Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 4

4
1Yn y dydd hwnnw,
bydd saith o fenywod yn ymaflyd mewn un gŵr,
a dweud,
“Bwytawn ein bara ein hunain,
a gwisgo ein dillad ein hunain;
yn unig galwer ni wrth dy enw di,
a symud ymaith ein gwaradwydd.”
Blaguryn yr ARGLWYDD
2Yn y dydd hwnnw,
bydd blaguryn yr ARGLWYDD
yn brydferthwch ac yn ogoniant;
a bydd ffrwyth y tir yn falchder ac yn brydferthwch
i'r rhai dihangol yn Israel.
3Yna gelwir yn sanctaidd bob un sydd ar ôl yn Seion ac wedi ei adael yn Jerwsalem, pob un y cofnodir ei fod yn fyw yn Jerwsalem. 4Pan fydd yr ARGLWYDD wedi golchi ymaith fudreddi merched Seion, a charthu gwaed Jerwsalem o'i chanol trwy ysbryd barn ac ysbryd tanllyd, 5yna fe grea'r ARGLWYDD gwmwl yn y dydd, a llewyrch tân fflamllyd yn y nos, uwchben pob adeilad ar Fynydd Seion a phob man ymgynnull. Canys bydd y gogoniant yn ortho dros bopeth, 6ac yn bafiliwn i gysgodi yn y dydd rhag gwres, ac yn noddfa a lloches rhag tymestl a glaw.

Dewis Presennol:

Eseia 4: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda