Canys oddifewn, allan o galon dynion, y daw allan feddyliau sydd ddrwg, megys puteindra, lladradau, llofruddiaethau, godinebau, trachwantau, drygioni, twyll, anlladrwydd, drwg‐lygad, athrod, balchder, ynfydrwydd. Yr holl ddrwg bethau hyn sydd yn dyfod allan oddifewn, ac yn halogi y dyn.