Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Brenhinoedd 2

2
Cymryd Elias i'r Nefoedd
1Pan oedd yr ARGLWYDD ar fedr cymryd Elias i'r nefoedd mewn corwynt, aeth Elias ac Eliseus allan o Gilgal. 2A dywedodd Elias wrth Eliseus, “Aros di yma, oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn f'anfon i Fethel.” Dywedodd Eliseus, “Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a thithau, ni'th adawaf.” Felly aethant i Fethel. 3Daeth y proffwydi oedd ym Methel at Eliseus a dweud wrtho, “A wyddost ti fod yr ARGLWYDD am gymryd dy feistr oddi arnat heddiw?” “Gwn yn iawn,” meddai yntau, “peidiwch â dweud.” 4Dywedodd Elias wrtho, “Eliseus, aros di yma, oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn f'anfon i Jericho.” Dywedodd yntau, “Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a thithau, ni'th adawaf.” Felly aethant i Jericho. 5Daeth y proffwydi oedd yn Jericho at Eliseus a dweud wrtho, “A wyddost ti fod yr ARGLWYDD am gymryd dy feistr oddi arnat heddiw?” “Gwn yn iawn,” meddai yntau, “peidiwch â dweud.” 6Dywedodd Elias wrtho, “Aros di yma oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn f'anfon at yr Iorddonen.” Dywedodd yntau, “Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a thithau, ni'th adawaf.” Felly aethant ill dau. 7Ac yr oedd hanner cant o broffwydi wedi dod ac aros gyferbyn â hwy o hirbell tra oeddent hwy ill dau yn sefyll ar lan yr Iorddonen. 8Cymerodd Elias ei fantell a'i rholio a tharo'r dŵr. Ymrannodd y dŵr i'r ddeutu, a chroesodd y ddau ar dir sych. 9Wedi iddynt groesi, dywedodd Elias wrth Eliseus, “Gofyn! Beth a wnaf iti cyn fy nghymryd oddi wrthyt?” Atebodd Eliseus, “Rhodder imi gyfran ddwbl o'th ysbryd.” 10Dywedodd Elias, “Gwnaethost gais anodd. Os gweli fi yn cael fy nghymryd oddi wrthyt, fe gei hyn; ond os na weli, ni chei.” 11Ac fel yr oeddent yn mynd, dan siarad, dyma gerbyd tanllyd a meirch tanllyd yn eu gwahanu ill dau, ac Elias yn esgyn mewn corwynt i'r nef. 12Ac yr oedd Eliseus yn syllu ac yn gweiddi, “Fy nhad, fy nhad; cerbyd a marchogion Israel!” Ni welodd ef wedyn, a chydiodd yn ei wisg a'i rhwygo'n ddau. 13Yna cododd fantell Elias a oedd wedi syrthio oddi arno, a dychwelodd a sefyll ar lan yr Iorddonen. 14Cymerodd y fantell a syrthiodd oddi ar Elias, a tharo'r dŵr a dweud, “Ple y mae'r ARGLWYDD, Duw Elias?” Trawodd yntau'r dŵr, ac fe ymrannodd i'r ddeutu, a chroesodd Eliseus. 15Pan welodd y proffwydi oedd yr ochr draw, yn Jericho, dywedasant, “Disgynnodd ysbryd Elias ar Eliseus.” 16Ac aethant i'w gyfarfod ac ymgrymu hyd lawr iddo, a dweud, “Y mae gan dy weision hanner cant o ddynion cryfion; gad iddynt fynd i chwilio am dy feistr rhag ofn bod ysbryd yr ARGLWYDD, ar ôl ei gipio i fyny, wedi ei fwrw ar un o'r mynyddoedd, neu i ryw gwm.” Dywedodd, “Peidiwch ag anfon.” 17Ond buont yn daer nes bod cywilydd arno, a dywedodd, “Anfonwch.” Wedi iddynt anfon hanner cant o ddynion, buont yn chwilio am dridiau, ond heb ei gael. 18Arhosodd Eliseus yn Jericho nes iddynt ddychwelyd; yna dywedodd wrthynt, “Oni ddywedais wrthych am beidio â mynd?”
Gwyrthiau Eliseus
19Dywedodd trigolion y dref wrth Eliseus, “Edrych, y mae safle'r dref yn ddymunol, fel y sylwi, O feistr, ond y mae'r dŵr yn wenwynig a'r tir yn ddiffrwyth.” 20Dywedodd yntau, “Dewch â llestr newydd crai imi, a rhowch halen ynddo.” 21Wedi iddynt ddod ag ef ato, aeth at lygad y ffynnon a thaflu'r halen iddi a dweud, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Purais y dyfroedd hyn; ni ddaw angau na diffrwythdra oddi yno mwy.” 22Ac y mae'r dŵr yn bur hyd heddiw, yn union fel y dywedodd Eliseus.
23Aeth i fyny oddi yno i Fethel, ac fel yr oedd yn mynd, daeth bechgyn bach allan o ryw dref a'i wawdio a dweud wrtho, “Dos i fyny, foelyn! Dos i fyny, foelyn!” 24Troes yntau i edrych arnynt, a'u melltithio yn enw'r ARGLWYDD. Yna daeth dwy arth allan o'r goedwig a llarpio dau a deugain o'r plant. 25Oddi yno aeth i Fynydd Carmel, ac yna dychwelyd i Samaria.

Dewis Presennol:

2 Brenhinoedd 2: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda