Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 3

3
Barn ar Jerwsalem a Jwda
1Wele, y mae'r Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd,
yn symud ymaith o Jerwsalem a Jwda
y gynhaliaeth a'r ffon—
yr holl gynhaliaeth o fara ac o ddŵr—
2y gŵr cadarn, y rhyfelwr,
y barnwr a'r proffwyd,
y dewinwr a'r henadur,
3y capten a'r swyddog,
y cynghorwr a'r swynwr celfydd,
a'r sawl sy'n deall hudoliaeth.
4Gosodaf fechgyn yn swyddogion arnynt
a phlantos i'w rheoli;
5a bydd y bobl yn gorthrymu ei gilydd,
a phob un ei gymydog;
bydd y llanc yn drahaus yn erbyn yr henwr, yn y parchus.
6Pan gaiff rhywun afael ar ei frawd
yn nhŷ ei dad, fe ddywed,
“Y mae gennyt ti glogyn;
bydd di'n bennaeth arnom;
bydded y pentwr hwn o garnedd
dan dy awdurdod di.”
7Ond yn y dydd hwnnw fe etyb,
“Na, ni allaf fod yn arweinydd arnoch.
Nid oes bara yn fy nhŷ,
na chlogyn ychwaith;
ni chewch fy ngosod i yn bennaeth y tylwyth.”
8Cwympodd Jerwsalem, syrthiodd Jwda;
y mae eu geiriau a'u gweithredoedd yn erbyn yr ARGLWYDD,
yn herio ei fawrhydi.
9Y mae'r olwg ar eu hwynebau yn tystio yn eu herbyn,
ac y maent yn cyhoeddi eu pechodau fel Sodom.
Gwae hwy! Y maent yn dwyn drwg arnynt eu hunain.
10Dywedwch y bydd yn dda ar y cyfiawn,
canys cânt fwyta ffrwyth eu gweithredoedd.
11Gwae'r anwir! Bydd yn ddrwg arno,
canys fe gaiff yr hyn a haedda.
12Plant sy'n gorthrymu fy mhobl,
a gwragedd sy'n eu rheoli.
O fy mhobl, y mae dy arweinwyr yn dy gamarwain,
ac yn drysu trywydd dy lwybrau.
Duw yn Barnu
13Y mae'r ARGLWYDD yn sefyll i ddadlau ei achos,
ac yn barod i farnu ei bobl#3:13 Felly Fersiynau. Hebraeg, y bobloedd..
14Y mae'r ARGLWYDD yn dod i farn
yn erbyn henuriaid y bobl a'u swyddogion:
“Yr ydych wedi lloffa'r winllan yn llwyr;
y mae cyfran y tlawd yn eich tai.
15Beth yw eich meddwl, yn ysigo fy mhobl
ac yn mathru wyneb y tlawd?”
medd yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd.
Rhybuddio Merched Jerwsalem
16Dywedodd yr ARGLWYDD,
“Oherwydd i ferched Seion dorsythu,
a cherdded o amgylch â'u gyddfau'n ymestyn allan,
a'u llygaid yn cilwenu, a'u camau'n fursennaidd,
a rhodio â fferledau am eu traed,
17bydd yr ARGLWYDD yn rhoi clafr ar gorun merched Seion,
bydd yr ARGLWYDD yn dinoethi eu gwarthle hwy.”
18Yn y dydd hwnnw bydd yr ARGLWYDD yn symud ymaith bob addurn—y fferledau, y coronigau, y cilgantiau, 19y clustlysau, y breichledau, y gorchuddion, 20y penwisgoedd, y cadwyni, y gwregys, y blychau perarogl, y mân swyndlysau; 21y fodrwy-sêl, y fodrwy trwyn; 22y gwisgoedd hardd, y fantell, y glog a'r pyrsau; 23y gwisgoedd sidan a'r gwisgoedd lliain, y twrban a'r gorchudd wyneb.
24Yn lle perarogl bydd drewdod,
yn lle gwregys bydd rhaff;
yn lle tresi o wallt bydd moelni,
yn lle mantell bydd sachliain,
yn lle prydferthwch bydd marc llosg.
25Syrth dy wŷr gan gleddyf,
a'th wŷr nerthol mewn rhyfel;
26bydd pyrth y ddinas yn gofidio a galaru,
a hithau wedi ei gadael yn unig, yn eistedd ar y llawr.

Dewis Presennol:

Eseia 3: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda