Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 42

42
Gwas yr ARGLWYDD
1“Dyma fy ngwas, yr wyf yn ei gynnal,
f'etholedig, yr wyf yn ymhyfrydu ynddo.
Rhoddais fy ysbryd ynddo,
i gyhoeddi barn i'r cenhedloedd.
2Ni fydd yn gweiddi nac yn codi ei lais,
na pheri ei glywed yn yr heol.
3Ni fydd yn dryllio corsen ysig,
nac yn diffodd llin yn mygu;
bydd yn cyhoeddi barn gywir.
4Ni fydd yn diffodd, ac ni chaiff ei ddryllio,
nes iddo osod barn ar y ddaear;
y mae'r ynysoedd yn disgwyl am ei gyfraith.”
5Fel hyn y dywed Duw, yr ARGLWYDD,
a greodd y nefoedd a'i thaenu allan,
a luniodd y ddaear a'i chynnyrch,
a roddodd anadl i'r bobl sydd arni,
ac ysbryd i'r rhai sy'n rhodio ynddi:
6“Myfi yw'r ARGLWYDD;
gelwais di mewn cyfiawnder,
a gafael yn dy law;
lluniais di a'th osod yn gyfamod pobl,
yn oleuni cenhedloedd;
7i agor llygaid y deillion,
i arwain caethion allan o'r carchar,
a'r rhai sy'n byw mewn tywyllwch o'u cell.
8Myfi yw'r ARGLWYDD, dyna fy enw;
ni roddaf fy ngogoniant i neb arall,
na'm clod i ddelwau cerfiedig.
9Wele, y mae'r pethau cyntaf wedi digwydd,
a mynegaf yn awr bethau newydd;
cyn iddynt darddu rwy'n eu hysbysu ichwi.”
Moliant i'r ARGLWYDD
10Canwch i'r ARGLWYDD gân newydd,
canwch ei glod o eithaf y ddaear;
bydded i'r môr a'i gyflawnder ei ganmol#42:10 Tebygol. Hebraeg, y rhai sy'n disgyn i'r môr a'i gyflawnder.,
yr ynysoedd a'r rhai sy'n trigo ynddynt.
11Bydded i'r diffeithwch a'i ddinasoedd godi llef,
y pentrefi lle mae Cedar yn trigo;
bydded i drigolion Sela ganu
a bloeddio o ben y mynyddoedd.
12Bydded iddynt roi clod i'r ARGLWYDD,
a mynegi ei fawl yn yr ynysoedd.
13Y mae'r ARGLWYDD yn mynd allan fel arwr,
fel rhyfelwr yn cyffroi mewn llid;
y mae'n bloeddio, yn codi ei lais,
ac yn trechu ei elynion.
14“Bûm dawel dros amser hir,
yn ddistaw, ac yn ymatal;
yn awr llefaf fel gwraig yn esgor,
a gwingo a griddfan.
15Gwnaf fynyddoedd a bryniau yn ddiffaith,
a pheri i'w holl lysiau gleision wywo;
gwnaf afonydd yn ynysoedd,
a llynnau yn sychdir.
16Yna arweiniaf y deillion ar hyd ffordd ddieithr,
a'u tywys mewn llwybrau nad adnabuant;
paraf i'r tywyllwch fod yn oleuni o'u blaen,
ac unionaf ffyrdd troellog.
Dyma a wnaf iddynt, ac ni adawaf hwy.
17Ond cilio mewn cywilydd
a wna'r rhai sy'n ymddiried mewn eilunod
ac yn dweud wrth ddelwau tawdd,
‘Chwi yw ein duwiau ni.’ ”
Israel yn Fyddar a Dall
18“ ‘Chwi sy'n fyddar, clywch;
chwi sy'n ddall, edrychwch a gwelwch.
19Does neb mor ddall â'm gwas,
nac mor fyddar â'r negesydd a anfonaf;
does neb mor ddall â'r un ymroddedig,
mor ddall â gwas yr ARGLWYDD.
20Er iddo weld llawer, nid yw'n#42:20 Hebraeg, nid wyt yn. eu hystyried;
er bod ei glustiau'n agored, nid yw'n gwrando.’
21Dymunodd yr ARGLWYDD, er mwyn ei gyfiawnder,
fawrhau'r gyfraith, a'i gwneud yn anrhydeddus;
22ond ysbeiliwyd ac anrheithiwyd y bobl hyn;
cawsant bawb eu dal mewn tyllau,
a'u cuddio mewn celloedd,
yn ysbail heb waredydd,
yn anrhaith heb neb i ddweud, ‘Rho'n ôl.’
23Pwy ohonoch a all wrando ar hyn,
ac ystyried a gwrando i'r diwedd?
24Pwy a wnaeth Jacob yn anrhaith,
a rhoi Israel i'r ysbeilwyr?
Onid yr ARGLWYDD, y pechasom yn ei erbyn?
Nid oeddent am rodio yn ei ffyrdd
na gwrando ar ei gyfraith;
25felly tywalltodd ei lid a'i ddicter arnynt,
a chynddaredd y frwydr.
Caeodd y fflam amdano,
ond ni ddysgodd ei wers;
llosgodd, ond nid ystyriodd.”

Dewis Presennol:

Eseia 42: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda