Eseia 44
44
Israel Etholedig
1“Yn awr, gwrando, fy ngwas Jacob,
Israel, yr hwn a ddewisais;
2dyma'r hyn a ddywed yr ARGLWYDD a'th wnaeth,
a'th luniodd o'r groth ac a'th gynorthwya:
Paid ag ofni, fy ngwas Jacob,
Jesurun, yr hwn a ddewisais.
3Tywalltaf ddyfroedd ar y tir sychedig
a ffrydiau ar y sychdir;
tywalltaf fy ysbryd ar dy had
a'm bendith ar dy hiliogaeth.
4Tarddant allan fel glaswellt,
fel helyg wrth ffrydiau dyfroedd.
5Dywed un, ‘Rwyf fi'n perthyn i'r ARGLWYDD’;
bydd un arall yn cymryd enw Jacob,
ac un arall drachefn yn ei arwyddo'i hun, ‘Eiddo'r ARGLWYDD’,
ac yn ei gyfenwi ei hun, ‘Israel’.”
6Dyma a ddywed yr ARGLWYDD, brenin Israel,
ARGLWYDD y Lluoedd, ei Waredydd:
“Myfi yw'r cyntaf, a myfi yw'r olaf;
nid oes duw ond myfi.
7Pwy sy'n debyg i mi? Bydded iddo ddatgan,
a mynegi a gosod ei achos ger fy mron.
Pwy a gyhoeddodd erstalwm y pethau sydd i ddod?#44:7 Tebygol. Hebraeg, er pan osodais bobl hynafol a phethau sydd i ddigwydd?
Dyweded wrthym#44:7 Hebraeg, wrthynt. beth sydd i ddigwydd.
8Peidiwch ag ofni na dychryn;
oni ddywedais wrthych erstalwm?
Fe fynegais, a chwi yw fy nhystion.
A oes duw ond myfi?
Nid oes craig. Ni wn i am un.”
9Y mae pawb sy'n gwneud eilunod yn ddiddim,
ac nid oes lles yng ngwrthrych eu serch;
y mae eu tystion heb weld a heb wybod,
ac o'r herwydd fe'u cywilyddir.
10Pwy sy'n gwneud duw neu'n cerfio delw
os nad yw'n elw iddo?
11Gwelwch, cywilyddir pawb sy'n gweithio arno,
ac nid yw'r crefftwyr yn ddim ond pobl.
Pan gasglant ynghyd a dod at ei gilydd,
daw ofn a chywilydd arnynt i gyd.
12Y mae'r gof yn hogi#44:12 Felly Groeg. Hebraeg heb yn hogi. cŷn
ac yn gweithio'r haearn yn y tân;
y mae'n ei ffurfio â morthwylion,
ac yn gweithio arno â nerth ei fraich.
Yna bydd arno angen bwyd, a'i nerth yn pallu,
ac eisiau diod arno, ac yntau'n diffygio.
13Y mae'r saer coed yn estyn llinyn,
ac yn marcio â phensil;
yna y mae'n llyfnhau'r pren â'r plaen,
ac yn ei fesur â chwmpas,
ac yn ei gerfio ar ffurf meidrolyn,
mor lluniaidd â ffurf ddynol—i fyw mewn tŷ.
14Y mae rhywun yn torri iddo'i hun gedrwydden,
neu'n dewis cypreswydden neu dderwen
wedi tyfu'n gryf yng nghanol y goedwig—
cedrwydden wedi ei phlannu, a'r glaw wedi ei chryfhau.
15Bydd peth ohoni'n danwydd i rywun i ymdwymo wrtho;
bydd hefyd yn cynnau tân i grasu bara;
a hefyd yn gwneud duw i'w addoli;
fe'i gwna'n ddelw gerfiedig ac ymgrymu iddi.
16Ie, y mae'n llosgi'r hanner yn dân,
ac yn rhostio cig arno,
ac yn bwyta'i wala;
y mae hefyd yn ymdwymo a dweud,
“Y mae blas ar dân;
peth braf yw gweld y fflam.”
17O'r gweddill y mae'n gwneud delw i fod yn dduw,
ac yn ymgrymu iddo a'i addoli;
y mae'n gweddïo arno a dweud,
“Gwared fi; fy nuw ydwyt.”
18Nid yw'r bobl yn gwybod nac yn deall;
aeth eu llygaid yn ddall rhag gweld,
a'u deall rhag amgyffred.
19Nid yw neb wedi troi'r peth yn ei feddwl,
nac yn gwybod nac yn deall, i ddweud,
“Llosgais hanner yn dân, a chrasu bara yn y marwor;
rhostiais gig a'i fwyta;
ac o'r gweddill rwy'n gwneud ffieiddbeth,
ac yn ymgrymu i ddarn o bren.”
20Yn wir y mae'n ymborthi ar ludw,
a'i feddwl crwydredig wedi ei yrru ar gyfeiliorn;
ni all ei waredu ei hun a dweud,
“Onid twyll yw'r hyn sydd yn fy llaw?”
21“Ystyria hyn, Jacob,
oherwydd fy ngwas wyt ti, Israel.
Lluniais di, gwas i mi wyt ti;
O Israel, paid â'm hanghofio#44:21 Neu, ni fyddi'n angof gennyf..
22Dileais dy gamweddau fel cwmwl,
a'th bechodau fel niwl;
dychwel ataf, canys yr wyf wedi dy waredu.”
23Canwch, nefoedd, oherwydd yr ARGLWYDD a wnaeth hyn;
gwaeddwch, ddyfnderoedd daear;
bloeddiwch, O fynyddoedd,
a'r goedwig a phob coeden o'i mewn;
y mae'r ARGLWYDD wedi gwaredu Jacob,
a chael gogoniant yn Israel.
Adfer Jerwsalem
24Dyma a ddywed yr ARGLWYDD, dy Waredydd,
a'r hwn a'th luniodd o'r groth:
“Myfi, yr ARGLWYDD, a wnaeth y cyfan—
estyn y nefoedd fy hunan,
a lledu'r ddaear heb neb gyda mi;
25diddymu arwyddion celwyddog,
gwneud ffyliaid o'r rhai sy'n dewino;
troi doethion yn eu hôl,
a gwneud eu gwybodaeth yn ynfydrwydd;
26cadarnhau gair ei was,
a chyflawni cyngor ei genhadon;
dweud wrth Jerwsalem, ‘Fe'th breswylir’,
ac wrth ddinasoedd Jwda, ‘Fe'ch adeiledir
cyfodaf drachefn eich adfeilion’;
27dweud wrth y dyfnder, ‘Bydd sych,
rwy'n sychu hefyd d'afonydd’;
28dweud wrth Cyrus, ‘Fy Mugail’,
ac fe gyflawna fy holl fwriad;
dweud wrth Jerwsalem, ‘Fe'th adeiledir’,
ac wrth y deml, ‘Fe'th sylfaenir’.”
Dewis Presennol:
Eseia 44: BCND
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004