cyfiawnder fe gafodd gri.
Barn ar Bechodau'r Dydd
8Gwae'r rhai sy'n cydio tŷ wrth dŷ,
sy'n chwanegu cae at gae
nes llyncu pob man,
a'ch gadael chwi'n unig yng nghanol y tir.
9Tyngodd#5:9 Cymh. Groeg. Hebraeg heb Tyngodd. ARGLWYDD y Lluoedd yn fy nghlyw,
“Bydd plastai yn anghyfannedd,
a thai helaeth a theg heb drigiannydd.
10Bydd deg cyfair o winllan yn dwyn un bath,
a homer o had heb gynhyrchu dim ond un effa.”
11Gwae'r rhai sy'n codi'n fore
i ddilyn diod gadarn,
ac sy'n oedi hyd yr hwyr
nes i'r gwin eu cynhyrfu.
12Yn eu gwleddoedd fe geir y delyn a'r nabl,
y tabwrdd a'r ffliwt a'r gwin;
ond nid ystyriant waith yr ARGLWYDD
nac edrych ar yr hyn a wnaeth.
13Am hynny, caethgludir fy mhobl
o ddiffyg gwybodaeth;
bydd eu bonedd yn trengi o newyn
a'u gwerin yn gwywo gan syched.
14Am hynny, lledodd Sheol ei llwnc,
ac agor ei cheg yn ddiderfyn;
fe lyncir y bonedd a'r werin,
ei thyrfa a'r sawl a ymffrostia ynddi.
15Darostyngir gwreng a bonedd,
a syrth llygad y balch;
16ond dyrchefir ARGLWYDD y Lluoedd mewn barn,
a sancteiddir y Duw sanctaidd mewn cyfiawnder.
17Yna bydd ŵyn yn pori fel yn eu cynefin,
a'r mynnod geifr#5:17 Felly Groeg. Hebraeg, a'r dieithriaid. yn bwyta ymysg yr adfeilion.
18Gwae'r rhai sy'n tynnu drygioni â rheffynnau oferedd,
a phechod megis â rhaffau men,
19y rhai sy'n dweud, “Brysied,
prysured gyda'i orchwyl, inni gael gweld;
doed pwrpas Sanct Israel i'r golwg, inni wybod beth yw.”
20Gwae'r rhai sy'n galw drwg yn dda, a da yn ddrwg,
sy'n gwneud tywyllwch yn oleuni, a goleuni yn dywyllwch,
sy'n gwneud chwerw yn felys a melys yn chwerw.
21Gwae'r rhai sy'n ddoeth yn eu golwg eu hunain,
ac yn gall yn eu tyb eu hunain.
22Gwae'r rhai sy'n arwyr wrth yfed gwin,
ac yn gryfion wrth gymysgu diod gadarn,
23y rhai sy'n cyfiawnhau'r euog am wobr,
ac yn gwrthod cyfiawnder i'r cyfiawn.
24Am hynny, fel yr ysir y sofl gan dafod o dân
ac y diflanna'r mân us yn y fflam,
felly y pydra eu gwreiddyn
ac y diflanna eu blagur fel llwch;
am iddynt wrthod cyfraith ARGLWYDD y Lluoedd,
a dirmygu gair Sanct Israel.
25Am hynny enynnodd llid yr ARGLWYDD yn erbyn ei bobl,
ac estynnodd ei law yn eu herbyn, a'u taro;
fe grynodd y mynyddoedd,
a gorweddai'r celanedd fel ysgarthion ar y strydoedd.
Er hynny ni throdd ei lid ef,
ac y mae'n dal i estyn allan ei law.
26Fe gyfyd faner i genhedloedd pell,
a chwibana arnynt o eithaf y ddaear,
ac wele, fe ddônt yn fuan a chwim.
27Nid oes neb yn blino nac yn baglu,
nid oes neb yn huno na chysgu,
nid oes neb a'i wregys wedi ei ddatod,
nac a charrai ei esgidiau wedi ei thorri.
28Y mae eu saethau'n llym
a'u bwâu i gyd yn dynn;
y mae carnau eu meirch fel callestr,
ac olwynion eu cerbydau fel corwynt.
29Y mae eu rhuad fel llew;
rhuant fel llewod ifanc,
sy'n chwyrnu wrth afael yn yr ysglyfaeth
a'i dwyn ymaith, heb neb yn ei harbed.
30Rhuant arni yn y dydd hwnnw,
fel rhuad y môr;
ac os edrychir tua'r tir, wele dywyllwch a chyfyngdra,
a'r goleuni yn tywyllu gan ei gymylau.

Dewis Presennol:

Eseia 5: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd