Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Brenhinoedd 8

8
Cyrchu Arch y Cyfamod i'r Deml
2 Cron. 5:2—6:2
1Yna cynullodd y Brenin Solomon henuriaid Israel a holl benaethiaid y llwythau a phennau-teuluoedd Israel ato'i hun yn Jerwsalem, i gyrchu arch cyfamod yr ARGLWYDD o Ddinas Dafydd, sef Seion. 2Daeth yr holl Israeliaid ynghyd at y Brenin Solomon ar yr ŵyl ym mis Ethanim, y seithfed mis. 3Wedi i holl henuriaid Israel gyrraedd, cododd yr offeiriaid yr arch, 4a chyrchodd yr offeiriaid a'r Lefiaid arch yr ARGLWYDD a phabell y cyfarfod a'r holl lestri cysegredig oedd yn y babell. 5Ac yr oedd y Brenin Solomon, a phawb o gynulleidfa Israel oedd wedi ymgynnull ato, yno o flaen yr arch yn aberthu defaid a gwartheg rhy niferus i'w rhifo na'u cyfrif. 6Felly y dygodd yr offeiriaid arch cyfamod yr ARGLWYDD a'i gosod yn ei lle yng nghysegr mewnol y tŷ, y cysegr sancteiddiaf, dan adenydd y cerwbiaid, 7oherwydd yr oedd y cerwbiaid yn estyn eu hadenydd dros le'r arch ac yn cysgodi dros yr arch a'i pholion. 8Yr oedd y polion yn ymestyn allan oddi wrth yr arch, fel y gellid gweld eu blaenau o'r cysegr o flaen y cysegr mewnol, ond nid oeddent i'w gweld o'r tu allan. Ac yno y maent hyd y dydd hwn. 9Nid oedd yn yr arch ond y ddwy lech garreg a osododd Moses ynddi yn Horeb, lle y gwnaeth yr ARGLWYDD gyfamod â'r Israeliaid pan oeddent yn dod allan o'r Aifft. 10Fel yr oedd yr offeiriaid yn dod allan o'r cysegr, llanwyd tŷ'r ARGLWYDD gan y cwmwl; ni fedrai'r offeiriaid barhau i weinyddu o achos y cwmwl; 11yr oedd gogoniant yr ARGLWYDD yn llenwi tŷ'r ARGLWYDD. 12Yna dywedodd Solomon:
“Dywedodd yr ARGLWYDD y trigai yn y tywyllwch.
13Gorffennais adeiladu i ti dŷ aruchel,
lle iti breswylio ynddo dros byth.”
Solomon yn Annerch y Bobl
2 Cron. 6:3–11
14Yna tra oeddent i gyd yn sefyll, trodd y brenin atynt a bendithio holl gynulleidfa Israel. 15Dywedodd, “Bendigedig fyddo ARGLWYDD Dduw Israel, a gyflawnodd â'i law yr hyn a addawodd â'i enau i'm tad Dafydd, pan ddywedodd, 16‘Er y dydd y dygais fy mhobl Israel allan o'r Aifft, ni ddewisais ddinas ymhlith holl lwythau Israel i adeiladu ynddi dŷ i'm henw fod yno; ond dewisais Jerwsalem i'm henw fod yno#8:16 Felly Groeg a 2 Cron. 6:6. Hebraeg heb ond dewisais… fod yno., a dewisais Ddafydd i fod yn ben ar fy mhobl Israel.’ 17Yr oedd ym mryd fy nhad Dafydd adeiladu tŷ i enw ARGLWYDD Dduw Israel, 18ond dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, ‘Yr oedd yn dy fryd adeiladu tŷ i'm henw, a da oedd dy fwriad, 19ond nid tydi fydd yn adeiladu'r tŷ; dy fab, a enir iti, a adeilada'r tŷ i'm henw.’ 20Yn awr y mae'r ARGLWYDD wedi gwireddu'r addewid a wnaeth; yr wyf fi wedi dod i le fy nhad Dafydd i eistedd ar orsedd Israel, fel yr addawodd yr ARGLWYDD, ac wedi adeiladu'r tŷ i enw ARGLWYDD Dduw Israel. 21Yr wyf hefyd wedi trefnu lle i'r arch sy'n cynnwys y cyfamod a wnaeth yr ARGLWYDD â'n hynafiaid pan ddaeth â hwy allan o'r Aifft.”
Gweddi Solomon
2 Cron. 6:12–42
22Yna safodd Solomon o flaen allor yr ARGLWYDD, yng ngŵydd holl gynulleidfa Israel, ac estynnodd ei ddwylo tua'r nef, 23a dweud: “O ARGLWYDD Dduw Israel, nid oes Duw fel tydi yn y nef uwchben nac ar ddaear lawr, yn cadw cyfamod ac yn ffyddlon i'th bobl sy'n dy wasanaethu â'u holl galon. 24Canys cedwaist d'addewid i'th was Dafydd, fy nhad; heddiw cyflawnaist â'th law yr hyn a addewaist â'th enau. 25Yn awr, felly, O ARGLWYDD Dduw Israel, cadw'r addewid a wnaethost i'th was Dafydd fy nhad, pan ddywedaist, ‘Gofalaf na fyddi heb etifedd i eistedd ar orsedd Israel, dim ond i'th blant wylio'u ffordd, a'm gwasanaethu fel y gwnaethost ti.’ 26Yn awr, felly, O Dduw Israel, safed y gair a leferaist wrth dy was Dafydd, fy nhad.
27“Ai gwir yw y preswylia Duw ar y ddaear? Wele, ni all y nefoedd na nef y nefoedd dy gynnwys; pa faint llai y tŷ hwn a godais! 28Eto cymer sylw o weddi dy was ac o'i ddeisyfiad, O ARGLWYDD fy Nuw; gwrando ar fy llef, a'r weddi y mae dy was yn ei gweddïo heddiw ger dy fron. 29Bydded dy lygaid, nos a dydd, ar y tŷ y dywedaist amdano, ‘Fy enw a fydd yno’, a gwrando'r weddi y bydd dy was yn ei gweddïo tua'r lle hwn. 30Gwrando hefyd ar ddeisyfiad dy was a'th bobl Israel pan fyddant yn gweddïo tua'r lle hwn. Gwrando yn y nef, lle'r wyt yn preswylio, ac o glywed, maddau.
31“Os bydd rhywun wedi troseddu yn erbyn rhywun arall ac yn gorfod cymryd llw, a'i dyngu gerbron dy allor yn y tŷ hwn, 32gwrando di o'r nef a gweithredu. Gweinydda farn i'th bobl drwy gondemnio'r drwgweithredwr yn ôl ei ymddygiad, ond llwydda achos y cyfiawn yn ôl ei gyfiawnder.
33“Os trechir dy bobl Israel gan y gelyn am iddynt bechu yn dy erbyn, ac yna iddynt edifarhau a chyffesu dy enw, a gweddïo ac erfyn arnat yn y tŷ hwn, 34gwrando di yn y nef a maddau bechod dy bobl Israel ac adfer hwy i'r tir a roddaist i'w hynafiaid.
35“Os bydd y nefoedd wedi cau, a'r glaw yn pallu, am iddynt bechu yn d'erbyn, ac yna iddynt weddïo tua'r lle hwn a chyffesu dy enw ac edifarhau am eu pechod oherwydd i ti eu cosbi, 36gwrando di yn y nef a maddau bechod dy weision a'th bobl Israel, a dysg iddynt y ffordd dda y dylent ei rhodio; ac anfon law ar dy wlad, a roddaist yn etifeddiaeth i'th bobl.
37“Os bydd yn y wlad newyn, haint, deifiad, malltod, locustiaid neu lindys, neu os bydd gelyn yn gwarchae ar unrhyw un#8:37 Felly Groeg, Syrieg. Hebraeg, ar wlad. o'i dinasoedd—beth bynnag fo'r pla neu'r clefyd— 38clyw bob gweddi, pob deisyfiad gan bawb o'th bobl Israel wrth i bob un sy'n ymwybodol o'i glwy ei hun estyn ei ddwylo tua'r tŷ hwn; 39gwrando hefyd yn y nef lle'r wyt yn preswylio, a maddau. Gweithreda a rho i bob un yn ôl ei ffyrdd, oherwydd yr wyt ti'n deall ei fwriad; canys ti yn unig sy'n adnabod calon pob un; 40felly byddant yn dy ofni holl ddyddiau eu bywyd ar wyneb y tir a roddaist i'n hynafiaid.
41“Os daw rhywun dieithr, nad yw'n un o'th bobl Israel, o wlad bell er mwyn dy enw— 42canys clywant am dy enw mawr, ac am dy law gref a'th fraich estynedig—ac os gweddïa tua'r tŷ hwn, 43gwrando di yn y nef lle'r wyt yn preswylio, a gweithreda yn ôl y cwbl y mae'r dieithryn yn ei ddeisyf arnat, er mwyn i holl bobloedd y byd adnabod dy enw a'th ofni yr un fath â'th bobl Israel, a sylweddoli mai ar dy enw di y gelwir y tŷ hwn a adeiledais i.
44“Os bydd dy bobl yn mynd i ryfela â'u gelyn, pa ffordd bynnag yr anfoni hwy, ac yna iddynt weddïo ar yr ARGLWYDD tua'r ddinas a ddewisaist, a'r tŷ a godais i'th enw, 45gwrando di yn y nef ar eu gweddi a'u hymbil, a chynnal eu hachos.
46“Os pechant yn dy erbyn—oherwydd nid oes neb nad yw'n pechu—a thithau'n digio wrthynt ac yn eu darostwng i'w gelynion a'u caethgludo i wlad y gelyn, boed bell neu agos, 47ac yna iddynt ystyried yn y wlad lle caethgludwyd hwy, ac edifarhau a deisyf arnat o wlad eu caethiwed â'r geiriau, ‘Yr ydym wedi pechu a throseddu a gwneud drygioni’, 48ac yna dychwelyd atat â'u holl galon a'u holl enaid yng ngwlad y gelynion sydd wedi eu caethgludo, a gweddïo arnat i gyfeiriad eu gwlad, a roddaist i'w hynafiaid, a'r ddinas a ddewisaist, a'r tŷ a godais i'th enw, 49gwrando di, yn y nef lle'r wyt yn preswylio, ar eu gweddi a'u deisyfiad, a chynnal eu hachos. 50A maddau i'th bobl a bechodd yn d'erbyn am eu holl droseddu yn d'erbyn; rho iddynt ennyn trugaredd yng nghalon y rhai a'u caethgludodd. 51Oherwydd dy bobl a'th etifeddiaeth ydynt, gan mai ti a ddaeth â hwy allan o'r Aifft o ganol y ffwrnais haearn. 52Felly bydded dy lygaid yn sylwi ar ddeisyfiad dy was a'th bobl Israel, i wrando arnynt bob tro y galwant arnat; 53oherwydd ti sydd wedi eu neilltuo yn etifeddiaeth i ti dy hun a'u didoli oddi wrth bobloedd y byd, fel y dywedaist, O Arglwydd DDUW, drwy dy was Moses pan ddaethost â'n hynafiaid allan o'r Aifft.”
Y Weddi Derfynol
54Wedi i Solomon orffen cyflwyno i'r ARGLWYDD yr holl weddi ac ymbil yma a'i ddwylo yn ymestyn tua'r nef, cododd o benlinio gerbron allor yr ARGLWYDD, 55a sefyll i fendithio holl gynulleidfa Israel â llais uchel, a dweud: 56“Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD a roddodd orffwystra i'w bobl Israel yn hollol fel y dywedodd. Ni fethodd yr un gair o'i holl addewid ddaionus a fynegodd trwy ei was Moses. 57Bydded yr ARGLWYDD ein Duw gyda ni fel y bu gyda'n hynafiaid ni; na fydded iddo'n gwrthod na'n gadael. 58Bydded inni droi ein calonnau tuag ato, a cherdded yn ei holl ffyrdd a chadw ei orchmynion, ei ordinhadau a'i farnedigaethau, a orchmynnodd i'n hynafiaid. 59Bydded fy ngeiriau hyn, a weddïais gerbron yr ARGLWYDD, yn agos at yr ARGLWYDD ein Duw ddydd a nos, fel y bo iddo gynnal achos ei was ac achos ei bobl Israel yn ôl yr angen, 60er mwyn i holl bobloedd y byd wybod mai'r ARGLWYDD sydd Dduw ac nad oes arall. 61Bydded eich calon yn llwyr ymroddedig i'r ARGLWYDD ein Duw, i rodio yn ei ordinhadau a chadw ei orchmynion fel heddiw.”
Cysegru'r Deml
2 Cron. 7:4–10
62Yna bu'r brenin, a holl Israel gydag ef, yn aberthu gerbron yr ARGLWYDD. 63Aberthodd Solomon i'r ARGLWYDD ddwy fil ar hugain o wartheg a chwe ugain mil o ddefaid yn heddoffrwm. Felly y cysegrodd y brenin a'r holl Israeliaid dŷ'r ARGLWYDD. 64Ar y diwrnod hwnnw cysegrodd y brenin ganol y cwrt oedd o flaen tŷ'r ARGLWYDD, gan mai yno'r oedd yn offrymu'r poethoffrwm a'r bwydoffrwm a braster yr heddoffrwm, am fod yr allor bres oedd gerbron yr ARGLWYDD yn rhy fach i dderbyn y poethoffrwm a'r bwydoffrwm a braster yr heddoffrwm.
65A'r pryd hwnnw cadwodd Solomon, a holl Israel gydag ef, ŵyl gerbron yr ARGLWYDD ein Duw am wythnos#8:65 Felly Groeg. Hebraeg, wythnos ac wythnos, sef pythefnos., yn gynulliad mawr, o Lebo-hamath hyd nant yr Aifft. 66Ar yr wythfed dydd gollyngodd y bobl ymaith, ac wedi iddynt fendithio'r brenin, aethant adref yn llawen ac yn falch o galon am yr holl ddaioni a wnaeth yr ARGLWYDD i'w was Dafydd ac i'w bobl Israel.

Dewis Presennol:

1 Brenhinoedd 8: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd