Marc 8
8
Crist yn porthi'r bobl; saith torth ar gyfer pedair mil
[Mat 15:32–38]
1Yn y dyddiau hyny, pan yr oedd drachefn#8:1 drachefn dyrfa fawr א B D G L La. Tr. Al. WH. dyrfa fawr iawn A E F Ti. dyrfa fawr, ac heb ganddynt ddim i'w fwyta, efe a alwodd y Dysgyblion ato, 2ac a ddywed, Yr wyf yn tosturio wrth y dyrfa, oblegyd y maent hwy dridiau weithian yn glynu#8:2 Neu, yn aros gyda mi. wrthyf, ac nid oes ganddynt beth i'w fwyta: 3ac os gollyngaf hwynt ymaith heb fwyd#8:3 Llyth.: yn ymprydio, ar eu cythlwng. i'w cartref‐leoedd, hwy a ddiffygiant ar y ffordd; ac y mae rhai o honynt wedi dyfod o bell. 4A'i Ddysgyblion ef a'i hatebasant, O ba le y gall neb ddigoni#8:4 Neu, borthi. y rhai hyn â bara yma mewn lle anghyfanedd? 5Ac efe a ofynodd iddynt, Pa sawl torth sydd genych? A hwy a ddywedasant, Saith. 6Ac y mae efe yn gorchymyn i'r dyrfa eistedd#8:6 Llyth.: syrthio yn ol. ar y ddaear: ac a gymmerodd y saith torth, ac wedi diolch, efe a'u torodd, ac a'u rhoddodd i'r Dysgyblion i'w gosod ger eu bron; a hwy a'u gosodasant ger bron y dyrfa. 7Ac yr oedd ganddynt ychydig bysgod bychain: ac wedi iddo fendithio y cyfryw, efe a ddywedodd i#8:7 Felly B C D L Al. Tr. Diw. osod y rhai hyn hefyd ger eu bron. 8A hwy a fwytasant, ac a ddigonwyd, ac a godasant weddill o'r briwfwyd, saith cawellaid#8:8 Spuris, basgawd neu gawell. Yr oedd y Kophinos [Mat 14:20; Marc 6:43; Luc 9:17; Ioan 6:13] yn llai o faintioli, ac wedi ei wneyd, fel rheol, o bleth‐wiail. Hwn fel rheol, a ddefnyddiai yr Iuddew wrth ymdeithio. Yr oedd y Spuris yn cael ei wneyd o raff neu gorswellt, a defnyddid ef yn fynych i gario bwyd.. 9Ac yr#8:9 rhai a fwytasant A C D. Gad. א B L. Brnd. [o 6:44; gwel hefyd Mat.] oeddynt ynghylch pedair mil; ac efe a'u gollyngodd hwynt ymaith.
Yn nacâu rhoddi arwydd i'r Phariseaid
[Mat 15:39—16:4]
10Ac yn ebrwydd wedi iddo fyned i gwch gyda'i Ddysgyblion, efe a ddaeth i barthau Dalmanutha. 11A'r Phariseaid a ddaethant allan, ac a ddechreuasant ymddadleu#8:11 Llyth.: gydymholi âg ef, yna, ymddadleu. âg ef, gan geisio ganddo arwydd o'r Nef, gan ei demtio. 12Ac efe a ocheneidiodd#8:12 Llyth.: ocheneidiodd i fyny, yna, ocheneidio yn ddwfn. yn ei yspryd, ac a ddywed, Paham y mae y genedlaeth hon yn ceisio arwydd? Yn wir meddaf i chwi, Ni#8:12 Llyth.: os rhoddir arwydd, &c., ond yr ystyr yw, Ni roddir arwydd, &c. Priodwedd Hebreig yw, wedi ei seilio ar rai ffurfiau o wneyd llw. (Cymharer Heb 3:11; 4:5; LXX., Gen 14:23; Deut 1:35, &c.) roddir arwydd i'r genedlaeth hon.
Hen surdoes Phariseaeth
[Mat 16:5–12]
13Ac efe a'u gadawodd hwynt, ac a aeth drachefn [i'r cwch]#8:13 i'r cwch A E F G, &c., La. Gad. א B C D L Δ Brnd., ac a ymadawodd i'r lan arall#8:13 Yr ochr ddwyreiniol.. 14A hwy a anghofiasant gymmeryd bara, ac nid oedd ganddynt ond un dorth gyda hwynt yn y cwch. 15Ac efe a orchymynodd iddynt, gan ddywedyd, Edrychwch, ymogelwch#8:15 Y mae y ddwy ferf yn golygu edrych neu weled, ond tebygol fod y blaenaf (oraô) yn golygu yma, dal sylw ar beth; tra y mae yr ail (blepô) yn golygu edrych i ffwrdd oddiwrtho; yna, gall y cyntaf ddynodi gwylio, a'r ail ymogelu. rhag surdoes y Phariseaid, a surdoes Herod. 16Ac yr oeddynt yn ymresymu wrth eu gilydd, Y#8:16 [y mae hyn] am nad oes ganddynt fara B D Al. La. WH. gan ddywedyd [y mae hyn] am nad oes genym fara א A C L Ti. Diw. mae hyn am nad oes ganddynt fara. 17A'r Iesu pan wybu, a ddywed wrthynt, Paham yr ymresymwch, mai am nad oes genych fara y lleferais? Onid ydych chwi eto yn amgyffred, nac yn deall? A ydyw eich calon wedi caledu? Ac onid ydych yn cofio? 18A chenych lygaid, oni welwch? A chenych glustiau, oni chlywch? 19Pan dorais y pum torth i'r pum mil, pa sawl basgedaid yn llawn o friwsion a godasoch i fyny? (6:43). Dywedant wrtho, Deuddeg. 20Pan y saith i'r pedair mil, pa sawl cawellaid o friwfwyd a godasoch i fyny? [[8:8]] A hwy a ddywedasant, Saith. 21Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ai nid ydych#8:21 Pa fodd nad ydych eto A D La. Tr. Ai nid ydych eto א C L Ti. Al. Diw. Pa fodd nad ydych Test. Der. eto yn deall?
Rhoddi golwg i ddyn dall.
22Ac y#8:22 Y maent yn dyfod B C D L Δ Brnd. Y mae yn dyfod A. maent yn dyfod i Bethsaida; ac y maent yn dwyn ato un dall, ac yn deisyf arno ar iddo gyffwrdd âg ef. 23Ac efe a afaelodd yn llaw y dall, ac a'i dygodd#8:23 dygodd א B C L Δ Brnd. arweiniodd neu tywysodd A D. ef allan o'r pentref; ac wedi iddo boeri ar#8:23 Llyth.: i'w. ei lygaid ef, a gosod ei ddwylaw arno, efe a ofynodd iddo, A#8:23 A weli di ddim B C Al. Diw. Os gwel efe ddim A Tr. weli di ddim? 24Ac wedi edrych i fyny, efe a ddywedodd, yr wyf yn gweled y dynion: canys#8:24 Felly yr holl brif‐lawysgrifau ond D. yr wyf yn eu canfod fel prenau yn rhodio o amgylch. 25Yna drachefn y gosododd efe ei ddwylaw ar ei lygaid, ac efe a edrychodd#8:25 Edrychodd yn ddiysgog (Meyer, Grimm, Diw, &c.). neu a welodd yn eglur (Alford, gwel Mat 7:5; Luc 6:42) א B C L Δ Brnd. A barodd iddo edrych i fyny A. yn ddiysgog, ac a adferwyd, ac efe a welai bob#8:25 Felly y Prif‐lawysgrifau. peth yn eglur o bell. 26Ac efe a'i hanfonodd ef ymaith i'w gartref, gan ddywedyd, Na â i mewn hyd y nod i'r pentref, ac#8:26 Felly A C Δ La. Al. [Tr.] Gad. א B L Ti. WH. Diw. na ddywed i neb yn y pentref.
Yn cydnabod mai efe yw y Crist
[Mat 16:13–23; Luc 9:18–22]
27A'r Iesu a aeth allan, efe a'i Ddysgyblion, i bentrefi Cesarea Philippi: ac ar y ffordd efe a ofynodd i'w Ddysgyblion, gan ddywedyd, Pwy y mae dynion yn dywedyd fy mod i? 28A hwy a ddywedasant iddo, gan ddywedyd, Ioan Fedyddiwr; ac eraill, Elias; ond eraill, un o'r Proffwydi. 29Ac efe a ofynodd#8:29 ofynodd א B C L Brnd. [a ddywed, o Mat 16:15]. iddynt, Ond pwy yr ydych chwi yn dywedyd fy mod i? Petr a atebodd iddo, Ti yw y Crist. 30Ac efe a orchymynodd iddynt na ddywedent i neb am dano. 31Ac efe a ddechreuodd eu dysgu hwynt, fod yn rhaid i Fab y Dyn ddyoddef llawer, a'i wrthod gan yr Henuriaid, a'r Arch‐offeiriaid, a'r Ysgrifenyddion, a'i ladd, ac wedi tridiau adgyfodi. 32Ac yn eglur y llefarodd efe yr ymadrodd. A Phetr a'i cymmerodd o'r neilldu#8:32 Proslambanô, ymaflyd mewn un er ei gymmeryd o'r neilldu., ac a ddechreuodd ei geryddu ef. 33Eithr wedi iddo droi, a gweled ei Ddysgyblion, efe a geryddodd Petr, ac a ddywed, Dos ymaith yn fy ol i, Satan; canys nid ydwyt yn synied#8:33 Neu, ystyried. y pethau sydd o Dduw, ond y pethau sydd o ddynion. 34Ac efe a alwodd ato y dyrfa, gyda'i Ddysgyblion, ac a ddywedodd wrthynt, Os ewyllysia neb ganlyn#8:34 ganlyn C D E F Al. Tr. Ti. ddyfod A B L (o Mat.) ar fy ol i, ymwaded#8:34 Neu, ymwrthoded. âg ef ei hun, a chyfoded ei groes i fyny, a dylyned fi. 35Canys pwy bynag a ewyllysio gadw#8:35 Neu. achub. ei einioes#8:35 Psuchê: (1) anadl, (2) bywyd, einioes, (3) creadur byw, person, (4) enaid, fe eisteddle teimladau, serchiadau, dymuniadau, (5) enaid, fel yn cynnwys hefyd yr yspryd, sef y rhan uchaf, foesol, ac anfarwol o ddyn., a'i cyll hi; eithr pwy bynag a gollo#8:35 Llyth.: a'i dystrywia hi. ei einioes er fy mwyn i a'r Efengyl, efe a'i ceidw#8:35 Neu. achub. hi. 36Canys pa leshâd i'r#8:36 i'r dyn A C D Tr. [Al.] dyn, pe enillai efe yr holl fyd, a fforffedu#8:36 Dyoddef colled, derbyn niwed. ei einioes#8:36 Psuchê: (1) anadl, (2) bywyd, einioes, (3) creadur byw, person, (4) enaid, fe eisteddle teimladau, serchiadau, dymuniadau, (5) enaid, fel yn cynnwys hefyd yr yspryd, sef y rhan uchaf, foesol, ac anfarwol o ddyn.? 37Canys pa beth a rydd dyn yn gyfnewid#8:37 Neu, bridwerth. am ei einioes#8:37 Psuchê: (1) anadl, (2) bywyd, einioes, (3) creadur byw, person, (4) enaid, fe eisteddle teimladau, serchiadau, dymuniadau, (5) enaid, fel yn cynnwys hefyd yr yspryd, sef y rhan uchaf, foesol, ac anfarwol o ddyn.? 38Canys pwy bynag a fyddo cywilydd ganddo fi a'm geiriau yn y genedlaeth odinebus a phechadurus hon, bydd cywilydd gan Fab y Dyn yntau hefyd, pan ddêl yn Ngogoniant ei Dâd, gyda'r Angelion sanctaidd.
Dewis Presennol:
Marc 8: CTE
Uwcholeuo
Rhanna
Copi

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.