Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Brenhinoedd 1

1
Elias a'r Brenin Ahaseia
1Wedi marw Ahab gwrthryfelodd Moab yn erbyn Israel.
2Syrthiodd Ahaseia o ffenestr ei lofft yn Samaria a chael ei anafu. Yna anfonodd negeswyr a dweud wrthynt, “Ewch i ymofyn â Baal-sebub duw Ecron, a fyddaf yn gwella o'm hanaf.” 3A dywedodd angel yr ARGLWYDD wrth Elias y Thesbiad, “Dos i gyfarfod negeswyr brenin Samaria, a dywed wrthynt, ‘Ai am nad oes Duw yn Israel yr wyt yn anfon i ymofyn â Baal-sebub duw Ecron? 4Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Ni ddoi o'r gwely yr aethost iddo, ond byddi farw.’ ” Ac aeth Elias.
5Dychwelodd y negeswyr, a gofynnodd Ahaseia iddynt, “Pam yr ydych wedi dychwelyd?” 6Eu hateb oedd, “Daeth rhyw ddyn i'n cyfarfod a dweud wrthym, ‘Ewch yn ôl at y brenin sydd wedi'ch anfon, a dweud wrtho, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Ai am nad oes Duw yn Israel yr wyt yn anfon i ymofyn â Baal-sebub duw Ecron? Am hynny, ni ddoi o'r gwely yr aethost iddo, ond byddi farw”.’ ” 7Gofynnodd y brenin, “Sut un oedd y dyn a ddaeth i'ch cyfarfod a dweud hyn wrthych?” 8Atebodd y dynion, “Dyn blewog, a gwregys o groen am ei ganol.” Ac meddai yntau, “Elias y Thesbiad oedd.”
9Yna anfonodd gapten hanner cant gyda'i ddynion at Elias, a daeth o hyd iddo yn eistedd ar ben bryncyn. Dywedodd wrtho, “Ti ŵr Duw, y mae'r brenin yn gorchymyn iti ddod i lawr.” 10Atebodd Elias y capten, “Os wyf fi'n ŵr Duw, doed tân o'r nef a'th ddifa di a'th hanner cant.” A disgynnodd tân o'r nefoedd a'i ddifa ef a'i hanner cant. 11Anfonodd y brenin gapten hanner cant arall gyda'i ddynion; a daeth yntau a dweud, “Gŵr Duw, dyma a ddywed y brenin: Tyrd i lawr ar unwaith.” 12Atebodd Elias, “Os wyf fi'n ŵr Duw, doed tân o'r nef a'th ddifa di a'th hanner cant.” 13A disgynnodd tân o'r nefoedd a'i ddifa ef a'i hanner cant. Yna anfonwyd trydydd capten hanner cant gyda'i ddynion. Pan ddaeth y trydydd capten i fyny ato, fe syrthiodd ar ei liniau o flaen Elias a chrefu arno, “O ŵr Duw, gad i'm bywyd i, a bywyd yr hanner cant yma o'th weision, fod yn werthfawr yn d'olwg. 14Y mae tân wedi disgyn o'r nef a difa'r ddau gapten cyntaf a'u dynion, ond yn awr gad i'm bywyd fod yn werthfawr yn d'olwg.” 15Dywedodd angel yr ARGLWYDD wrth Elias, “Dos i lawr gydag ef; paid â'i ofni.” 16Yna aeth i lawr gydag ef at y brenin a dweud wrtho, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Am iti anfon negeswyr i ymofyn â Baal-sebub duw Ecron (ai am nad oes Duw yn Israel i ymofyn am ei air?), ni ddoi o'r gwely yr aethost iddo, ond byddi farw.” 17A marw a wnaeth, yn unol â gair yr ARGLWYDD, a lefarodd Elias. Am nad oedd ganddo fab, daeth Jehoram yn frenin yn ei le, yn ail flwyddyn Jehoram fab Jehosaffat, brenin Jwda. 18Am weddill y pethau a wnaeth Ahaseia, onid ydynt wedi eu hysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel?

Dewis Presennol:

2 Brenhinoedd 1: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda