Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 6

6
Galwad Eseia
1Yn y flwyddyn y bu farw'r Brenin Usseia, gwelais yr ARGLWYDD. Yr oedd yn eistedd ar orsedd uchel, ddyrchafedig, a godre'i wisg yn llenwi'r deml. 2Uwchlaw yr oedd seraffiaid i weini arno, pob un â chwech adain, dwy i guddio'r wyneb, dwy i guddio'r traed, a dwy i ehedeg. 3Yr oedd y naill yn datgan wrth y llall,
“Sanct, Sanct, Sanct yw ARGLWYDD y Lluoedd;
y mae'r holl ddaear yn llawn o'i ogoniant.”
4Ac fel yr oeddent yn galw, yr oedd sylfeini'r rhiniogau'n ysgwyd, a llanwyd y tŷ gan fwg. 5Yna dywedais, “Gwae fi! Y mae wedi darfod amdanaf! Dyn a'i wefusau'n aflan ydwyf, ac ymysg pobl a'u gwefusau'n aflan yr wyf yn byw; ac eto, yr wyf â'm llygaid fy hun wedi edrych ar y brenin, ARGLWYDD y Lluoedd.” 6Ond ehedodd un o'r seraffiaid ataf, a dwyn yn ei law farworyn a gymerodd mewn gefel oddi ar yr allor; 7ac fe'i rhoes i gyffwrdd â'm genau, a dweud, “Wele, y mae hwn wedi cyffwrdd â'th enau; symudwyd dy ddrygioni, a maddeuwyd dy bechod.” 8Yna clywais yr ARGLWYDD yn dweud,
“Pwy a anfonaf? Pwy a â drosom ni?”
Atebais innau, “Dyma fi, anfon fi.” 9Dywedodd,
“Dos, dywed wrth y bobl hyn,
‘Clywch yn wir, ond peidiwch â deall;
edrychwch yn wir, ond peidiwch â dirnad.’
10Brasâ galon y bobl,
trymha eu clustiau,
cau eu llygaid;
rhag iddynt weld â'u llygaid,
clywed â'u clustiau,
deall â'u calon,
a dychwelyd i'w hiacháu.”
11Gofynnais innau, “Pa hyd, ARGLWYDD?” Atebodd,
“Nes y bydd dinasoedd wedi eu hanrheithio
heb drigiannydd,
a'r tai heb bobl,
a'r wlad yn anrhaith anghyfannedd;
12nes y bydd yr ARGLWYDD wedi gyrru pawb ymhell,
a difrod mawr yng nghanol y wlad.
13Ac os erys y ddegfed ran ar ôl ynddi,
fe'i llosgir drachefn;
fel llwyfen neu dderwen fe'i teflir ymaith,
fel boncyff o'r uchelfa#6:13 Felly Sgrôl A. TM yn aneglur..
Had sanctaidd yw ei boncyff.”

Dewis Presennol:

Eseia 6: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd