Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 2

2
Iesu'n câl 'i eni
1-7A'r diddie 'ny wedodd Cesar Awgwstws bo pobun we'n byw in i byd i gâl 'u cownto. Co'r tro cinta i hyn ddigwydd; gas e'i neud pan we Cwiriniws in reolwr ar Syria. Fel bo bo nw gyd in câl 'u cownto we'n rhaid i bob un fynd i'r dre o lle we'u tilwith nw'n dod. So âth Joseff, o Nasareth in Galilea, lawr i dre Bethlehem in Jiwdea, achos wedd e'n dod o dilwith Dafydd a Bethlehem we tre tilwith Dafydd. Ath e â Mair, i fenyw wedd e wedi addo 'i phriodi gidag e, a wedd‑i'n dishgwil babi. Pan wen‑nhwy in Bethlehem fe ddâth hi'n amser i Mair gâl i babi, a fe gâth 'i chrwt cinta. Rhoiodd‑i e miwn dillad, a wedyn 'i roi e i orwe miwn mansher, achos we ddim lle iddon nw in i hotel clo.
I bugeilied a'r angilion
8-14In ir un ardal we bugeilied in byw mas in i perci, in watsho i neud in shŵr bo ddim byd in digwidd i'r defed in i nos. A dâth angel ir Arglwidd aton nhwy, a fe sheinodd gogoniant ir Arglwidd rownd 'ddyn nhwy i gyd, a gethon nw ofon ofnadw. Gwedodd i'r angel wrthyn nhwy, “Peidwch câl ofon; dwi'n dod â newiddion da i chi, newiddion da am lawenydd i'r bobol i gyd, Heddi, in tre Dafydd, ma Gwaredwr wedi câl 'i eni i chi, fe yw'r Meseia. Fel hyn newch chi nabod e: ffeinidiwch chi fabi, wedi roi miwn dillad, in gorwe miwn mansher. A'n sidan reit we côr o'r nefodd 'da'r angel, a wen nw'n moli Duw a'n gweud,
“Gogoniant i Dduw in i nefodd uchel,
a heddwch ar i ddeiar,
i'r rhei mae e wedi'u dewish.”
15-20Wedi'r angilion 'u gadel nw a mynd nôl i'r nefodd, wedo'r bugeilied wrth 'i gily, “Dewch mlân, ewn ni i Bethlehem i weld i peth 'ma sy wedi digwidd, i peth wedodd ir Arglwidd wrthon ni sy wedi digwydd.” Ethon‑nhwy mor glou â gallen nw a ffeindo Mair a Joseff, a'r babi in gorwe in i mansher. Pan welon nw hyn, gwedon‑nhwy wrth bobun beth we'r angilion wedi gweu 'thyn nw obitu'r plentyn. We pob un gilwo wedi'u sinnu at beth we 'da'r bugeilied i weud. Fe gofiodd Mair i pethe 'ma i gyd, a meddwl lot amdanyn nw a beth we'r cifan in goligu. A âth i bugeilied nôl i'r perci, in moli Duw am bopeth wen‑nhwy wedi'i gliwed a wedi'i weld; we popeth in gowir fel we'r angel wedi gweu'thyn nw.
21Wyth dwarnod in ddiwddarach fe ddath ir amser i enwaedu'r crwt, a fe gâs e'r enw Iesu, ir enw we'r angel wedi rhoi 'ddo fe cyn 'ddo gâl i eni.
Dod â Iesu i'r Demel
22-24Wedi amser 'u puro nw fennu, fel ma Cifreth Moses in gweud, ddath 'i fam a'i dad ag e i Jerwsalem i roi fe i'r Arglwidd, (achos mae e wedi câl 'i reito ing Nghifreth ir Arglwidd, Bydd pob creadur gwryw cinta 'i eni in câl 'i alw in sanctedd i'r Arglwidd), a i aberthu pâr o glomenod neu ddwy sguthan ifanc, fel ma Cifreth ir Arglwidd in gweud.
25-28We dyn i Jerwsalem a'i enw wedd Simeon. Wedd‑e'n ddyn cifiawn a ffiddlon we'n dishgwil i Meseia i ddod i safio Isrel; a we'r Isbryd Glân arno fe. We'r Isbryd Glân wedi gweu'tho fe na fidde fe'n marw hys bidde fe'n gweld Meseia'r Arglwidd. Wrth i'r Arglwidd 'i arwen e fe ddâth‑e i'r Demel; a pan ddath 'i dad a'i fam â'r plentyn Iesu i neud iddo fe beth we'r Gifreth in gweud we rhaid, fe gwmrodd 'r plentyn in i freiche, moli Duw a gweud,
29-32“Mishtir, nawr wit‑ti'n gadel di was i fynd
miwn heddwch jwst fel wedes ti wrtho fe;
achos ma i'n liged i wedi gweld di iachawdwrieth
wit‑ti wedi paratoi o flân i bobol i gyd;
gole fydd in ddatguddiad i'r Cenhedlodd,
a gogoniant i di bobol di, Isrel.”
33-35Gath i dad a'i fam 'u sinnu achos beth we'n câl 'i weud amdano fe. Bendithiodd Simeon nhwy a gweud wrth Mair, 'i fam, “Ma'r plentyn 'ma wedi câl i ddewish i fod in achos tinnu rhei lawr a codi rhei erill lan in Isrel, a i fod in sein geith i wrthod, fel bo meddilie lot in câl 'u gweld. Ie'n wir, a fydd cleddyf in mynd trw di ened di.
36-38Nawr we proffwydes o'r enw Anna, merch Ffanwel, o lwyth Asher. Wedd‑i'n hen iawn; wedd‑i wedi byw gida'i gŵr am saith mline wedi priodi; nawr wedd hi'n widw peder mlwydd a phedwar ugen. Wedd‑i byth in gadel i Demel, ond in gwasanethu Duw bob dydd a bob nos wrth beido bita a wrth weddïo. Dâth‑i mlân amser 'na a diolch i Dduw, a sharad am i plentyn 'da bob un we'n dishwyl gweld Jerwsalem in dod in rhydd.
Mynd nôl i Galilea
39-40Wedi nhwy neud popeth we Cifreth ir Arglwidd in gweud we'n rhaid iddyn nhwy neud, ethon‑nhwy nôl i Galilea, a i Nasareth, 'u catre nhwy. Tiddodd i plentyn a dod in gryf. Wedd e'n llawn o ddoethineb a we gras Duw arno fe.
Iesu, i fam a'i dad in i Demel
41-52We'i dad a'i fam in mynd i Jerwsalem bob blwyddyn amser Gŵyl y Pasg. Pan wedd‑e'n ddouddeg mlwydd wed fe âth‑e lan i'r Demel fel wen‑nw'n arfer neud amser ir Ŵyl. Pan fennodd ir Ŵyl ethon‑nhwy getre, ond arhosodd Iesu ar ôl in Jerwsalem, ond weno'i dad na'i fam in gwbod. Wen‑nhwy'n meddwl i fod e gida dinion erill, a ethon‑nhwy am ddwarnod cifan; wedyn ddrichon nw amdano fe 'da'u perthnase a ffrindie. Achos bo nhwy heb 'i ffeindo fe fe droion‑nhwy nôl i Jerwsalem i wilio amdnao fe. Ar ôl tri dwarnod fe ffeindon‑nhwy e in i Demel, in ishte ing ganol i rhei we'n disgu, in grondo arnyn nhwy a'n gofyn cwestjwne. We pobun we'n 'i gliwed e in sinnu mor dda wedd‑e'n ateb. Pan welodd 'i dad a'i fam e, we nw wedi'u sinnu 'fyd, a gwedodd 'i fam wrtho fe, “In grwt i, pam wyt ti wedi neud hyn? Ma di dad a fi wedi bod in whilio amdano ti?” Gwedodd‑e wrthyn nhwy “Pam we ishe ichi whilio amdana i? Wenoch‑chi'n gwbod bo'n rhaid i fi fod in tŷ in Dad?” Wenon‑nhwy'n diall beth wedd‑e wedi gweu 'tho nhwy. Âth‑e lawr gida nhwy a dod i Nasareth, a grondodd‑e arnyn nhwy. Cofiodd i fam i pethe 'ma i gyd. Wrth iddo diddu, nâth Iesu ddod in ddoethach a ffafr gida Duw a dinion.

Dewis Presennol:

Luc 2: DAFIS

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda