Ac efe a gymmerodd y pum torth a'r ddau bysgodyn, a chan edrych i fyny tua'r Nef, efe a fendithiodd, ac a dorodd y torthau, ac a'u rhoddodd i'r Dysgyblion, i'w gosod ger eu bron hwynt: a'r ddau bysgodyn a ranodd efe rhyngddynt oll. A hwy oll a fwytasant, ac a ddigonwyd: a hwy a gymmerasant i fyny o'r briw‐fwyd ddeuddeg basgedaid yn llawn, ac o'r pysgod.