Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Marc 4

4
Dammeg yr hauwr
[Mat 13:1–9; Luc 8:4–8]
1A thrachefn efe a ddechreuodd ddysgu ar làn y môr; a thyrfa fawr iawn a ymgasgla ato, yn gymmaint ag iddo fyned i'r cwch, ac a eisteddodd yn y môr; a'r holl dyrfa oedd wrth y môr ar y tir. 2Ac efe a ddysgai iddynt lawer mewn dammegion, ac a ddywedodd wrthynt yn ei ddysgeidiaeth, 3Gwrandewch: Wele yr hauwr a aeth allan i hau: 4a darfu wrth hau, i beth syrthio ar hyd y ffordd, a daeth yr ehediaid#4:4 Y nefoedd D G M (o Luc). Gad. A B C., ac a'u bwytasant i fyny. 5Ac arall a syrthiodd ar dir creigiog, lle ni chafodd fawr ddaear; ac yn ebrwydd yr eginodd, o herwydd ni chafodd ddyfnder daear. 6A phan gododd yr haul, crasboethwyd#4:6 Llyth.: llosgwyd gan wres. ef, ac o herwydd nad oedd iddo wreiddyn, efe a wywodd. 7Ac arall a syrthiodd yn mhlith#4:7 Llyth.: i'r drain. y drain; a'r drain a ddaethant i fyny, ac a'i tagasant, ac ni ddug#4:7 Llyth. roddodd. ffrwyth. 8Ac arall a syrthiodd i'r tir da, ac a ddug#4:8 Llyth. roddodd. ffrwyth tyfadwy a chynnyrchiol#4:8 Llyth.: gan dyfu i fyny a chynnyddu., ac a ddug i#4:8 Neu, ar ei ddeg‐ar‐hugain, &c. Eis, i, i fyny i. Eraill a ddarllenant heis, un; un, deg‐ar‐hugain, &c. fyny i ddeg‐ar hugain, ac i fyny i dri‐ugain, ac i fyny i gant. 9Ac efe a ddywedodd#4:9 [dim nodyn.], yr hwn sydd ganddo glustiau, gan wrando, gwrandawed#4:9 Neu, glustiau i wrando, gwrandawed..
Y Deongliad
[Mat 13:10–17; Luc 8:9, 10]
10A phan ddaeth efe i fod wrtho ei hun, y rhai oedd o amgylch iddo gyda'r Deuddeg a ofynasant iddo ynghylch y dammegion#4:10 Llyth.: a ofynasant iddo y dammegion.#4:10 Y dammegion א B C L Brnd. Y ddammeg A.. 11Ac efe a ddywedodd wrthynt, I chwi y mae dirgelwch#4:11 Mustêrion, gwirionedd dadguddiedig (“Mawr yw dirgelwch Duwioldeb, yr Hwn a ymddangosodd yn y cnawd” 1 Tim 3:16). Teyrnas Dduw wedi cael ei roddi#4:11 i wybod D. Gad. א A B C Brnd. (gwel Mat 13:11)., eithr i'r rhai sydd o'r tu allan, pob peth a wneir#4:11 Llyth.: a ddaw, a gymmer le. mewn dammegion; 12fel
Gan edrych yr edrychant, ac ni welant,
A chan glywed y clywant, ac ni ddeallant,
Rhag iddynt ddychwelyd#4:12 Neu, droi., a maddeu iddynt#4:12 eu pechodau A D. Gad. B C L Brnd.#Es 6:9, 10
13Ac efe a ddywed wrthynt, Oni wyddoch chwi y ddammeg hon? A pha fodd y gwybyddwch yr holl ddammegion?
14-15Yr hauwr sydd yn hau y gair. A'r rhai hyny yw y rhai ar hyd y ffordd, lle yr hauir y gair; a phan glywant, yn ebrwydd y mae Satan yn dyfod, ac yn dwyn ymaith y gair a hauwyd ynddynt#4:14 Test. Der. yn eu calonau D (o Matthew). Ynddynt hwy א C L Ti. iddynt hwy B Tr. Al. hwy. 16A'r rhai hyn, yr un modd, yw y rhai a hauir ar y creigleoedd, y rhai pan glywant y gair, sydd yn ebrwydd yn ei dderbyn ef gyda llawenydd, 17ac nid oes ganddynt wreiddyn ynddynt eu hunain, eithr dros dymhor y maent; yna pan ddêl gorthrymder#4:17 Blinder, cystudd., neu erlid o achos y gair, yn ebrwydd y rhwystrir#4:17 Llyth.: y meglir hwynt, y syrthiant i fagl. hwynt. 18Ac eraill#4:18 eraill B C D L. rhai hyn A. yw y rhai a hauir yn mysg#4:18 Llyth.: i'r. drain; y rhai hyn a wrandawant y gair, 19ac y mae gofalon yr oes#4:19 Neu, y byd., a thwyll golud, a'r chwantau am y pethau eraill, yn dyfod i mewn, ac yn tagu y gair, a myned y mae yn ddiffrwyth. 20A'r rhai hyny yw y rhai a hauwyd ar dir da, y rhai sydd yn gwrandaw y gair, ac yn ei dderbyn#4:20 Neu, roesawu., ac yn dwyn ffrwyth yn#4:20 Neu, un (hen) La. Al.; yn (en) E Γ G H Ti. Tr. ddeg‐ar‐hugain, ac yn#4:20 Neu, un (hen) La. Al.; yn (en) E Γ G H Ti. Tr. dri ugain, ac yn#4:20 Neu, un (hen) La. Al.; yn (en) E Γ G H Ti. Tr. gant.
Dammeg y llusern a'r Mesur
[Mat 13:12; 5:15; 10:26; Luc 8:16, 18]
21Ac efe a ddywedodd wrthynt, A ddaw#4:21 Neu, a ddygir. y llusern er ei gosod dan y llestr‐mesur#4:21 Modios, y llestr adnabyddus, yr hwn a fesurai tua wyth chwart, neu haner cibyn., neu o dan y gwely#4:21 Neu, glwth: y triclinium Rhufeinig, ar yr hwn y lled‐orweddid ar adeg gwleddoedd arbenig.? Ai nid er ei gosod ar y daliadyr#4:21 Neu, saf‐bren.? 22Canys nid oes dim cuddiedig, os nid i'w egluro; ac ni wnaed dim dirgel, ond fel y delai i'r amlwg. 23Od oes gan neb glustiau, gan wrando#4:23 Neu, i wrando, gwrandawed., gwrandawed. 24Ac efe a ddywedodd wrthynt, Edrychwch beth a wrandewch. A pha fesur y mesuroch, y mesurir i chwi, ac yr ychwanegir i chwi#4:24 Y rhai a wrandewch A G. Gad. א B C D Brnd.. 25Canys yr hwn y mae ganddo, y rhoddir iddo; a'r hwn nid oes ganddo, ie, yr hyn sydd ganddo a ddygir oddiarno.
Yr hâd a'r ffrwyth.
26Ac efe a ddywedodd, Felly y mae Teyrnas Dduw; fel y bwriai dyn hâd ar y ddaear, 27ac y cysgai a chyfodai nos a dydd, ac yr eginai yr hâd a thyfu i fyny, y modd nis gŵyr efe. 28O honi ei hun y ddaear a ddwg ffrwyth; yn gyntaf eginyn, yna y dywysen, yna yr yd cyflawn yn y dywysen. 29A phan ganiatao#4:29 Paradidômi (1) rhoddi i fyny (2) rhoddi gofal, neu gymeradwyo (1 Petr 2:23) (3) caniatau (“Fel y caniata cyfleusderau” Polybius). Felly cawn y cyfieithiadau (1) “Pan ddygir y ffrwyth allan” (Tyndale); (2) “Pan lenwir y ffrwyth” (Cyf. Philoxenaidd); (3) “Pan roddir y ffrwyth allan” (Gothaeg); (4) “Pan addfedo yffrwyth” (Cyf. Brenin Iago); “Pan rydd y ffrwyth ei hun i fyny” (Beza, Bengel, &c). Y mae Meyer, Lange, Grimm, yn ffafriol i gyfieithiad y testyn. y ffrwyth, yn ebrwydd efe a ddenfyn allan y cryman, canys y mae y cynhauaf yn ymyl.
Yr hedyn mwstard
[Mat 13:31, 32; Luc 13:18, 19]
30Ac efe a ddywedodd, Pa#4:30 Pa fodd א B C L. I ba beth A D (o Luc). fodd y cyffelybwn Deyrnas Dduw, neu gyd â pha ddammeg y gosodwn#4:30 Felly א B C L. Y cyffelybwn hi A D. hi allan? 31Fel gronyn o hâd mwstard, yr hwn pan hauer ar y ddaear, sydd lai na'r holl hadau ar y ddaear, 32eto wedi yr hauer, y mae yn tyfu#4:32 Llyth.: yn esgyn. i fyny, ac yn myned yn fwy na'r holl ardd-lysiau, ac a ddwg#4:32 Llyth.: a wna. ganghenau mawrion, fel y gall ehediaid y Nefoedd drigo#4:32 Llyth.: gosod i fynu babell, aros, lletya. dan ei gysgod ef.
Dammegion eraill
[Mat 13:34–52]
33Ac â chyfryw ddammegion lawer y llefarodd efe wrthynt y gair, fel yr oeddynt yn alluog i wrando. 34Ond heb ddammeg ni lefarodd efe wrthynt; ond yn y dirgel i'w Ddysgyblion ei#4:34 ei hun א B C L Δ. hun efe a esboniodd bob peth.
Yn tawelu y dymhestl
[Mat 8:23–27; Luc 8:22–25]
35Ac efe a ddywed wrthynt y dydd hwnw, wedi ei hwyrhau, Awn trosodd i'r tu draw. 36A chan adael y dyrfa, y maent yn ei gymmeryd ef fel yr oedd yn y cwch; ac yr oedd cychod eraill gydag ef. 37Ac y mae tymhestl fawr o wynt yn cyfodi, a'r tonau a ymruthrent i'r cwch, yn gymmaint a bod y cwch erbyn hyn yn llawn. 38Ac yr oedd efe ei hun yn y rhan ol o'r cwch, yn cysgu ar obenydd; ac y maent yn ei ddeffro ef, ac yn dywedyd wrtho, Athraw, ai difater genyt ein colli ni? 39Ac efe a lawn‐ddeffrôdd, ac a geryddodd y gwynt, ac a ddywedodd wrth y môr, Gostega, distawa. A'r gwynt a beidiodd#4:39 Llyth.: peidio drwy lafur neu flinder, fel un lluddedig, methu, treulio allan., a bu tawelwch mawr. 40Ac efe a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn llwfr#4:40 Deilos, gwangalon, ofnog, annewr.#4:40 Mor (llwfr) A C Al. Ti. Gad. א B D La. Tr. WH. Diw.? Ai nid oes genych eto#4:40 eto א B D. ffydd? 41A hwy a ofnasant gydag ofn mawr, ac a ddywedasant wrth eu gilydd, Pwy gan hyny yw hwn, gan fod hyd y nod y gwynt a'r môr yn ufuddhau iddo?

Dewis Presennol:

Marc 4: CTE

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda