Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Marc 3

3
Gwellhâd y dyn a'r llaw wywedig, ac eraill
[Mat 12:9–14; Luc 6:6–11]
1Ac efe a aeth i mewn drachefn i#3:1 א B Al. Ti. WH. i'r Synagog A C D L, La. Diw. Synagog, ac yr oedd yno ddyn a chanddo law wedi gwywo. 2Ac yr oeddynt yn ei wylio#3:2 paratêreô, gwylio yn ofalus., a iachäai efe ef ar y Sabbath, fel y cyhuddent ef. 3Ac efe a ddywed wrth y dyn oedd a'r law wywedig ganddo, Cyfod#3:3 Cyfod, a saf yn y canol. D. i'r canol. 4Ac efe a ddywed wrthynt, Ai cyfreithlawn ar y Sabbath#3:4 Neu, Sabbathau. gwneuthur da, ynte gwneuthur drwg#3:4 Neu, niwed.? Cadw einioes#3:4 psuchê, bywyd, einioes; enaid (mewn cyferbyniaeth i yspryd)., ynte lladd? Eithr hwy a dawsant. 5Ac wedi edrych oddiamgylch arnynt gyda digllonedd, gan dristhau#3:5 Llyth.: gan gydymofidio, hyny yw, gan ymofidio ynddo ei hun, neu, gan gydymdeimlo â hwy. am galedrwydd#3:5 Porôsis, pyledd, caledrwydd, dideimladrwydd, ystyfnigrwydd [o pôros, croen caled]. eu calonau, efe a ddywed wrth y dyn, Estyn allan dy#3:5 A C D P. Gad. B E M S, &c. law. Ae efe a'i hestynodd, a'i law ef a adferwyd#3:5 yn iach fel y llall (o Mat 14:13).. 6A'r Phariseaid a aethant allan, ac yn ebrwydd y cydymgynghorasant gyda'r Herodianiaid yn ei erbyn ef, fel#3:6 Neu, pa fodd. y dyfethent ef.
7A'r Iesu gyda'i Ddysgyblion a giliodd#3:7 Neu, ymneillduodd, a ddychwelodd. tua'r môr, a lluaws lawer o Galilea a ganlynasant; 8ac o Judea, ac o Jerusalem, ac o Idumea, ac o'r tu hwnt i'r Iorddonen, ac o gylch Tyrus a Sidon, lluaws lawer, gan glywed cymmaint a wnaeth efe, a ddaethant ato. 9Ac efe a ddywedodd wrth ei Ddysgyblion a'r fod i gwch#3:9 Ploiarion, cwch bychan. i weini#3:9 Proskartêreô, parhau (mewn gweddi, Act 1:14) glynu (wrth Philip, Act 8:13), talu sylw i (athrawiaeth, Act 2:42), parhau (yn y deml, Act 2:42). arno, o herwydd y dyrfa, rhag iddynt ei lethu ef: 10canys efe a iachasai lawer, hyd oni ruthrent#3:10 Llyth.: syrthient. arno, fel y cyffyrddent ag ef, cynnifer ag oedd âg anhwylderau#3:10 Llyth.: Ffrewylloedd, neu fflangelloedd, yna adfydau, cystuddiau, pläau, &c. arnynt. 11A'r ysprydion aflan, pa bryd bynag y syllent arno, a syrthient ger ei fron ef, ac a waeddent, gan ddywedyd, Tydi ydwyt Fab Duw. 12Ac efe a waharddodd iddynt yn llym nas gwnelent ef yn adnabyddus.
Pennodiad y Deuddeg
[Mat 10:2–4; Luc 6:12–16]
13Ac efe a esgyn i'r mynydd, ac a eilw ato y rhai a fynai efe, a hwy a ddaethant ato. 14Ac efe a neillduodd#3:14 Llyth.: wnaeth. Ddeuddeg, [y#3:14 א BC. WH. Gad A D P L Al. La. Ti. Tr. Diw. [Efallai o Luc 6:13] rhai a alwodd efe hefyd yn Apostolion], fel y byddent gydag ef, ac fel y danfonai efe hwynt i bregethu; 15ac i fod ganddynt awdurdod i fwrw#3:15 i iachau y clefydau, ac i fwrw allan, &c. AD. La. Gad. i iachâu y clefydau א BC. Al. Ti. Tr. WH. Diw. allan gythreuliaid. 16Ac ar Simon y rhoddodd efe enw, Petr; 17ac Iago, fab Zebedeüs, ac Ioan, brawd Iago; ac arnynt hwy y rhoddodd efe enw Boanerges, yr hyn ydyw, Meibion Taran; 18ac Andreas, a Philip, a Bartholomeüs, a Matthew, a Thomas, ac Iago fab Alpheüs, a Thaddeüs, a Simon y Cananëad#3:18 Neu, Zelotiad, Cananëad yw yr Aramaeg am Zelotiad (gwel Mat 10:4)., 19a Judas Iscariot, yr hwn hefyd a'i bradychodd ef.
Crist yn cael ei gyhuddo gan ei berthynasau o wallgofrwydd.
20Ac y maent yn dyfod i dy#3:20 Neu, gartref.; a'r dyrfa a ymgynnullodd drachefn, fel na allant gymmaint a bwyta bara. 21A phan glybu ei berthynasau#3:21 Llyth.: y rhai oedd gydag ef, y rhai o'i du ef, hyny yw, ei bobl, ei berthynasau. ef, hwy a aethant allan i'w ddal ef; canys dywedent, Y mae efe allan o bwyll.
A chan yr Ysgrifenyddion o fod mewn cyngrair a Satan
[Mat 12:22–27; Luc 11:14–23]
22A'r Ysgrifenyddion, y rhai a ddaethant i waered o Jerusalem, a ddywedasant, Y mae Beelzebwl#3:22 Beelzebwl, felly y prif lawysgrifau a'r Brnd.; golyga, Duw budreddi: Beelzebwb, Duw y Cylion. ganddo, ac, Trwy Dywysog y Cythreuliaid#3:22 Gr., Demoniaid. y mae efe yn bwrw allan y Cythreuliaid#3:22 Gr., Demoniaid.. 23Ac wedi iddo eu galw hwy ato, efe a ddywedodd wrthynt mewn dammegion, Pa fodd y gall Satan fwrw allan Satan? 24Ac o bydd teyrnas wedi ymranu yn ei herbyn ei hun, ni ddichon y deyrnas hono sefyll. 25Ac o bydd tŷ#3:25 oikia, ty, teulu. wedi ymranu yn ei erbyn ei hun, ni fydd#3:25 Y ferf yn yr amser dyfodol א B C L, Brnd. y tŷ hwnw yn alluog i sefyll. 26Ac os Satan a gyfododd yn ei erbyn ei hun, ac#3:26 Neu, y mae efe wedi ymranu, א C. a fydd wedi ymranu, ni all efe sefyll, eithr y mae iddo ddiwedd. 27Eithr ni ddichon neb, wedi myned i fewn i dŷ y cadarn, ysbeilio#3:27 Llyth.: cipio ymaith. ei lestri#3:27 Skeuos, llestr, dodrefn teuluaidd, celfi. (Golyga yma lestri, megis o aur ac arian, felly yn werthfawr). ef, oni bydd iddo yn gyntaf rwymo y cadarn; ac yna yr ysbeilia ei dŷ ef. 28Yn wir, meddaf i chwi, y maddeuir i feibion dynion yr holl bechodau, a'r cableddau#3:28 Cabledd, llyth.: siarad niweidiol, athrodiaith., pa gymmaint#3:28 Y mae hosa (pa gymmaint bynag) yn cynnwys y pechodau yn gystal a'r cableddau. Dadganiad llawn fyddai: yr holl bechodau a bechant, a'r holl gableddau â'r rhai y cablant. bynag y cablant. 29Eithr yr hwn a gablo yn erbyn#3:29 Llyth.: i'r, mewn perthynas i'r. yr Yspryd Glân, nid oes iddo faddeuant yn dragywydd, eithr y mae efe mewn perygl#3:29 Enochos, yn ddarostyngedig i, mewn dalfa gan, yn agored i, yna, euog o; “euog fydd o gorff a gwaed yr Arglwydd” (1 Cor 11:27). o bechod#3:29 pechod א B L Brnd.; barn A. tragywyddol: 30am iddynt ddywedyd, Y mae yspryd aflan ganddo.
Cenadwri ei fam a'i frodyr
[Mat 12:46–50; Luc 8:19–21]
31Ac y mae ei fam a'i frodyr ef yn dyfod; a chan sefyll o'r tu allan, hwy anfonasant ato, gan ei alw ef. 32A thyrfa a eisteddent o'i amgylch ef, ac a ddywedant wrtho, Wele y mae dy fam a'th frodyr#3:32 A D La. Ti. a ychwanegant, a'th chwiorydd. y tu allan, yn dy geisio di. 33Ac efe gan ateb, a ddywed wrthynt, Pwy ydyw fy mam i, a'm brodyr? 34Ac wedi iddo edrych oddiamgylch ar y rhai oedd yn eistedd yn ei gylch, efe a ddywed, Wele fy mam i, a'm brodyr i. 35Canys pwy bynag a wnelo ewyllys Duw, efe yw fy mrawd i, a'm chwaer, a'm mam.

Dewis Presennol:

Marc 3: CTE

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda