Marc 15
15
Iesu o flân Peilat
1-5Ginted wedd‐i'n fore, tima'r pen‐ffeiradon, ir henuried a'r rhei we'n disgu'r Gifreth, a bob un we ar i Cownsil in dwâd at i gily i sharad am beth i neud. Clwmon‐nhwy Iesu lan in sownd, a'i arwen e bant a'i roi e in dwylo Peilat. A gofino Peilat iddo fe, “Ti yw Brenin ir Iddewon?” Atebodd e, “Ti sy'n gweud 'ny.” Gwedo'r penffeiradon i fod e wedi neud a gweud pob short o bethe. Gofino Peilat iddo fe weth, “Sdim ateb da ti? Dricha faint o bethe ma rhein in gweud in di erbyn di.” Atebo Iesu ddim, a we Peilat in sinnu at 'na.
Iesu'n câl i gondemo i farw
6-15Amser ir Ŵyl wedd‐i'n arfer 'da Peilat i adel i'r bobol ddewish un carcharor we in i shâl a'i adel e'n rhydd. We un dyn, i enw fe we Barabbas, in i shâl 'da'r rhei we wedi codi in erbyn i lliwodreth a wedi lladd lot o ddinion wrth neud 'ny. Âth i crowd lan a gofyn i Peilat i neud fel wedd‐e'n arfer i neud amser ir Ŵyl. Atebodd‐e, “Ŷch‐chi moyn i fi adel Brenin ir Iddewon in rhydd i chi?” Achos wedd e'n gwbod bo'r penffeiradon wedi i roi fe in i ddwylo fe mas o sbeit. On tima'r penffeiradon in cihirfu'r crowd i gyd fel i fod e'n gadel Barabbas in rhydd iddon nhwy in lle Iesu. Shwrne 'to ma Peilat in gofyn iddon nhwy, “Beth ŷch‐chi moyn i fi neud da'r dyn ŷch‐chi'n galw'n Frenin ir Iddewon?” Gweiddon‐nhwy nôl, “Croeshoela fe!” Gwedo Peilat wrthon nhwy, “Pam, pwy ddrwg mae‐e wedi neud?” Gweiddon‐nhwy nôl in uwch hyd 'n‐ôd, “Croeshoela fe!” A tima Peilat, we moyn pleso'r crowd, in gadel Barabbas in rhydd iddon nhwy. Wedi iddo fe gâl rhei i whipo'r Iesu rhoiodd‐e fe iddon nhwy fel gallen‐nhwy i groeshoelo fe.
Coroni Iesu 'da coron o ddrisi
16-20Âth i sowdiwrs ag e bant a miwn i'r clôs, a 'na lle we offis Peilat, a galwon‐nhwy'r sowdiwrs i gyd at i gily. Gwishgon‐nhwy e miwn dillad piws, a plethu coron o ddrisi, a'i rhoi 'ddi ar i ben e a dachre'i saliwto fe, “Henffych, Frenin ir Iddewon!” Bwron‐nhwy i ben e 'da ialen a powri arno fe; a pligon‐nhwy lawr o'i flân e'n ishel fel 'se fe'n frenin. Wedi iddon nhwy bennu neud sbort ar i ben e, tinon‐nhwy i dillad piws bant a'i wishgo fe in i ddillad i unan a wedyn i arwen e mas i groeshoelo.
Croeshoelo Iesu
21-32A fforson‐nhwy riwun we'n sefyll ar bwys i gario'i grwes. Seimon o Cyrene, tad Alecsander a Rwffws we'r dyn ddewishon‐nhwy. We Seimon wedi dwâd lan i Jerwsalem o gewn gwlad. Dethon‐nhwy â Iesu i'r lle man‐nhwy'n galw'n Golgotha, sy'n goligu Man i Benglog; a ginigon‐nhwy win iddo fe wedi'i gimisgu da myrr, on nâth‐e ddim i gwmrid e. Croeshoelon‐nhwy e a rhannu i ddillad e, a towlu deis i wbod pwy fise'n câl beth. Wedd‐i'n naw ar gloch i bore pan groeshoelon‐nhwy e. We sgrifen wedi câl i roi wrth i ben e i weud pam wedd‐e'n câl i groeshoelo, a 'co beth we hwnnw'n gweud: BRENIN IR IDDEWON.
Gida fe croeshoelon‐nhwy ddou leidir, un ar i ochor dde a un ar i ochor with. Ddigwyddodd hyn fel bo beth we wedi câl i reito in dwâd in wir, “A fe gâs‐e i gownto 'da'r rhei we wedi'r torri'r gifreth.” We'r dinion we'n mynd heibo in i gablu fe, in shiglo'u penne a gweud, “Ha ha! Ti, wet‐ti'n golgu tinnu'r Demel lawr a'i choddi 'ddi weth miwn tri dwarnod, dere di lawr o'r grwes a achub di unan!” Ir un ffordd in gowir we'r penffeiradon a'r rhei we'n disgu'r Gifreth in neud sbort ar i ben e fyd, “Wêdd‐e'n gweud bo fe'n galler achub dinion erill; on seno‐fe'n galler achub i unan. Gadwch i'r Meseia, Brenin Isrel, ddwâd lawr o'r grwes, gallwn ni weld a credu wedyn!” We'r rhei we in i groeshoelo fe in neud sbort ar i ben e 'fyd.
Iesu'n marw
33-41Pan wedd‐i'n ganol dydd âth i wlad i gyd in dewill nes wedd‐i'n dri ar gloch i prinhawn. A am dri ar gloch gweiddodd Iesu mas 'da llaish uchel, “Eloi, Eloi, lema sabachthani?”, sy'n goligu, “In Dduw i, in Dduw i, pam wit‐ti wedi 'ngadel i?” Pan gliwo'r rhei we'n sefyll ar bwys, gwedon‐nhwy, “Drichwch mae‐e'n gweiddi am Eleias.” Rhedodd riwun lan a llenwi sbwnj 'da gwin sur, rhoi fe ar ialen a'i ginnig iddo fe i ifed, a gweud, “Gadwch i ni weld a ddeith Eleias i gwmrid e lawr.” Rhoiodd Iesu sgrech fowr, a marw. Gas i cyrtens in i Demel i rico'n ddou o'r top i'r gweilod. Pan welodd i cenwriad we'n sefyll o'i flân shwt wedd‐e'n marw, gwedodd‐e, “In wir we'r dyn 'ma in Grwt Duw!”
We menwod in watsho beth we'n digwydd o bell bant. Mair o Magdala, Mair mam Iago'r ifanca a Joses, a Salome. Mewnod we wedi'i ddilin e pan wêdd‐e'n Galilea, a we'n gofalu ar i ôl e we rhei onyn‐nhwy; a we lot o fenwod erill 'na we wedi dwâd lan 'dag e i Jerwsalem.
Claddu Iesu
42-47Pan wedd‐i'n nos, a achos i bod hi'n amser i Paratoi ('na beth yw'r enw ar i dwarnod cyn dy' Saboth), dâth Joseff o Arimethea, cownsler uchel i barch, a un we'n dishgwyl Teyrnas Duw i ddwâd, a deseidodd‐e fynd a gofyn i Peilat a gese‐fe gorff Iesu. We Peilat in sinnu bo Iesu'n farw in barod, a tima fe'n galw'r cenwriad ato fe a gofyn a we Iesu wedi marw os sbel. Pan ddiallodd Peilat wrth i cenwraid bo hynny'n wir, rhoiodd‐e'r corff i Joseff. Pernodd Joseff lien, a wedi cwmryd i gorff e lawr o'r grwes rhoiodd e Iesu in i llien, a'i roi mewn twm we wedi câl i naddu mas o'r graig. Wedyn, rhowlodd‐e garreg fowr in erbyn entrans i twm. Gwelo Mair o Magadala a Mair mam Iesu ble wêdd‐e wedi câl i roi i orwe.
Dewis Presennol:
Marc 15: DAFIS
Uwcholeuo
Rhanna
Copi

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Y Beder Ifingyl gan Lyn Lewis Dafis. Hawlfraint – M ac R Davies