Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Brenhinoedd 5

5
Solomon yn Paratoi i Adeiladu'r Deml
2 Cron. 2:1–18
1 # 5:1 Hebraeg, adn. 15. Pan glywodd Hiram brenin Tyrus mai Solomon oedd wedi ei eneinio yn frenin yn lle ei dad, anfonodd ei weision ato, oherwydd bu Dafydd yn hoff gan Hiram erioed. 2Anfonodd Solomon yn ôl at Hiram a dweud, 3“Gwyddost am fy nhad Dafydd, na allodd adeiladu tŷ i enw'r ARGLWYDD ei Dduw o achos y rhyfeloedd o'i amgylch, nes i'r ARGLWYDD roi ei elynion dan wadnau ei draed. 4Bellach, parodd yr ARGLWYDD fy Nuw imi gael llonydd oddi amgylch, heb na gwrthwynebydd na digwyddiad croes. 5Y mae yn fy mwriad adeiladu tŷ i enw'r ARGLWYDD fy Nuw fel yr addawodd yr ARGLWYDD wrth fy nhad Dafydd, gan ddweud, ‘Dy fab, y byddaf yn ei roi ar dy orsedd yn dy le, a adeilada'r tŷ i'm henw.’ 6Felly rho orchymyn i dorri i mi gedrwydd o Lebanon; fe gaiff fy ngweision i fod gyda'th rai di, ac mi dalaf iti gyflog dy weision yn ôl yr hyn a ofynni; gwyddost nad oes gennym ni neb mor hyddysg â'r Sidoniaid mewn cymynu coed.”
7Llawenychodd Hiram yn fawr pan glywodd eiriau Solomon, a dywedodd, “Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD heddiw am iddo roi i Ddafydd fab doeth dros y bobl niferus hyn.” 8Anfonodd at Solomon, a dweud, “Rwy'n cydsynio â'r cais a wnaethost; gwnaf bopeth a ddymuni ynglŷn â'r cedrwydd a'r ffynidwydd. 9Caiff fy ngweision eu dwyn i lawr o Lebanon at y môr, a byddaf fi'n eu gyrru'n rafftiau dros y môr i'r man a benni imi; byddaf yn eu datod yno, i ti eu cymryd. Cei dithau gyflawni fy nymuniad innau a rhoi ymborth ar gyfer fy mhalas.” 10Felly yr oedd Hiram yn rhoi i Solomon gymaint ag a fynnai o gedrwydd a ffynidwydd, 11a Solomon yn rhoi i Hiram ugain mil o gorusau o wenith ac ugain corus o olew coeth yn gynhaliaeth i'w balas. Dyna beth yr oedd Solomon yn ei roi i Hiram yn flynyddol. 12A rhoes yr ARGLWYDD ddoethineb i Solomon, yn ôl ei addewid iddo; felly bu heddwch rhwng Hiram a Solomon, a gwnaethant gyfamod â'i gilydd.
13Cododd y Brenin Solomon dreth llafur ar holl Israel, sef deng mil ar hugain o ddynion. 14Byddai'n eu hanfon i Lebanon fesul deng mil o wŷr am fis ar y tro; byddent am fis yn Lebanon, a deufis gartref. Adoniram oedd pennaeth y dreth llafur gorfod. 15Yr oedd gan Solomon ddeng mil a thrigain o wŷr hefyd yn gludwyr, a phedwar ugain mil yn chwarelwyr yn y mynydd; 16heblaw y rhain yr oedd ganddo dair mil a thri chant o oruchwylwyr gwaith yn arolygu'r gweithwyr. 17Ar orchymyn y brenin yr oeddent yn cloddio meini enfawr a drud i wneud sylfaen o feini nadd i'r tŷ. 18Yr oedd gwŷr Gebal ac adeiladwyr Solomon a Hiram yn naddu ac yn paratoi'r coed a'r meini i adeiladu'r tŷ.

Dewis Presennol:

1 Brenhinoedd 5: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda