Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Marc 2

2
Crist yn iachau un parlysig, ac yn cyfiawnhau ei awdurdod
[Mat 9:2–8; Luc 5:17–26]
1Ac efe a aeth drachefn i Capernaum wedi rhai dyddiau, a chlybuwyd ei fod ef yn y ty#2:1 Neu, gartref.; 2a llawer#2:2 yn ebrwydd A C D Al. La. [Tr.]; gad. א B L Ti. WH. Diw. a ymgasglasant ynghyd, fel nad oedd lle iddynt mwyach, hyd y nod o gylch y drws: ac efe a lefarodd y gair iddynt. 3A hwy a ddaethant ato gan ddwyn un claf o'r parlys, yr hwn a ddygid gan bedwar. 4A chan na allent neshâu#2:4 neshâu ato A C D Al. La. Tr. Diw.; ei ddwyn ato א B L Ti. WH. ato ef o herwydd y dyrfa, didoi y tô a wnaethant lle yr oedd efe: ac wedi iddynt dori trwodd, hwy a ollyngasant i waered y gwely#2:4 Krabbatos, glwth, gwely bychan, gwersyll‐wely: S. pallet. ar yr hwn y gorweddai y claf o'r parlys. 5A'r Iesu, yn gweled eu ffydd hwy, a ddywed wrth y claf o'r parlys, O Fab#2:5 Groeg, O Blentyn!! maddeuir#2:5 Felly א B La. Ti. WH.; Maddeuwyd dy bechodau A C D L Al. Diw. dy bechodau. 6Ac yr oedd rhai o'r Ysgrifenyddion yn eistedd yno, ac yn ymresymu yn eu calonau; 7Paham#2:7 Felly א B D L Brnd. Paham y mae hwn yn llefaru cableddau? A C. y llefara hwn felly? Y mae yn cablu. Pwy all faddeu pechodau ond Un, sef Duw? 8Ac yn ebrwydd a'r Iesu yn gwybod#2:8 Groeg, perffaith wybod. yn ei yspryd eu bod hwy yn ymresymu felly ynddynt eu hunain, efe a ddywed wrthynt, Paham yr ymresymwch y pethau hyn yn eich calonau? 9Pa un hawddach, dywedyd wrth y claf o'r parlys, Maddeuir dy bechodau, ai dywedyd, Cyfod, a chymmer i fyny dy wely#2:9 Krabbatos, glwth, gwely bychan, gwersyll‐wely: S. pallet., a#2:9 Felly A B C Brnd ond Ti. Dos ymaith א L Ti. rhodia? 10Eithr fel y gwypoch fod awdurdod gan Fab y Dyn ar y ddaear i faddeu pechodau, efe a ddywed wrth y claf o'r parlys, 11Wrthyt ti yr wyf yn dywedyd, Cyfod, cymmer i fyny dy wely#2:11 Krabbatos, glwth, gwely bychan, gwersyll‐wely: S. pallet., a dos i'th dŷ. 12Ac efe a gyfododd, ac yn ebrwydd y cymmerodd i fyny ei wely#2:12 Krabbatos, glwth, gwely bychan, gwersyll‐wely: S. pallet., ac a aeth allan yn eu gwydd hwynt oll; hyd oni synodd pawb, a gogoneddu Duw, gan ddywedyd, Ni welsom ni erioed fel hyn#2:12 Neu, gyffelyb,.
Yn galw Matthew
[Mat 9:9–13; Luc 5:27–32]
13Ac efe a aeth allan drachefn wrth làn y môr: a'r holl dyrfa oedd yn dyfod ato, ac efe a'u dysgodd hwynt. 14Ac efe yn myned rhagddo, efe a ganfu Lefi#2:14 Iago D., mab Alpheüs, yn eistedd wrth#2:14 Llyth. ar. y dollfa, ac efe a ddywed wrtho, Canlyn fi. Ac efe a gyfododd ac a'i canlynodd ef. 15A dygwydd#2:15 dygwydd [ginetai, amser presenol] א B L Brnd. iddo eistedd i fwyta yn ei dŷ ef, a llawer o Drethgasglwyr a phechaduriaid a eisteddasant gyda'r Iesu a'i Ddysgyblion: canys llawer oeddynt#2:15 Neu, canys llawer oeddynt, a hwy a'i canlynent. A'r Ysgrifenyddion o'r Phariseaid, &c.. 16A'r Ysgrifenyddion o'r#2:16 Felly א B L Ti. Tr. Diw. A'r Ysgrifenyddion a'r Phariseaid A C D Al. Phariseaid#2:16 Hyny yw, o sect y Phariseaid. hefyd a'i canlynent: ac yn gweled ei fod yn bwyta gyda'r pechaduriaid#2:16 Felly B D L Tr. WH. Al. Diw. Trethgasgiwyr a'r pechaduriaid A C. a'r Trethgasglwyr, hwy a ddywedasant wrth ei Ddysgyblion ef, Y mae efe yn bwyta [ac yn yfed]#2:16 [ac yn yfed] gad. א B D WH. gyda y Trethgasglwyr a'r pechaduriaid. 17A'r Iesu, pan glybu, a ddywed wrthynt, Y rhai sydd iach#2:17 Gr. gryfion. nid rhaid iddynt wrth feddyg, ond y rhai sydd gleifion: ni ddaethum i alw rhai cyfiawn, ond pechaduriaid#2:17 Felly א A B D L Brnd. I edifeirwch C [o Luc 5:32]..
Ynghylch ympryd
[Mat 9:14–17; Luc 5:33–39]
18Ac yr oedd Dysgyblion Ioan a'r Phariseaid yn ymprydio. Y maent yn dyfod ac yn dywedyd wrtho, Paham y mae Dysgyblion Ioan a Dysgyblion#2:18 Felly א B C L Brnd. y Phariseaid yn ymprydio, ond dy Ddysgyblion di nid ydynt yn ymprydio? 19A dywedodd yr Iesu wrthynt, A all meibion y briodas‐ystafell ymprydio, tra y mae y priodas‐fab gyda hwynt? Tra fyddo ganddynt y priodas‐fab gyda hwynt, ni allant ymprydio. 20Ond dyddiau a ddeuant, pan ddygir y priodas‐fab oddiwrthynt, ac yna yr ymprydiant yn y#2:20 [dim nodyn.] dydd hwnw. 21Ni wnïa neb ddernyn#2:21 epiblêma, clwt, darn. o lain o frethyn#2:21 rhakos, darn wedi ei rwygo ymaith, llain o frethyn. cri#2:21 agnaphos, heb ei bànnu neu ei drin, felly newydd. ar ddilledyn hên: os amgen, y mae yr hyn‐a‐leinw#2:21 plêroma, yr hyn a leinw i fyny, megys llong gan lwyth neu forwyr; dinas gan drigolion, &c. “Y ddaear a'i chyflawnder,” 1 Cor 10:26 “llawnder y basgedi,” Marc 6:43.‐i‐fyny yn tynu oddiwrtho, y newydd oddiwrth yr hên, a gwaeth rhwyg a ddygwydd. 22Ac ni thywallt neb win newydd i hen gostrelau lledr#2:22 askos, côd neu gwd lledr, yn yr hwn y cedwid gwin neu ddwfr; gwin‐grwyn, cydau lledr.: os amgen, y gwin a rwyga y costrelau lledr#2:22 askos, côd neu gwd lledr, yn yr hwn y cedwid gwin neu ddwfr; gwin‐grwyn, cydau lledr., a'r#2:22 A'r gwin a red allan a'r costrelau L. “A'r gwin a'r costrelau lledr a gollir D. A'r gwin a red allan (gwel Mat 9:17) a'r costrelau lledr a gollir (gwel Luc 5:37) א A C. A'r gwin a gollir a'r costrelau lledr B L Brnd. gwin a gollir a'r costrelau lledr: eithr#2:22 Felly א A C. eithr [tywalltant] win newydd i gostrelau lledr newyddion B Diw. [Tr.]: gad. D Al. Ti. rhaid tywallt gwin newydd#2:22 Neos, newydd, diweddarach, newydd yn ei berthynas ag amser, felly ieuanc, diweddar. i gostrelau lledr newyddion#2:22 kainos, newydd mewn perthynas i ansawdd, natur, nodwedd, felly annhreuliedig. Gelwir goruchwyliaeth yr Efengyl ‘y cyfammod newydd’ [diathêkê nea, Heb 12:24] am ei bod yn ddiweddarach na'r Oruchwyliaeth Foesenaidd. Gelwir hi hefyd yn “gyfammod newydd” [diathêkê kainê, Heb 9:15] am nad yw yn myned yn hên fel yr Oruchwyliaeth Foesenaidd..
Crist yn amddiffyn ei Ddysgyblion am dynu tywys ar y Sabbath
[Mat 12:1–8; Luc 6:1–5]
23A bu iddo ar y dydd Sabbath fyned trwy y meusydd yd#2:23 Llyth.: lleoedd wedi hau ynddynt.; a'i Ddysgyblion ef a ddechreuasant wneyd iddynt lwybr#2:23 Hodon poiein, gwneyd ffordd, agoryd llwybr. Hodon poieisthai yw gwneyd eu ffordd, hyny yw, myned yn mlaen, ymdeithio. Gwnelai y Dysgyblion lwybr trwy dynu y tywys oedd yn tyfu dros, neu yn groes i'r ffordd yr elent., gan dynu y tywys. 24A'r Phariseaid a ddywedasant wrtho, Wele, paham y gwnant ar y Sabbath yr hyn nid yw gyfreithlawn#Ex 20:8–11? 25Ac efe a ddywed wrthynt, Ai ni ddarllenasoch erioed yr hyn a wnaeth Dafydd, pan yr oedd angen arno a chwant bwyd, efe a'r rhai oedd gydag ef? 26Y#2:26 Y modd; gad B.D, y rhai a ddarllenant, Efe a aeth i dy Dduw. modd yr aeth efe i Dy Dduw, pan#2:26 Neu, yn ngwydd neu o flaen Abiathar. [Gweler 1 Cor 6:1, 6; 2 Cor 7:14] yr oedd Abiathar yn Arch‐offeiriad#1 Sam 21:1–6#2:26 Yn Samuel, Ahimelech a enwir fel Arch‐offeiriad. Y mae llawer o ddyryswch mewn perthynas i enwau yn yr adeg y cyfeirir ati. Gelwir Ahimelech ei hun Ahiah yn 1 Sam 14:3; gelwir Abiathar yn fab Ahimelech yn 1 Sam 22:20; gelwir Ahimelech yn fab Abiathar yn 2 Sam 8:17; gelwir ef Abimelech yn 1 Cr 18:16, ac y bwytaodd y torthau gosod#2:26 Llyth.: torthau y cyflwyniad, neu, y torthau, dangos, [torthau y cynnrychioldeb J. W.]#Ex 35:13; 39:18; 1 Cr 9:32, y rhai nid cyfreithlawn eu bwyta#Lef 24:9, ond i'r offeiriaid; ac a'u rhoddes hefyd i'r rhai oedd gydag ef? 27Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y Sabbath a wnaethpwyd er mwyn dyn, ac nid dyn er mwyn y Sabbath. 28Felly Arglwydd ydyw Mab y Dyn hyd y nod ar y Sabbath.

Dewis Presennol:

Marc 2: CTE

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda