Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Brenhinoedd 3

3
Rhyfel rhwng Israel a Moab
1Daeth Joram fab Ahab yn frenin ar Israel yn Samaria yn y ddeunawfed flwyddyn i Jehosaffat brenin Jwda. 2Teyrnasodd am ddeuddeng mlynedd, a gwnaeth ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, er nad cymaint â'i dad a'i fam, oherwydd bwriodd allan y golofn Baal a wnaeth ei dad. 3Ond glynodd yn ddiwyro wrth bechod Jeroboam fab Nebat, yr un a barodd i Israel bechu.
4Perchen defaid oedd Mesa brenin Moab, a byddai'n talu i frenin Israel gan mil o ŵyn a gwlân can mil o hyrddod. 5Ond wedi marw Ahab, gwrthryfelodd brenin Moab yn erbyn brenin Israel. 6Ac ar unwaith aeth y Brenin Jehoram o Samaria i restru holl Israel. 7Anfonodd hefyd at Jehosaffat brenin Jwda a dweud, “Y mae brenin Moab wedi gwrthryfela yn f'erbyn; a ddoi di gyda mi i ymladd yn erbyn Moab?” Dywedodd yntau, “Dof gam a cham gyda thi, dyn am ddyn, a march am farch.” 8A holodd, “Pa ffordd yr awn ni?” Atebodd yntau, “Ffordd anialwch Edom.” 9Felly aeth brenin Israel, brenin Jwda, a brenin Edom ar daith gylch o saith diwrnod, ac nid oedd dŵr i'r fyddin nac i'r anifeiliaid oedd yn eu canlyn. 10Ac meddai brenin Israel, “Och bod yr ARGLWYDD wedi galw'r tri brenin hyn allan i'w rhoi yn llaw brenin Moab!” 11Yna dywedodd Jehosaffat, “Onid oes yma broffwyd i'r ARGLWYDD, fel y gallwn ymofyn â'r ARGLWYDD drwyddo?” Atebodd un o weision brenin Israel, “Y mae Eliseus fab Saffat, a fu'n tywallt dŵr dros ddwylo Elias, yma.” 12Dywedodd Jehosaffat, “Y mae gair yr ARGLWYDD gydag ef.” Ac aeth brenin Israel a Jehosaffat a brenin Edom draw ato. 13Dywedodd Eliseus wrth frenin Israel, “Beth sydd a wnelom ni â'n gilydd? Dos at broffwydi dy dad a'th fam.” Dywedodd brenin Israel wrtho, “Nage; yr ARGLWYDD sydd wedi galw'r tri brenin hyn i'w rhoi yn llaw Moab.” 14Atebodd Eliseus, “Cyn wired â bod ARGLWYDD y Lluoedd yn fyw, yr hwn yr wyf yn ei wasanaethu, oni bai fy mod yn parchu Jehosaffat brenin Jwda, ni fyddwn yn talu sylw iti nac yn edrych arnat. 15Ond yn awr, dewch â thelynor ataf.” 16Ac fel yr oedd y telynor yn canu, daeth llaw yr ARGLWYDD arno, a dywedodd, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Gwneir y dyffryn hwn yn llawn ffosydd. 17Oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Ni welwch na gwynt na glaw; eto llenwir y dyffryn hwn â dŵr, a chewch chwi a'ch eiddo a'ch anifeiliaid yfed. 18A chan mor rhwydd yw hyn yng ngolwg yr ARGLWYDD, fe rydd Moab yn eich llaw hefyd. 19Dinistriwch bob dinas gaerog a phob tref ddewisol, torrwch i lawr bob pren teg, caewch bob ffynnon ddŵr a difwynwch bob darn o dir da â cherrig.” 20Ac yn y bore, tuag adeg offrymu'r aberth, gwelwyd dyfroedd yn llifo o gyfeiriad Edom ac yn llenwi'r tir.
21Pan glywodd pobl Moab fod y brenhinoedd wedi dod i ryfel yn eu herbyn, galwyd i'r gad bob un oedd yn ddigon hen i drin arfau; ac yr oeddent yn sefyll ar y goror. 22Wedi iddynt godi yn y bore, yr oedd yr haul yn tywynnu ar y dŵr, a'r Moabiaid yn gweld y dŵr o'u blaenau yn goch fel gwaed. 23Ac meddent, “Gwaed yw hwn; y mae'r brenhinoedd wedi ymladd â'i gilydd, a'r naill wedi lladd y llall; ac yn awr, Moab, at yr anrhaith!” 24Ond pan ddaethant at wersyll Israel, cododd yr Israeliaid a tharo Moab; ffodd y Moabiaid o'u blaenau, a hwythau'n dal i'w hymlid a'u taro. 25Yna aethant i ddistrywio'r dinasoedd, a thaflu bawb ei garreg a llenwi pob darn o dir da, a chau pob ffynnon ddŵr, a chwympo pob pren teg, nes gadael dim ond#3:25 Felly Fersiynau. Hebraeg, gadael ei cherrig yn. Cir-hareseth; ac amgylchodd y ffon-daflwyr hi, a'i tharo hithau.
26Pan welodd brenin Moab fod y frwydr yn drech nag ef, cymerodd gydag ef saith gant o wŷr cleddyf i ruthro ar frenin Edom, ond methodd. 27Felly cymerodd ei fab cyntafanedig, a fyddai'n teyrnasu ar ei ôl, ac offrymodd ef yn aberth ar y mur. A bu llid mawr yn erbyn Israel, a chiliasant oddi wrtho a dychwelyd i'w gwlad.

Dewis Presennol:

2 Brenhinoedd 3: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda