Marc 16
16
Iesu'n codi o farw
1-8Wedi dy' Saboth fynd heibo, pernodd Mair o Magdala, Mair mam Iago, a Salome oil â smel sbeisys arno fe fel gallen‐nhwy roi e ar gorff Iesu. Wedyn, in ginnar ar ddydd cinta'r wsnoth, wedi'r houl godi, dethon‐nhwy at i twm. A wên‐nhwy'n holi'i gily, “Pwy rowlith i garreg bant o entrans i twm i ni?” On pan ddrichon‐nhwy gwelon‐nhwy bo'r garreg wedi câl i rowlo bant in barod (sach bod hi'n garreg fowr fowr). Wrth find miwn i'r twm fe geson‐nhwy sindod i weld crwt ifanc in gwishgo dillad gwyn in ishte fan‐'ny ar ir ochor dde. Gwedodd‐e wrthon nhwy, “Sdim ishe ichi sinnu. Ŷch‐chi'n drich am Iesu o Nasareth, sy wedi câl i groeshoelo. Mae e wedi codi. Seno‐fe 'ma. Drichwch, co lle roion‐nhwy e i orwe. Cerwch chi a gweud wrth i ddisgiblion, a wrth Pedr, ‘Mae e'n mynd o'ch blân chi i Galilea.’ Gwelwch chi e fan‐'ny, jwst fel wedodd‐e wrthoch chi.” Dethon‐nhwy mas a rhedeg o'r twm, in crinu o achos ofon. Wedon‐nhwy ddim byd wrth neb, achos we shwt gwmint o ofon arnyn nhwy.
Iesu'n dwâd at Mair o Magdala
9-11Wedi i Iesu godi o farw in ginnar ar ddydd cinta'r wsnoth dangosodd‐e i hunan ginta i gyd i Mair o Magadala. Hi we'r fenyw wêdd‐e wedi hala saith cithrel mas oni‐ddi. Âth‐hi wedyn a gweu 'th i rhei we wedi bod 'dag e, fel wên‐nhwy'n mwrno a llefen. Pan gliwon‐nhwy i fod e'n fyw a'i bod hi wedi'i weld e wenon‐nhwy'n credu 'ny o gwbwl.
Iesu'n dwâd at i ddou ar u ffor i'r wlad
12-13Wedi 'na dangosodd Iesu i unan i ddou ononon‐nhwy fel wên‐nhwy'n cered ar u ffor i'r wlad. On wedd‐e'n 'drich in wahanol. Ethon‐nhwy nôl a gweud wrth i lleill, on wenon‐nhwy'n u credu nhwy whaith.
Hala'r digiblion mas i'r byd
14-18In ddiweddarach dangosodd‐e i hunan i'r un‐ar‐ddeg fel wên‐nhwy'n ishte wrth i ford in bita, a rhoiodd‐e stwr iddyn nhwy achos u diffyg ffydd nhwy a bo'u calonne nhwy mor galed, achos u bo nhwy ddim in credu'r rhei we wedi'i weld e. Gwedodd‐e wrthon‐nhwy, “Cerwch i'r byd i gyd a prigethu'r Ifingyl i bob wan jac. Geith bob un sy'n credu a câl i fididdio i safio, on ma'r un sy ddim in credu in câl i gondemo. A ble binnag bydd dinion in credu bydd pethe'n digwydd. In in enw i bydd dinion in towlu mas jawled. Dinion in sharad miwn ieithodd newy. Dinion in dala nadrodd in u dwylo. Hyd 'n‐ôd os ifan nhwy unrwbeth â gwenwn indo fe gewn nhwy ddim dolur o gwbwl. A biddan nhwy rhoi u dwylo ar ddinion we ddim in dda a'u gwella nhwy.”
Iesu'n câl i gwmryd lan i'r nefodd
19-20So, wedi sharad gida nhwy gâs ir Arglwi Iesu i gwmryd lan i'r nefodd, a ishte lawr ar ochor dde Duw. A ethon‐nhwy mas a prigethu in bob man, a trw'r amser we'r Arglwi gida nhwy, in gweitho, a dongos bo'u neges nhwy in wir wrth hala'r pethe 'ma i ddigwydd wrth iddon nhwy brigethu'r Ifingyl.
Dewis Presennol:
Marc 16: DAFIS
Uwcholeuo
Rhanna
Copi

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Y Beder Ifingyl gan Lyn Lewis Dafis. Hawlfraint – M ac R Davies