Ac efe eto yn llefaru, y maent yn dyfod o dŷ Prif‐lywodraethwr y Synagog, gan ddywedyd, Y mae dy ferch wedi marw. Paham yr wyt bellach yn poeni yr Athraw? A'r Iesu wedi dygwydd clywed y gair a ddywedasid, a ddywed wrth Brif‐lywodraethwr y Synagog, Nac ofna, yn unig cred.