1
Marc 8:35
Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards)
Canys pwy bynag a ewyllysio gadw ei einioes, a'i cyll hi; eithr pwy bynag a gollo ei einioes er fy mwyn i a'r Efengyl, efe a'i ceidw hi.
Cymharu
Archwiliwch Marc 8:35
2
Marc 8:36
Canys pa leshâd i'r dyn, pe enillai efe yr holl fyd, a fforffedu ei einioes?
Archwiliwch Marc 8:36
3
Marc 8:34
Ac efe a alwodd ato y dyrfa, gyda'i Ddysgyblion, ac a ddywedodd wrthynt, Os ewyllysia neb ganlyn ar fy ol i, ymwaded âg ef ei hun, a chyfoded ei groes i fyny, a dylyned fi.
Archwiliwch Marc 8:34
4
Marc 8:37-38
Canys pa beth a rydd dyn yn gyfnewid am ei einioes? Canys pwy bynag a fyddo cywilydd ganddo fi a'm geiriau yn y genedlaeth odinebus a phechadurus hon, bydd cywilydd gan Fab y Dyn yntau hefyd, pan ddêl yn Ngogoniant ei Dâd, gyda'r Angelion sanctaidd.
Archwiliwch Marc 8:37-38
5
Marc 8:29
Ac efe a ofynodd iddynt, Ond pwy yr ydych chwi yn dywedyd fy mod i? Petr a atebodd iddo, Ti yw y Crist.
Archwiliwch Marc 8:29
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos