Marc 5
5
Y cythreulig yn mhlith y beddau, a'i iachâd
[Mat 8:28, 29; Luc 8:26–39]
1A hwy a ddaethant i'r ochr arall i'r môr, i wlad y Geraseniaid#5:1 Geraseniaid א B D La. Ti. Tr. WH. Diw. Gergeseniaid L Al. Gadareniaid A C E P G. Yr oedd Gerasa yn ddinas yn y rhan ddeheuol o Peraea, neu yn Arabia, ac felly yn marn rhai yn rhy bell o fôr Galilea i'r amgylchiad hwn i ddygwydd ynddi. Dywed Origen mai Gergesa oedd y lle, ond nid oes hanes fod dinas o'r enw hwn yn ymyl y Llyn. Ni wyr Josephus ddim am dani. Gadara ydoedd prif ddinas Peraea, a safai gyferbyn a rhan isaf neu ddeheuol o Gennesaret; ond er fod y ddinas ei hun ryw bellder o'r môr, eto gan fod gan y ddinas awdurdod dros y rhan o'r wlad rhyngddi ag ef, nid anmhriodol defnyddio “gwlad y Gadareniaid” am y rhan‐barth hwnw. Ond lled debyg fod yr Efengylwr yn cyfeirio at Gerasa arall (neu Gergesa). Y mae ei hadfeilion yn gorwedd ychydig i'r deheu o Wady Semakh, yr hwn le a egyr tua'r môr gyferbyn a Magdala. Y mae cydluniad y wlad o gylch Kersa yn cyfateb i'r desgrifiad a geir yma. A lled debyg nad yw Geraseniaid a Gergeseniaid ond gwahanol ffurfiau or un gair.. 2Ac wedi iddo ddyfod allan o'r cwch, yn ebrwydd cyfarfu ag ef allan o'r beddau, ddyn ag yspryd aflan ynddo; 3yr hwn oedd a'i drigfan yn y beddau; ac ni allai neb a chadwyn mwyach#5:3 mwyach B C D Brnd. ei rwymo ef: 4o herwydd iddo yn fynych gael ei rwymo â llyffetheiriau a chadwynau, a darnio o hono y cadwynau, a dryllio#5:4 Sathru dan draed nes dryllio. y llyffetheiriau; ac ni allai#5:4 Nid oedd nerth gan neb. neb ei ddofi ef. 5Ac yn wastad nos a dydd, yn#5:5 Yn y beddau ac yn y mynyddoedd A B C K L, &c. Yn y mynyddoedd ac yn y beddau D. y beddau, ac yn y mynyddoedd, yr oedd efe yn gwaeddi, ac yn briwio#5:5 Katakoptô, tori, tori yn ddarnau, curo, briwo. ei hun â cheryg. 6A phan ganfu efe yr Iesu o hirbell, efe a redodd, ac a ymgrymodd#5:6 Neu, a'i haddolodd ef. iddo. 7A chan waeddi a llef uchel, efe a ddywed, Beth sydd i ti a wnelyt a mi#5:7 Llyth.: Beth sydd ï mi ac i ti? hyny yw, Beth sydd i mi a wnelwyf a thi? Neu, Beth sydd i ti a wnelyt a mi? Yr olaf, debygwn, yw y mwyaf priodol yma., O Iesu, Mab y Duw Goruchaf? Yr wyf yn dy dynghedu trwy Dduw, na phoenyt#5:7 Basanizô, profi trwy boenydio, blino, cythruddo, poeni. fi. 8Canys efe a ddywedasai wrtho, Tyred allan, tydi yspryd aflan, o'r dyn. 9Ac efe a ofynodd iddo, Beth yw dy enw di? Ac yntau a ddywed wrtho, Lleng#5:9 Dynodai Lleng yn y fyddin Rufeinig rhwng chwe a saith mil o filwyr traed; yna, dynoda llawer. yw fy enw i, canys yr ydym yn llawer. 10Ac efe a ddwys‐ymbiliodd lawer ag ef, na ddanfonai efe hwynt allan o'r wlad. 11Ac yr oedd yno wrth y#5:11 א B C D L, &c., Brnd. y mynyddau Test. Derb. [Ni chynnwys un o'r llawysgrifau prif‐lythyrenog y darlleniad hwn]. mynydd genfaint fawr o foch yn ymborthi. 12A hwy#5:12 Yr holl gythreuliaid A. Gad. א B C L Brnd. a ddwys‐ymbiliasant ag ef, gan ddywedyd, Danfon ni i'r moch, fel yr awn i mewn iddynt. 13Ac efe#5:13 Yn y man A. 33. Gad. א B C L Δ Brnd. a#5:13 Yr Iesu A. 33. Gad. א B C L Δ. ganiataodd iddynt. A'r ysprydion aflan a ddaethant allan, ac a aethant i mewn i'r moch: a rhuthrodd y genfaint dros y dibyn i'r môr — ynghylch dwy fil — a hwy a dagwyd yn y môr. 14A'r rhai a'u porthent hwy#5:14 Y moch A. 33. Gad. א B C D L Δ. a ffoisant, ac a'i mynegasant i'r ddinas, ac i'r lleoedd gwledig: a hwy a aethant allan i weled beth oedd yr hyn a wnaethid. 15Ac y maent yn dyfod at yr Iesu, ac yn dal sylw ar y cythreulig, yn eistedd, wedi ei ddilladu, ac yn ei iawn bwyll, ie, yr hwn yr oedd wedi bod ynddo y Lleng; a hwy a ofnasant. 16A'r rhai a welsant a draethasant iddynt, y modd y dygwyddodd i'r cythreulig, ac ynghylch y moch. 17A hwy a ddechreuasant ymbil arno i ymadael o'u cyffiniau hwynt. 18Ac efe yn myned i'r cwch, yr hwn a fu gythreulig a ymbiliodd ag ef i gael bod gydag ef. 19Ac ni adawodd efe#5:19 Yr Iesu D. Gad. א B C L Δ Brnd. iddo, ond efe a ddywed wrtho, Dos i'th gartref at dy gyfeillion#5:19 Llyth.; at dy eiddot., a mynega iddynt pa bethau gymmaint y mae yr Arglwydd wedi eu gwneyd i ti, ac iddo drugarhau wrthyt. 20Ac efe a ymadawodd, ac a ddechreuodd gyhoeddi trwy#5:20 Llyth.: yn. Decapolis#5:20 Decapolis, sef y Deg Dinas, o du y dwyrain i'r Iorddonen, gyda'r eithriad o Scythopolis. Y Deg (yn ol Pliny) oeddynt Scythopolis, Hippos, Gadara, Pella, Philadelphia, Gerasa, Dion, Canatha, Damascus, Raphana. Ond y mae yn debyg fod yr enw yn cynnwys rhanbarth eangach na'r uchod. pa gymmaint wnaeth yr Iesu iddo: a phawb a ryfeddasant.
Adgyfodiad merch Jairus. Iachâd y wraig a'r dyferlif gwaed
[Mat 9:18–26; Luc 8:40–56]
21Ac wedi i'r Iesu groesi trosodd drachefn yn y cwch i'r lan#5:21 Sef yr ochr orllewinol. arall, ymgasglodd tyrfa fawr ato, ac yr oedd efe wrth y môr. 22Ac y#5:22 Wele A C (o Luc 8:41 a Mat 9:18). Gad. א B D L Δ. mae yn dyfod ato un o brif‐lywodraethwyr y Synagog, o'r enw Jairus, a phan ei gwelodd, efe a syrth wrth ei draed ef. 23Ac y mae efe yn dwys‐ymbilio lawer ag ef, gan ddywedyd, Fy merch fechan sydd bron marw#5:23 Llyth.: yn yr eithafedd olaf.: gwna ddyfod#5:23 Llyth.: gan ddyfod. fel y gosodi dy ddwylaw arni, fel yr achuber hi, ac y#5:23 a byw fydd A. Ac fel y bydd byw א B C D L Δ Brnd. bydd fyw. 24Ac efe a aeth gydag ef; a thyrfa fawr a'i canlynodd ef, ac a wasgasant arno.
25A gwraig#5:25 rhyw D. Gad. א B C D L Δ., yr hon a flinid a dyferlif#5:25 Neu, rhediad, llifiad. gwaed am ddeuddeng mlynedd, 26ac a ddyoddefodd lawer dan lawer o feddygon, ac a dreuliodd yr oll oedd ganddi, ac ni chafodd unrhyw leshâd, ond yn hytrach yr oedd yn waeth, 27pan glybu y#5:27 Y pethau א B C D. Gad. A D L. pethau am yr Iesu, a ddaeth yn y dyrfa, o'r tu ol, ac a gyffyrddodd a'i wisg#5:27 Llyth.: ei wisg uchaf. ef. 28Canys hi a ddywedasai, Os cyffyrddaf ond a'i ddillad ef, iach fyddaf. 29Ac yn ebrwydd sychodd ffynonell ei gwaed hi, a hi a wybu yn ei chorff ei bod wedi ei hiachau o'r clefyd#5:29 Llyth.: ffrewyll yna poen, pla, cystudd.. 30Ac yn ebrwydd yr Iesu yn gwybod#5:30 Llyth.: llawn‐wybod, gwybod yn drwyadl. ynddo ei hun fod gallu wedi myned allan o hono, a drodd yn y dyrfa, ac a ddywedodd, Pwy a gyffyrddodd a'm dillad? 31A'i Ddysgyblion a ddywedasant wrtho, Ti a weli y dyrfa yn dy wasgu, ac a ddywedi di, Pwy a gyffyrddodd â mi? 32Ac efe a edrychodd o amgylch i weled yr hon a wnaethai hyn. 33Ond y wraig, gan ofni a chrynu, yn gwybod yr hyn a wnaethid iddi, a ddaeth ac a syrthiodd ger ei fron ef, ac a ddywedodd iddo yr holl wirionedd. 34Ac efe a ddywedodd wrthi, Ferch, dy ffydd a'th iachaodd#5:34 Neu, achubodd. Llyth.: y mae dy ffydd wedi dy iachau.; dos mewn heddwch#5:34 Llyth.: Dos dy ffordd i dangnefedd., a bydd holliach o'th glefyd. 35Ac efe eto yn llefaru, y maent yn dyfod o dŷ Prif‐lywodraethwr y Synagog, gan ddywedyd, Y mae dy ferch wedi marw. Paham yr wyt bellach yn poeni#5:35 Skullo, blingo, yna, poeni, cythryblu, blino, trallodi. yr Athraw? 36A'r Iesu wedi#5:36 Parakousas א B L D Ti. Tr. Al. yn golygu (1) goglywed, celglywed, clywed yn lladradaidd (S. overhear), hyny yw, dygwydd clywed; (2) peidio gwrando neu dalu sylw, esgeuluso (Gwel. Mat 18:17). Ewald, Lange, Alford &c., a gyfieithant fel yn y Testyn: Meyer a'r Diwygwyr Seisnig a gyfieithant heb wrandaw, heb dalu sylw. dygwydd clywed y gair a ddywedasid, a ddywed wrth Brif‐lywodraethwr y Synagog, Nac ofna, yn unig cred. 37Ac ni adawodd efe i neb i ddylyn gydag ef, ond Petr, ac Iago, ac Ioan brawd Iago. 38Ac y maent#5:38 maent yn dyfod א B C D Γ Δ Brnd. Mae yn dyfod L. yn dyfod i dŷ Prif‐lywodraethwr y Synagog, ac y mae efe yn gweled#5:38 Dal sylw ar. y cynhwrf, a rhai yn wylo ac yn galarnadu#5:38 Alalazô (1) gwaeddi allan Alala, yn fynych fel milwyr yn myned i'r frwydr; (2) gollwng allan lef orfoleddus (Salm 66:1, Llawen‐floeddiwch); (3) ochain, gruddfan, galarnadu, yn enwedig gan y menywod a gyflogasid i'r perwyl. (Cymharer y Lladin Ululare). llawer; 39ac wedi iddo fyned i mewn, efe a ddywed wrthynt, Paham y gwnewch gynhwrf, ac yr wylwch? Ni fu farw y plentyn, eithr huno y mae. 40A hwy a'i gwatwarasant#5:40 Chwarddasant yn wawdus, a wnaethant wawd o hono, a'i dirmygasant. ef. Eithr efe ei hun, wedi bwrw pawb allan, a gymmer dâd y plentyn, a'i mam, a'r rhai oedd gydag ef, ac y mae yn myned i mewn lle yr oedd y plentyn#5:40 Yn gorwedd A C. Gad. א B D L Δ Brnd.. 41Ac efe a ymaflodd yn llaw y plentyn, ac a ddywed wrthi, Talitha, coum#5:41 Coum א B C L M. 1:33. Al. Tr.; coumi D; coumei A; golyga tali yn yr Aramaeg, bachgen; talitha, geneth. Coum, neu Coumi, yw yr Hebraeg am cyfodi., yr hyn yw, wedi ei gyfieithu, Eneth, (yr wyf yn dywedyd wrthyt) Cyfod. 42Ac yn ebrwydd y cyfododd yr eneth, ac a rodiodd o amgylch; canys yr oedd hi yn ddeuddeng mlwydd oed. Ac yn#5:42 yn ebrwydd א B C L Δ Al. Ti. [Tr.] Diw. Gad. A. ebrwydd hwy a synasant gyda syndod mawr. 43Ac efe a orchymynodd iddynt yn gaeth, na chai neb wybod hyn; ac a ddywedodd am roddi peth iddi i'w fwyta.
Dewis Presennol:
Marc 5: CTE
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.