Luc 15
15
1-32We'r rhei we'n casglu trethi a'r dinion heb grefydd in tinnu'n agos ato fe i rondo arno. We'r Ffariseied a'r rhei we'n disgu'r Gifreth in clebran, âMa'r boi 'ma in rhoi croeso i bechaduried a'n bita gida nhwy.â Ond weoddâe'r ddameg 'ma wrthyn nhwy: âCwrwchâchi bo 'da un o chi gant o ddefed a bo chi'n colli un onyn nhwy. Senochâchi'n mynd i adel i naw-deg-naw in i lle diffeth a mynd ar Ă´l ir un ddafad sy ar goll a whilio amdani nes ffeindwchâchi 'ddi? Wedi chi ffeindo newchâchi gario ar ich isgwidde gatre in llawen. Wedyn busech chi'n gweud wrth ich ffrindie aâch perthnase i gyd i ddwâd atoch chi, a gweuâ'thyn nhwy, âBiddwch in llawen gida fi! Dwâi wedi ffindio'r ddafaw wenâi wedi cholli 'ddi.â Dwâi gweuâ'thoch chi taw in ir un ffordd in gowir bydd llawenydd in i nefodd am un pechadur sy'n difaru in lle naw-deg-naw o ddinion cifiawn sy ddim ishe nwy ddifaru.
âNeu beth os buse menyw in colli pishyn drud o arian. Seniâhi'n mynd i gwmrid lamp, clau'r tš a whilio'n ofalus nes i bod hi'n ffindo'r pishyn arian? Pan fyddâi wedi'i ffindo fe bydd hi'n gweuâ'th i ffrindie a'i chimdogion i ddod at i gily, a gweud, âBiddwch in llawen gida fi! Dwâi wedi ffindo'r pishyn arian nesâi golli.â Dwâi'n gweuâ'thoch chi, in ir un ffordd in gowir ma'r angilion Duw in llawen pan bydd un pechadur in difaru.â
Gwedoddâe, âWe dyn â dou grwt 'dag e. Gwedo'r un ifanca wrth i dad, âDat, dwâi moyn ichi roi in shâr i o bopeth ifi nawrâ; a rhanodd i tad i eiddo rhyntyn nhwyâll dou. Cwpwl o ddwarnode'n ddiweddarach casglodd i crwt ifanca i bethe fe i gyd at i gily a mynd bant dros i mĂ´r i wlad bell; a fan 'ny nâth e fyw bowid diffeth a hala bopeth we dag e. Wedi 'ddo hala bopeth dâth newyn mowr ar i wlad man lle weddâe, a we ishe ofnadw arno. Ăthâe fel ceithwas i riwun in i wlad 'ny, a nâth hwnnw i hala fe i'r parc i fwydo'i foch. Achos bo shwt gwmint o ishe bwyd arno fe weddâe'n bita'r pethe wenânhwy'n rhoi i'r moch i fita, a we neb in rhoi dim byd arall iddo fe o gwbwl. Dâthâe iâw sensys a gweud, âSawl gwas sy 'da'n dad sy â mwy na digon o fwyd, tra bo fi fan 'yn in marw achos bo ishe bwyd arna i! Godaâi o fan 'yn a mynd at in dad, a gweuâ'tho fe, âDat, dwâi 'di pechu in erbyn i nefodd a in di erbyn di, a senaâi'n haeddu câl in alw in grwt i ti byth 'to. Gad i fi fod in un o di weishon di.â Cododdâe mayn at i dad. Pan weddâe'n bell bant gwelo'i dad e a gâthâe drenu arno; rhedoddâe ato fe a rhoi'i freiche amdano a'i gusanu fe. Gwedo'r crwt wrtho fe, âDat, dwâi wedi pechu in erbyn i nefodd a in di erbyn di, a senaâi'n haeddu câl in al in grwt i ti byth 'to.â Gwedodd i tad wrth i gaethweishon, âGlou! Dewch mâs â'r dillad gore a gwishgwch e indyn nhwy, a rhowch fodrwy ar i law a sgidje ar i drâd e. Dewch â'r llo sy wedi câl i dewhau, i ladd e, a gadwch inni fita a enjoio'n hunan, achos ma'n grwt i we wedi marw wedi dod in fyw shwrne 'to, weddâe ar goll ond maeâe wedo câl i ffindo.â A dachreuonânhwy enjoio'u hunen. Ond we'r crwt hena mas in i parc, a wrth 'ddo ddwâd in agos at i tš gliwoddâe fiwsig a dawnso. Galwodd e ar un o'r gweishon a gofyn beth we'n digwydd. Gwedoddâe wrtho, âMa di frawd di wedi dwâd nĂ´l, a ma di dad wedi lladd i llo we wedi câl i dewhau achos i fod e wedi i gâl e nĂ´l in sâff.â Ond weddâe'n grac a palloddâe fynd miwn. Dâth i dad mas a begian arno fe. Ateboddâe i dad, âIr holl flinidde 'ma dwâi wedi gweitho'n galed i ti, a senaâi wedi pallu neud dim byd witâti wedi gofyn ifi neud ariĂ´d; ond senotâti wedi rhoi hydâ'nĂ´d myn gafar i fi ariĂ´d fel gallenâi enjoio in unan gida'n ffrindie. Ond pan ma'r crwt 'ma i ti in dod nĂ´l, crwt sy wedi wasto di eiddo di i gyd 'da puteinied, witâti'n lladd i llo sy wedi câl i dewhau in sbeshal ar i gownt e.â Gweodd i dad wrtho, âIn grwt i, witâti gida fi o hyd, a ma popeth sy 'da fi in eiddo i ti. We rhaid inni enjoio in hunen a bod in llawen, achos bo di frawd 'di we'n farw wedi dod in fyw 'to, weddâe wedi câl i golli ond maeâe nawr wedi câl i ffindo.ââ
Dewis Presennol:
Luc 15: DAFIS
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Y Beder Ifingyl gan Lyn Lewis Dafis. Hawlfraint â M ac R Davies