Luc 1
1
Gair bach cyn dachre
1-4Annwyl Theoffilus: ma lot o'r bobol welodd i Gair, a lot nâth ddilyn i Gair, wedi cadw cownt o'r pethe ddigwiddodd i ni. A ma rhei erill wedi mynd ati i reito'r hanes lawr. Achos bo fi wedi dod in nabiddus 'da'r pethe 'ma i gyd, wen‑i'n meddwl buse‑i'n gwd peth i fi reito'r hanes in iawn a miwn trefen, fel 'ny gallet ti wbod faint mor gowir we'r hanes wet‑ti wedi'i gliwed.
Angel in gweu'th Sachareias bo Ioan in mynd i gâl i eni
5-23Pan we Herod in frenin Jwdea we ffeirad i gâl o'r enw Sachareias. Nawr wedd‑e'n un o ffeiradon Grŵp Abeia. We'i wraig e, Elisabeth, fel Sachareias i unan, in dwâd o dilwith Aaron. A we'r ddou onyn nhwy in bobol dda ing ngolwg Duw. Wen‑nhwy ill dou in cadw'r gorchminion, a'n neud in gowir beth we Duw ishe nhwy neud. Ond wen ddim plant 'da nw, we Elisabeth in ffeilu câl plant, a we'r ddou onyn nw in bwrw mlân in jogel.
Wedd‑i'n amser i ffeiradon Grŵp Abeia i gadw'r cwrdde in i Demel a we Sachareias wrth'i in neud i gwaith achos bo fe, fel wedes i, in un o ffeiradon Grŵp Abeia. A gâth Sachareias 'i ddewish i fynd miwn i Le Sanctedd ir Arglwi i losgi'r offrwm-sent we'n bart o'r cwrdd. We'r bobol i gyd in gweddio tu-fas i'r Lle Sanctedd pan we'r offrwm-sent in câl 'i losgi. Dâth angel ir Arglwi at Sachareias fan 'ny, a sefyll ar ochor dde'r Ford lle wen‑nhwy'n llosgi'r offrwm-sent. Gâth Sachareais itha shigwdad i weld ir angel, a fe gâth e ofon. Ond wedo'r angel wrtho fe, “Paid câl ofon, Sachareias; ma di weddi di wedi câl 'i chliwed. Bydd di wraig Elisabeth in câl crwt bach, a wit‑ti i alw e'n Ioan. Pan geith e 'i eni fe fiddi di wrth di fodd, a bydd lot o bobol erill in hapus 'fyd o achos 'ny. Fydd e'n riwun mowr ing ngolwg Duw. Fydd e byth in hifed gwin na peth-ifed, a bydd e'n llawn o'r Isbryd Glân o'r funud geith e'i eni. Trwyddo fe droith lot o'r Isreilied nôl at i'r Arglwi 'u Duw nhw. Fe eith o flân i Meseia ing ngolwg Duw, a fe geith e isbryd a nerth Eleias. 'I waith e fydd dod â plant a'u tade at i gily, troi'r rhei penstiff at ddoethineb i rhei cifiawn, a neud pobol in barod i'r Arglwi.” Gofinio Sachareias, “Shwt galla i fod in shŵr o hyn? Dwi'n hen, a ma'ng ngwraig i in hen 'fyd.” Atebo'r angel, “Fi yw Gabriel sy'n sefyll o flân Duw. Dwi wedi câl in hala i sharad 'da ti a i weud i newydd da wrthot ti. Gronda arna i! Achos bo ti ddim wedi credu ing ngeire i biddi di'n dawel, in ffeilu sharad, hys i dwarnod bydd i pethe hyn i gyd in digwydd, a bydd i pethe 'ma i gyd in dod in wir pan fydd hi'n amser.” We'r dinion tu-fas o hyd in dishgwyl am Sachareias, wen‑nw wedi'u sinnu i fod e'n aros miwn in i Lle Sanctedd mor hir a wedd‑e. Pan ddâth‑e mas wedd e'n ffeilu sharad, a wen‑nhwy'n diall in iawn i fod e wedi gweld gweledigeth in i Lle Sanctedd. Nath e lot o foshwns i dreial ecspleino beth we wedi digwydd, ond weno‑fe'n galler gweud gair. Pan ddath diwedd 'i amser e i weitho in i Demel fe ath e getre.
24-25A whap we Elisabeth in dishgwil babi, a arosodd hi in i tŷ am bum mish, a gweud, “Ir Arglwi sy wedi neud hyn i fi! Mae e wedi drych arna i da ffafar, a mae e wedi câl gwared o'r cwilydd we 'da fi o flân dinion.”
Angel in gweu'th Mair bo Iesu'n mynd i gâl i eni
26-38Pan we Elisabeth wedi bod in dishgwil babi es whech mish fe halodd Duw ir angel Gabriel i Nasareth in Galilea. Âth Gabriel at roces o'r enw Mair. Wedd‑i wedi câl 'i addo i briodi Joseff, a we Joseff in dod o dilwith Dafydd. Âth Gabriel miwn i'r tŷ at Mair a gweu'thi, “Bendith arno ti, ti sy wedi câl ffafar! Ma'r Arglwidd 'da ti.” Wedd‑i wedi câl 'i drisu'n ofnadw wedi cliwed beth wedodd e, a ddiallodd‑i ddim beth wedd‑e'n goligu. Gwedo'r angel wrthi, “Paid câl ofon Mair; wit‑ti wedi câl ffafar da Duw. Biddi di'n câl crwt, a fe alwi di e'n Iesu. Bydd e'n ddyn mowr, a fe geith‑e i alw in Grwt i Duw Mowr Mowr, a rhoith ir Arglwidd Dduw gorsedd i dad Dafydd iddo fe. Bydd e'n frenin ar dŷ Jacob am byth; bydd dim diwedd o gwbwl ar 'i deyrnasiad e.” Ond wedo Mair wrth ir angel, “Shwt all hyn i gyd ddigwidd achos sena‑i wedi priodi?” Atebo'r angel, “Deith ir Isbryd Glân arnot ti a bydd nerth i Duw Mowr Mowr in di gisgodi di. So bydd i crwt fydd in câl 'i eni in câl 'i alw'n sanctedd, Crwt Duw. Ma di genither di, Elisabeth, in dishgwyl babi 'fyd, er bo‑i'n hen. Meddilai am 'na, ma'r fenyw wen‑nw'n gweud amdani na fidde hi byth in câl babi, in dishgwil es whech mish; achos sdim byd in rhy galed i Dduw i neud e.” Gwedodd Mair, “Morwm ir Arglwidd wdw i; beth binnag wit‑ti wedi gweud, fe 'na i e. Wedyn âth ir angel a'i gadel hi.
Mair in mynd i weld Elisabeth
39-45A fe âth Mair mor gloi â galle hi i dre in minidde Jiwdea. Ath hi i gatre Sachareias a cifarch Elisabeth. Pan gliwo Elisabeth Mair in sharad 'da hi fe jwmpodd i babi we tu-fiwn 'ddi, a fe gâth hi 'i llenwi 'da'r Isbryd Glân. Gweiddodd hi mas 'da llaish uchel, “Ti yw'r fenyw hapusa o'r menwod i gyd, a ma di fabi di'n hapus 'fyd. Pam dwi wedi câl i fraint o gâl mam in Arglwidd in dod ata i? Achos wrth i fi gliwed ti in in gifarch i fe jwmpodd i babi sy tu-fiwn i fi achos bo fe mo'r hapus. O mor hapus yw'r fenyw sy wedi credu bidde gair ir Arglwidd iddi hi in dod in wir.”
Mair in moli Duw
46-56A wedo Mair,
“Ma'n ened i'n gweud taw un mowr yw in Duw ni,
a ma'n isbryd in hapus in Duw, in waredwr i,
achos bo fe wedi drych 'da ffafar ar 'i forwm, er bo hi mor ishel.
O nawr mas bydd pob cenhedleth in ing ngalw i in fenyw jecôs,
achos ma'r un cryf wedi neud pethe mowr i fi.
Ma'i enw e in sanctedd,
a mae e'n dangos i faddeuant o gehedleth i genhedleth,
i bob un sy'n i ofni e.
Mae e wedi neud pethe mowr da'i fraich:
Mae‑e wedi sgwaru'r rhei we falch indon nw hinen;
mae‑e wedi tinnu'r rhei we'n constrowlo lawr o'i gorsedde,
a mae‑e wedi codi'r rhei ishel in uchel;
mae e wedi llenwi'r rhei we'n llwgu 'da pethe da,
a wedi hala'r bobl abal bant in wag;
jwst fel nâth e addo i'n tade ni.
Mae‑e wedi dod i helpu 'i was e, Isrel;
mae e wedi cofio i drugaredd am byth
at Abraham a at 'i ddisginiddion e.”
Arhosodd Mair gida Eisabeth am obitu tri mish cyn mynd getre.
Ioan in câl 'i eni
57-66Dâth amser Elisabeth i gâl i babi, a fe gâth hi grwt bach. Cliwo'u pherthnase a'i chwmdogion bo'r Arglwidd wedi câl drenu drosti, a wen‑nhwy i gyd in rhannu'i hapusrwydd hi. Wedi wyth dwarnod fe ddâth hi'n amser i enwaedu'r plentyn a wen‑nhwy am 'i alw e'n Sachareias ar ôl 'i dad. Ond wedodd 'i fam, “Na, Ioan yw 'i enw e i fod.” Gwedon‑nhwy wrthi, “Sneb o di berthnase di â'r enw 'na.” Nethon‑nhwy foshwns ar 'i dad e i ffeindo mas beth wedd‑e am 'i alw e. Gofinodd‑e am rwbeth i reito arno, a reitodd e, “Ioan yw i enw e”. Wen‑nhwy i gyd wedi sinnu. Whap dâth 'i laish e nôl a dachreuodd‑e foli Duw heb stopo. Gath 'i gwmdogin e i gyd 'u sinnu a we pobol in shardad am i pethe 'ma in minidde Jiwdea i gyd. Alle neb we wedi cliwed am i pethe 'ma u anghofio nhwy. “Beth fydd i crwt 'ma wedi 'ddo diddu lan?” minte‑nhwy, “achos in wir ma llaw ir Arglwidd arno fe.”
Proffwydolieth Sachareias
67-79Gâth Sacharieias, tad Ioan, i lenwi 'da'r Isbryd Glân a gwedodd e,
“Rhaid camol ir Arglwidd, Duw Isrel,
achos bo fe wedi drych ar ôl i bobol,
a'u gadel nhwy'n rhydd.
Mae e wedi magu Gwaredwr cryf i ni
in tŷ 'i was e, Dafydd,
(jwst fel nâth e addo trw i broffwydi sanctedd sbel fowr nôl),
i'n safio ni wrth in gelinion
a wrth bob un sy'n casáu ni.
Mae‑e wedi neud hyn i gadw'r addewid am faddeuant
nâth e 'da'n tade ni,
a i gofio'r citundeb sanctedd nâth e.
Tima'r addewid nâth e 'da'n tad ni, Abraham,
pan addawodd e i'n gadel ni'n rhydd o law in gelinion ni,
a i fod in rhydd i weitho drosto fe heb ofon,
a miwn cifiawnder am in bowid i gyd.
Biddi di 'fyd, in blentyn i,
in câl di alw in broffwyd i Duw Mowr Mowr,
achos fe ei di o flân ir Arglwidd i bartoi i ffyrdd e.
Fe wedi di am 'i iachawdwrieth e wrth 'i bobol e i gyd,
faint mor ffidlon yw Duw a shwt mae e'n leico madde pechode.
Fel 'ma deith gole'r houl mowr o lan fry ato ni,
i ddangos 'i inan i ni, i rhei sy'n ishte
miwn tewillwch a o dzn gisgod marwoleth,
a hala'n trad ni i gered ar hewlydd heddwch.”
80Tiddodd i plentyn in gryf in 'gorff a isbryd. A buodd‑e miwn lle diffeth nes iddo gâl i roi o flân Isrel.
Dewis Presennol:
Luc 1: DAFIS
Uwcholeuo
Rhanna
Copi

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Y Beder Ifingyl gan Lyn Lewis Dafis. Hawlfraint – M ac R Davies