Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Brenhinoedd 6

6
1Yn y flwyddyn pedwar cant wyth deg ar ôl i'r Israeliaid ddod allan o wlad yr Aifft, ym mhedwaredd flwyddyn ei deyrnasiad ar Israel, ym mis Sif, yr ail fis, dechreuodd Solomon adeiladu tŷ'r ARGLWYDD. 2Yr oedd y tŷ a adeiladodd y Brenin Solomon i'r ARGLWYDD yn drigain cufydd ei hyd, yn ugain cufydd ei led ac yn ddeg cufydd ar hugain ei uchder. 3Yr oedd y cyntedd o flaen corff y tŷ yn ugain cufydd ei hyd, gyda lled y tŷ, a deg cufydd o led o flaen y tŷ. 4A gwnaeth ffenestri i'r tŷ yn goleuo at i lawr trwy ddelltwaith. 5Cododd adeilad yn erbyn mur y tŷ o gylch#6:5 Felly Groeg. Hebraeg, o gylch gyda muriau'r tŷ o gylch. corff y tŷ a'r cysegr mewnol; a gwnaeth fwtresi o amgylch. 6Yr oedd y celloedd#6:6 Felly Groeg. Hebraeg, yr adail. isaf yn bum cufydd o led, y rhai canol yn chwe chufydd, a'r drydedd res yn saith gufydd, oherwydd gwnaeth rabadau oddi allan i'r tŷ o amgylch fel na rwymid y trawstiau ym muriau'r tŷ. 7Adeiladwyd y tŷ o gerrig wedi eu cyweirio yn y chwarel, fel nad oedd sŵn morthwyl na neddau nac unrhyw erfyn haearn i'w glywed yn y tŷ wrth ei adeiladu.
8Ar ochr dde'r tŷ yr oedd y mynediad i'r llawr isaf#6:8 Felly Groeg a Targwm. Hebraeg, canol., gyda grisiau tro yn esgyn i'r llawr canol ac o'r un canol i'r trydydd. 9Wedi iddo orffen ei adeiladu, coediodd y tŷ â thrawstiau ac ystyllod o gedrwydd. 10Cododd adeilad pum cufydd ei uchder yn erbyn yr holl dŷ, a'i gydio wrth y tŷ â chedrwydd.
11Daeth gair yr ARGLWYDD at Solomon, gan ddweud, 12“Ynglŷn â'r tŷ hwn yr wyt yn ei adeiladu, os bydd iti rodio yn fy neddfau a chyflawni fy marnedigaethau a chadw fy holl orchmynion a'u dilyn, yna cyflawnaf iti yr addewid a wneuthum i'th dad Dafydd; 13a thrigaf ymysg plant Israel, ac ni adawaf fy mhobl Israel.”
Tu Mewn y Deml
2 Cron. 3:8–14
14Adeiladodd Solomon y tŷ a'i orffen; 15a byrddiodd barwydydd y tŷ ag ystyllod cedrwydd, a'u coedio o'r llawr hyd dulathau'r#6:15 Felly Groeg. Hebraeg, parwydydd y. nenfwd, a llorio'r tŷ â phlanciau ffynidwydd. 16Caeodd ugain cufydd yn nhalcen y tŷ ag ystyllod cedrwydd, o'r llawr hyd y tulathau#6:16 Felly Groeg. Hebraeg, parwydydd., a'i neilltuo iddo'i hun yn gysegr mewnol, i fod yn gysegr sancteiddiaf. 17Yr oedd y tŷ, sef corff y deml o flaen y cysegr mewnol, yn ddeugain cufydd o hyd. 18Yr oedd y cedrwydd y tu mewn i'r tŷ wedi eu cerfio'n gnapiau ac yn flodau agored; yr oedd yn gedrwydd i gyd, heb garreg yn y golwg.
19Darparodd y cysegr mewnol yn y man nesaf i mewn yn y tŷ i dderbyn arch cyfamod yr ARGLWYDD. 20Yr oedd y#6:20 Felly Fwlgat. Hebraeg, o flaen y. cysegr mewnol yn ugain cufydd o hyd, ugain o led ac ugain o uchder, a goreurodd hi ag aur pur; gwnaeth#6:20 Felly Groeg. Hebraeg, goreurodd. hefyd allor gedrwydd. 21Goreurodd Solomon y tŷ oddi mewn ag aur pur, a gosododd gadwyni aur ar draws, o flaen y cysegr mewnol a oreurwyd. 22Gwisgodd yr holl dŷ o'i gwr ag aur, a'r allor i gyd, a oedd yn perthyn i'r cysegr mewnol.
23Yn y cysegr mewnol gwnaeth ddau gerwb, deg cufydd o uchder, o bren olewydd. 24Yr oedd dwy adain y naill gerwb yn bum cufydd yr un, sef deg cufydd o flaen un adain i flaen y llall. 25Yr oedd yr ail gerwb yn ddeg cufydd hefyd, gyda'r un mesur a'r un ffurf i'r ddau. 26Deg cufydd oedd uchder y naill a'r llall. 27Gosododd y cerwbiaid yng nghanol y cysegr mewnol#6:27 Tebygol. Hebraeg, y tŷ mewnol.. Yr oedd eu hadenydd ar led, ac adain y naill yn cyffwrdd ag un pared ac adain y llall yn cyffwrdd â'r pared arall, a'u hadenydd yn cyffwrdd â'i gilydd yn y canol. 28Yr oedd wedi goreuro'r cerwbiaid. 29Cerfiodd holl barwydydd y cysegr mewnol#6:29 Hebraeg, y tŷ. o amgylch â lluniau cerwbiaid a phalmwydd a blodau agored, y tu mewn a'r tu allan; 30a goreurodd lawr y cysegr mewnol#6:30 Hebraeg, y tŷ. oddi mewn ac oddi allan.
31Gwnaeth ddorau o goed olewydd i fynedfa'r cysegr mewnol, a'r capan a'r cilbyst yn bumochrog.
32Cerfiodd gerwbiaid a phalmwydd a blodau agored ar y ddwy ddôr o goed olewydd; wedyn goreurodd hwy, a rhedeg aur dros y cerwbiaid a'r palmwydd.
33Yn yr un modd gwnaeth gilbyst sgwâr#6:33 Tebygol. Hebraeg yn aneglur. o goed palmwydd i fynedfa corff y deml. 34Yr oedd y ddwy ddôr o goed ffynidwydd, y naill a'r llall yn ddeuddarn yn plygu ar ei gilydd. 35Cerfiodd gerwbiaid a phalmwydd a blodau agored arnynt, a'u goreuro'n gytbwys dros y cerfiad. 36Adeiladodd y cyntedd nesaf i mewn â thri chwrs o gerrig nadd ac â chwrs o drawstiau cedrwydd.
37Gosodwyd sylfaen tŷ'r ARGLWYDD ym mis Sif o'r bedwaredd flwyddyn; 38a gorffennwyd y tŷ yn ôl holl ofynion y cynllun ym mis Bul (dyna'r wythfed mis) o'r unfed flwyddyn ar ddeg. Felly saith mlynedd y bu'n ei adeiladu.

Dewis Presennol:

1 Brenhinoedd 6: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda