Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 43

43
Gwir Waredydd Israel
1Yn awr, dyma'r hyn a ddywed yr ARGLWYDD
a'th greodd, Jacob, ac a'th luniodd, Israel:
“Paid ag ofni, oherwydd gwaredaf di;
galwaf ar dy enw; eiddof fi ydwyt.
2Pan fyddi'n mynd trwy'r dyfroedd, byddaf gyda thi;
a thrwy'r afonydd, ni ruthrant drosot.
Pan fyddi'n rhodio trwy'r tân, ni'th ddeifir,
a thrwy'r fflamau, ni losgant di.
3Oherwydd myfi, yr ARGLWYDD dy Dduw,
Sanct Israel, yw dy Waredydd;
rhof yr Aifft yn iawn trosot,
Ethiopia a Seba yn gyfnewid amdanat.
4Am dy fod yn werthfawr yn fy ngolwg,
yn ogoneddus, a minnau'n dy garu,
rhof eraill yn gyfnewid amdanat,
a phobloedd am dy einioes.
5Paid ag ofni; yr wyf fi gyda thi.
Dygaf dy had o'r dwyrain,
casglaf di o'r gorllewin;
6gorchmynnaf i'r gogledd, ‘Rho’,
ac i'r de, ‘Paid â dal yn ôl;
tyrd â'm meibion o bell,
a'm merched o eithafoedd byd—
7pob un sydd â'm henw arno,
ac a greais i'm gogoniant,
ac a luniais, ac a wneuthum.’ ”
Tystion i Dduw
8Dygwch allan y bobl sy'n ddall, er bod llygaid ganddynt,
y rhai sy'n fyddar, er bod clustiau ganddynt.
9Y mae'r holl bobl wedi eu casglu ynghyd,
a'r bobloedd wedi eu cynnull.
Pwy yn eu plith a fynega hyn,
a chyhoeddi i ni y pethau gynt?
Gadewch iddynt alw tystion i brofi'r achos,
a gwrando, a dyfarnu ei fod yn wir.
10“Chwi yw fy nhystion,” medd yr ARGLWYDD,
“fy ngwas, a etholais
er mwyn ichwi gael gwybod, a chredu ynof,
a deall mai myfi yw Duw.
Nid oedd duw wedi ei greu o'm blaen,
ac ni fydd yr un ar fy ôl.
11Myfi, myfi yw'r ARGLWYDD;
nid oes waredydd ond myfi.
12Myfi a fu'n mynegi, yn achub ac yn cyhoeddi,
pan nad oedd duw dieithr yn eich plith;
ac yr ydych chwi'n dystion i mi,” medd yr ARGLWYDD,
“mai myfi yw Duw.
13O'r dydd hwn, myfi yw Duw;
ni all neb waredu o'm llaw.
Beth bynnag a wnaf, ni all neb ei ddadwneud.”
14Dyma'r hyn a ddywed yr ARGLWYDD,
eich Gwaredydd, Sanct Israel:
“Er eich mwyn chwi byddaf yn anfon i Fabilon,
ac yn dryllio'r barrau i gyd,
a throi cân y Caldeaid yn wylofain.
15Myfi, yr ARGLWYDD, yw eich Sanct;
creawdwr Israel yw eich brenin.”
16Dyma'r hyn a ddywed yr ARGLWYDD,
a agorodd ffordd yn y môr
a llwybr yn y dyfroedd enbyd;
17a ddug allan gerbyd a march,
byddin a dewrion,
a hwythau'n gorwedd heb neb i'w codi,
yn darfod ac yn diffodd fel llin:
18“Peidiwch â meddwl am y pethau gynt,
peidiwch ag aros gyda'r hen hanes.
19Edrychwch, rwyf yn gwneud peth newydd;
y mae'n tarddu yn awr; oni allwch ei adnabod?
Yn wir, rwy'n gwneud ffordd yn yr anialwch,
ac afonydd yn y diffeithwch.
20Bydd anifeiliaid gwylltion yn fy mawrygu,
y bleiddiaid a'r estrys,
am imi roi dŵr yn yr anialwch
ac afonydd yn y diffeithwch,
er mwyn rhoi dŵr i'm pobl, f'etholedig,
21sef y bobl a luniais i mi fy hun,
iddynt fynegi fy nghlod.
22“Jacob, ni elwaist arnaf fi,
ond blinaist arnaf, Israel.
23Ni ddygaist i mi ddafad yn boethoffrwm,
na'm hanrhydeddu â'th ebyrth;
ni roddais faich bwydoffrwm arnat,
na'th flino am arogldarth.
24Ni phrynaist i mi galamus ag arian,
na'm llenwi â'th ebyrth breision;
ond rhoddaist dy bechodau yn faich arnaf,
blinaist fi â'th gamweddau.
25“Myfi, myfi yw Duw,
sy'n dileu dy droseddau er fy mwyn fy hun,
heb alw i gof dy bechodau.
26Cyhudda fi, dadleuwn â'n gilydd;
gosod dy achos gerbron, iti gael dyfarniad.
27Pechodd dy dad cyntaf,
a chododd d'arweinwyr yn f'erbyn,
28a halogodd dy dywysogion fy nghysegr#43:28 Cymh. Groeg. Hebraeg, Halogais dywysogion sanctaidd.;
felly rhoddais Jacob i'w ddinistrio,
ac Israel yn waradwydd.”

Dewis Presennol:

Eseia 43: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda