Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Brenhinoedd 7

7
Palas Solomon
1Tair blynedd ar ddeg y bu Solomon yn adeiladu ei dŷ ei hun cyn ei orffen yn llwyr.
2Adeiladodd Dŷ Coedwig Lebanon, yn gan cufydd o hyd, yn hanner can cufydd o led, a deg cufydd ar hugain o uchder, ar dair#7:2 Felly Groeg. Hebraeg, pedair. rhes o golofnau cedrwydd, gyda thrawstiau cedrwydd ar ben y colofnau. 3To o gedrwydd oedd uwchben y tulathau ar y pum colofn a deugain, a safai pymtheg ym mhob rhes. 4Ac yr oedd tair rhes o ffenestri yn wynebu ei gilydd fesul tair. 5Yr oedd fframiau sgwâr i'r holl ddrysau, ac i'r ffenestri#7:5 Felly Groeg. Hebraeg, cilbyst. oedd yn wynebu ei gilydd fesul tair.
6Gwnaeth Neuadd y Colofnau hefyd, yn hanner can cufydd o hyd a deg cufydd ar hugain o led, a chyntedd o'i blaen gyda cholofnau, a chornis uwchben.
7Gwnaeth Neuadd yr Orsedd, lle'r oedd yn gweinyddu barn, sef y Neuadd Barn, wedi ei phanelu â chedrwydd o'r llawr i'r distiau#7:7 Felly Syrieg, Lladin. Hebraeg, llawr.. 8Ac yr oedd ei dŷ annedd ei hun ar y cwrt arall yn nes i mewn na'r neuadd, ond o'r un gwneuthuriad. Gwnaeth Solomon hefyd dŷ yr un fath â'r neuadd hon i'w briod, merch Pharo.
9Yr oedd y rhai hyn i gyd, y tu mewn a'r tu allan, o feini trymion, wedi eu torri i fesur a'u llifio, o'r sylfaen i'r bondo, o gwrt tŷ'r ARGLWYDD#7:9 Cymh. adn. 12. Hebraeg, o'r tu allan., hyd y cwrt mawr. 10Yr oedd y sylfeini o feini mawr, trymion, rhai o wyth a rhai o ddeg cufydd; 11ac uwchben, meini trymion wedi eu torri i fesur, a chedrwydd. 12Yr oedd gan y cwrt mawr dri chwrs o gerrig nadd a chwrs o drawstiau cedrwydd, a'r un modd cwrt mewnol tŷ'r ARGLWYDD hyd borth y tŷ.
Tasg Hiram
13Anfonodd y Brenin Solomon i Tyrus i gyrchu Hiram, 14mab i wraig weddw o lwyth Nafftali, a'i dad yn hanu o Tyrus. Gof pres cywrain a deallus oedd ef, yn gwybod sut i wneud pob math o waith pres; a daeth at y Brenin Solomon a gwneud ei holl waith.
Y Ddwy Golofn Bres
2 Cron. 3:15–17
15Bwriodd ddwy golofn bres, deunaw cufydd o uchder, gyda chylchlin o ddeuddeg cufydd yr un; yr oeddent yn wag o'r tu mewn, a'r deunydd yn bedair modfedd o drwch#7:15 Felly Groeg. Hebraeg heb yr oeddent… o drwch.. 16Gwnaeth ddau gnap o bres tawdd i'w gosod ar ben y colofnau, y naill a'r llall yn bum cufydd o uchder. 17Yna gwnaeth rwydwaith a phlethiadau o gadwynwaith#7:17 Felly Groeg. Hebraeg, saith. i'r naill a'r llall o'r cnapiau ar ben y colofnau. 18Gwnaeth bomgranadau#7:18 Felly Groeg. Hebraeg, Gwnaeth y colofnau. yn ddwy res ar y rhwydwaith o'i amgylch, i guddio'r cnapiau ar ben y naill golofn a'r llall. 19Yr oedd y cnapiau ar ben y colofnau yn y porth yn waith lili am bedwar cufydd. 20Yr oedd y cnapiau ar ben y colofnau yn codi o'r cylch crwn oedd gogyfer â'r rhwydwaith, ac yr oedd dau gant o bomgranadau yn rhesi o gylch y ddau#7:20 Hebraeg, yr ail. gnap. 21Gosododd y colofnau ym mhorth y deml; cododd y golofn dde a'i galw'n Jachin, yna cododd y golofn chwith a'i galw'n Boas. 22Ar ben y colofnau yr oedd gwaith lili; ac fel hyn y gorffennwyd gwaith y colofnau.
Y Môr o Fetel Tawdd
2 Cron. 4:2–5
23Yna fe wnaeth y môr o fetel tawdd; yr oedd yn grwn ac yn ddeg cufydd o ymyl i ymyl, a phum cufydd o uchder, yn mesur deg cufydd ar hugain o gylch. 24O amgylch y môr, yn ei gylchynu dan ei ymyl am ddeg cufydd ar hugain#7:24 Hebraeg, am ddeg cufydd., yr oedd cnapiau; yr oeddent mewn dwy res ac wedi eu bwrw'n rhan ohono. 25Safai'r môr ar gefn deuddeg ych, tri yn wynebu tua'r gogledd, tri tua'r gorllewin, tri tua'r de, a thri tua'r dwyrain, a'u cynffonnau at i mewn. 26Dyrnfedd oedd ei drwch, a'i ymyl wedi ei weithio fel ymyl cwpan neu flodyn lili; yr oedd yn dal dwy fil o bathau.
Y Trolïau Pres
27Gwnaeth hefyd ddeg o drolïau pres, yn bedwar cufydd o hyd a phedwar cufydd o led a thri chufydd o uchder. 28Yng ngwneuthuriad y trolïau yr oedd panelau rhwng fframiau, ac ar y panelau hyn yr oedd llewod ac ychen a cherwbiaid. 29Ac yr oedd plethennau o riswaith ar y fframiau, uwchben ac o dan y llewod a'r ychen. 30Yr oedd gan bob troli bedair olwyn bres ac echelau pres, ac ysgwyddau dan eu pedair congl ar gyfer y noe, a'r ysgwyddau yn waith tawdd, a phlethennau wrth bob un. 31Yr oedd ei genau oddi mewn i gorongylch, yn gufydd o uchder, a'r genau yn gylch cufydd a hanner, fel gwneuthuriad soced. Yr oedd cerfiadau o gwmpas y genau, a'r panelau yn sgwâr, nid yn grwn. 32Yr oedd y pedair olwyn o dan y panelau, a phlatiau echel yr olwynion yn y ffrâm; cufydd a hanner oedd uchder pob olwyn. 33Yr oedd yr olwynion wedi eu gwneud fel olwyn cerbyd, a'u hechelau a'u camegau a'u ffyn a'u bothau i gyd yn waith tawdd. 34Ac yr oedd pedair ysgwydd ym mhedair congl pob troli, a'r ysgwyddau yn un darn â'r troli. 35Ac ar ben y troli yr oedd cylch crwn hanner cufydd o uchder, a'r platiau echel a'r panelau yn un darn â hi. 36Ar wyneb y platiau a'r panelau cerfiodd gerwbiaid, llewod a phalmwydd, a phlethennau o amgylch pob un. 37Fel hyn y gwnaeth y deg troli, gyda'r un mold, yr un maint a'r un ffurf i bob un.
38Hefyd fe wnaeth ddeg noe bres i ddal deugain bath yr un, pob noe yn bedwar cufydd. Gosododd hwy bob yn un ar y deg troli, 39pum troli ar ochr dde y tŷ, a phump ar yr ochr chwith; a gosododd y môr ar ochr dde-ddwyrain y tŷ.
Offer y Deml
2 Cron. 4:11—5:1
40Gwnaeth Hiram y crochanau, y rhawiau a'r cawgiau, a gorffen yr holl waith a wnaeth i'r Brenin Solomon ar gyfer tŷ'r ARGLWYDD: 41y ddwy golofn, y ddau gnap coronog ar ben y colofnau; y ddau rwydwaith dros y ddau gnap coronog ar ben y colofnau; 42y pedwar can pomgranad yn ddwy res ar y ddau rwydwaith dros y ddau gnap coronog ar y colofnau; y deg troli; 43y deg noe ar y trolïau; 44y môr a'r deuddeg ych dano; 45y crochanau, y rhawiau, a'r cawgiau. Ac yr oedd yr holl offer hyn a wnaeth Hiram i'r Brenin Solomon ar gyfer tŷ'r ARGLWYDD o bres gloyw. 46Toddodd y brenin hwy yn y cleidir rhwng Succoth a Sarethan yng ngwastadedd yr Iorddonen. 47Peidiodd Solomon â phwyso'r holl lestri gan mor niferus oeddent, ac na ellid pwyso'r pres.
48A gwnaeth Solomon yr holl offer aur oedd yn perthyn i dŷ'r ARGLWYDD: yr allor aur a'r bwrdd aur i ddal y bara gosod; 49y canwyllbrennau o aur pur, pump ar y dde a phump ar y chwith o flaen y cysegr mewnol; y blodau a'r llusernau a'r gefeiliau aur; 50y ffiolau, y sisyrnau, y cawgiau, y llwyau a'r thuserau hefyd o aur pur; a'r socedau aur i'r dorau tu mewn i'r cysegr sancteiddiaf ac i'r dorau o fewn y côr.
51Wedi i'r Brenin Solomon orffen yr holl waith a wnaeth yn nhŷ'r ARGLWYDD, dygodd y pethau yr oedd ei dad Dafydd wedi eu cysegru, yr arian a'r aur a'r offer, a'u gosod yn nhrysordai tŷ'r ARGLWYDD.

Dewis Presennol:

1 Brenhinoedd 7: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda