Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Matthew 15

15
Gair Duw a thraddodiadau dynol.
[Marc 7:1–23]
1Yna y mae yn dyfod at yr Iesu o#15:1 Felly א B D Brnd.; yr Ysgrifenyddion a'r Phariseaid, y rhai oedd o Jerusalem, a ddaethant, &c. C L Δ Al. Jerusalem, Phariseaid ac Ysgrifenyddion, gan ddywedyd, 2Paham y mae dy Ddysgyblion di yn troseddu traddodiad yr hynafiaid? canys nid ydynt yn golchi dwylaw pan fwytaont fara. 3Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych chwi hefyd yn troseddu gorchymyn Duw o herwydd#15:3 Neu er mwyn, o achos. eich traddodiad chwi? 4Canys Duw a#15:4 A ddywedodd B D Tr. WH. Diw.; a orchymynodd, gan ddywedyd א C Al. ddywedodd,
Anrhydedda dy dad a'th fam.#Ex 20:12. ac,
Yr hwn a ddifenwo#15:4 Athrodi, enllibo, yna melldithio. dad neu fam, bydded iddo farw y farwolaeth#15:4 Llyth., terfyned [fywyd] trwy farwolaeth, hyny yw, bydded iddo yn sicr farw..#Ex 21:17.
5Eithr yr ydych chwi yn dywedyd, Pwy bynag a ddywedo wrth ei dad neu ei fam, Rhodd yw pa beth bynag y'th lesolir drwyddi oddiwrthyf fi, efe#15:5 Gadewir allan ac yn y prif lawysgrifau. Felly, nid oes angen am eiriau llanw, megys difai fydd. Mae yr adnod yn ddyrus, ac wedi cael ei chyfieithu mewn llawer ffordd; ond (1) golyga rhodd rodd sanctaidd, yr hyn a offrymir i Dduw, a ddiofrydir i wasanaeth y deml, &c. Gelwir hi Corban yn Marc 7:11, 12, sef rhodd wedi ei chyssegru i Dduw. Dysgai y Phariseaid a'r Ysgrifenyddion, pe gwnelai un ddiofrydu unrhyw beth i Dduw neu i'r deml, a hyny hyd y nod o nwyd neu fel ffurf o dyngu a rhegu, na ddylai ar ol hyny ei roddi at gynnaliaeth yr hwn y defnyddiodd y geiriau tuag ato. Etto, gallai yn gyfreithlawn ei gadw yn ol oddiwrth Dduw, a'i ddefnyddio mewn unrhyw ffordd y dymunai, gyda'r eithriad o'r uchod. Felly, yr hwn a ddywedo “Corban” wrth ei dad, nid yw mwyach i anrhydeddu ei dad yn ymarferol â'r rhodd hono, hyny yw, rhaid iddo beidio ei rhoddi neu ei defnyddio er lles ei dad.#15:5 Felly א B C D Brnd.; ac ni anrhydedda Δ Al. 6nid anrhydedda ei dad#15:6 Neu ei fam C L Δ Al. Ti. Tr.: Gad. א B D La. WH. Diw.. A chwi a wnaethoch air#15:6 Air B D La. Tr. WH. Diw.; gyfraith א C Al. Ti.; orchymyn L X. Duw yn ddirym o herwydd eich traddodiad. 7O ragrithwyr#15:7 Y mae yn debyg y golyga hupokritês fwy nâ rhagrithiwr, ffughonwr, un twyllodrus, dyn ffuantus. Weithiau cyfieithir y gair Hebraeg chaneph “annuwiol,” “drygionus,” yn y Deg‐a‐Thriugain hupokritês, megys yn Job 34:30, “Fel na theyrnaso y dyn annuwiol” [hupokritês], a Job 36:13, “Ond y rhai drygionus [hupokritai] yn eu calon a chwanegant ddig.” Gwna Acwila hefyd gyfieithu yr un gair Hebraeg hefyd yn Job 15:34 gan hupokritês, pan y defnyddia y LXX asebês [anwir, annuwiol,] ac yn Job 20:5, pan y defnyddia y LXX paranomos, troseddwr. Felly, dynoda hupocrisis, ddrygioni, annuwioldeb, ac nid rhagrith yn unig. Gwelir fod yr ystyr hwn yn ateb yn dda yn Mat 23:28, “O fewn yr ydych yn llawn rhagrith” [gwell, drygioni, annuwioldeb.] Dengys y cyd‐destyn fod Crist yn cyfeirio at annuwioldeb a drygioni eu calon. Mat 24:51, “Ac efe a'i gwahana ef, ac a esyd ei ran gyda'r rhagrithwyr” [gwell, drygionus]. Y mae Mat 22:18, “A'r Iesu yn gwybod eu drygioni hwy,” yn cyfateb i Marc 12:15, “Ond efe gan wybod eu rhagrith hwynt,” a Luc 20:23, “Ac efe a ddeallodd eu cyfrwysdra hwynt.”, da y proffwydodd Esaiah am danoch chwi, gan ddywedyd,
8Y bobl hyn a'm#15:8 A neshânt ataf a'u genau, ac C Δ; Gad. א B D L Brnd. [Dyfyniad o'r LXX] hanrhydeddant â'u gwefusau,
Ond eu calon sydd bell iawn oddiwrthyf;
9Eithr yn ofer y'm haddolant I,
Gan y dysgant fel eu dysgeidiaeth orchymynion dynion.#Es 29:15
Yr hyn a gyfansodda wir burdeb.
10Ac wedi iddo alw y dyrfa ato, efe a ddywedodd wrthynt, Clywch a deallwch. 11Nid yr hyn sydd yn myned i fewn i'r genau sydd yn halogi y dyn, ond yr hyn sydd yn dyfod allan o'r genau, hyny sydd yn halogi y dyn. 12Yna y daeth ei Ddysgyblion, ac y maent yn dywedyd wrtho, A wyddost ti i'r Phariseaid gael eu tramgwyddo#15:12 Neu eu rhwystro, gael achos tramgwydd [gweler Mat 5:29, 30; 11:6; 13:21, 57]. pan y clywsant y gair? 13Ac yntau a atebodd a ddywedodd, Pob planigyn#15:13 Llyth., planiad., yr hwn ni phlanodd fy Nhad nefol#15:13 Llyth., Fy Nhad, y Nefol., a ddiwreiddir. 14Gadewch iddynt#15:14 Neu, Gadewch hwynt.. Arweinwyr deillion i ddeillion ydynt; ac os dall a arweinia ddall, y ddau a syrthiant i bwll. 15A Phetr a atebodd, ac a ddywedodd wrtho, Eglura i ni y ddammeg#15:15 Hon C D L: Gad. א B Z Brnd.. 16Ac efe#15:16 Iesu C L; Gad. א B D Z Brnd. a ddywedodd, A ydych chwithau hefyd hyd yn hyn heb ddeall? 17Oni#15:17 Oni chanfyddwch B D Z Brnd.; oni chanfyddwch etto א C L. chanfyddwch fod yr hyn oll sydd yn myned i fewn i'r genau yn myned i'r bol#15:17 Neu, cylla, coluddion., ac y bwrir ef allan i'r geudy? 18Eithr y pethau a ddeuant allan o'r genau a ddeuant allan o'r galon; a hwy sydd yn halogi y dyn. 19Canys o'r galon y mae meddyliau#15:19 Dialogismoi, ymresymiadau tufewnol, ymofyniadau. drwg yn dyfod allan, llofruddiaethau, godinebau, puteiniadau, lladradau, cam‐dystiolaethau, cableddau: 20dyma y pethau sydd yn halogi y dyn; eithr bwyta â dwylaw heb eu golchi nid ydynt yn halogi y dyn.
Ffydd y wraig a gwellhad ei merch.
[Marc 7:24–30]
21A'r Iesu a aeth allan oddiyno, ac a giliodd i barthau Tyrus a Sidon. 22Ac wele wraig oedd Ganaanëes a ddaeth allan o'r cyffiniau hyny, ac a lefodd, gan ddywedyd#15:22 Wrtho L X. Gad. א B C Z Brnd., Trugarha wrthyf, O Arglwydd, Fab Dafydd: fy merch a feddiannir yn ddrwg gan gythraul.#15:22 Llyth., sydd yn ddrwg gythreulig. 23Eithr nid atebodd efe air iddi. A daeth ei Ddysgyblion, ac a atolygasant iddo, gan ddywedyd, Gollwng hi ymaith, canys y mae hi yn llefain ar ein hol. 24Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Ni'm danfonwyd I ond at ddefaid colledig ty Israel#15:24 Jeremiah 1:16; Eseciel 34:1–31.. 25Ond hi a ddaeth, ac a ymgrymodd iddo#15:25 Neu, a'i haddolodd., gan ddywedyd, Arglwydd, cymhorth#15:25 Llyth., cynnorthwya [mewn ateb i lef un mewn perygl neu angen]. fi. 26Eithr efe a atebodd ac a ddywedodd, Nid da#15:26 Neu, gweddus.#15:26 Da א B C Δ Tr. WH. Diw.; cyfreithlawn D Ti. La. Al. cymmeryd bara#15:26 Neu, torth. y plant a'i fwrw i'r cwn#15:26 Kunaria Cynos, (cwn bychain); felly, nid cwn mawrion, aflan a ffyrnig, a olygir, ond rhai bychain, dôf, ac anwesog, (pet dogs).. 27Eithr hi a ddywedodd, Gwir, Arglwydd; canys y mae y cwn#15:27 Kunaria Cynos, (cwn bychain); felly, nid cwn mawrion, aflan a ffyrnig, a olygir, ond rhai bychain, dôf, ac anwesog, (pet dogs). yn bwyta o'r briwsion sydd yn syrthio oddiar fwrdd eu meistriaid. 28Yna yr atebodd yr Iesu ac a ddywedodd wrthi, O wraig, mawr yw dy ffydd: bydded i ti fel yr wyt yn ewyllysio. A iachawyd ei merch o'r awr hono.
Porthi y Pedair Mil.
[Marc 7:31—8:10]
29A'r Iesu a symmudodd oddiyno, ac a ddaeth at lan#15:29 Llyth., ar hyd glan. môr Galilea; ac efe a esgynodd i'r mynydd, ac a eisteddodd yno. 30A daeth ato dorfeydd lawer, a chanddynt gyda hwynt gloffion, deillion, mudion,#15:30 Kôphos, efallai yn wreiddiol a olygai pwl, diawch, yna hwyrdrwm, yn enwedig gyda golwg ar glywed a llefaru; felly, golyga y gair (1) mudan, Mat 9:32; 12:22; (2) byddar, Mat 11:5; Marc 7:32, 37; Luc 7:22; &c. anafusion,#15:30 Kullos crymedig, cam, crwca, yna anafus (efallai y golygai y gair yma rai yn grymedig o herwydd poen ac afiechyd yn hytrach nâ rhai wedi eu hanafu). ac ereill lawer; a hwy a'u taflasant i lawr wrth ei draed#15:30 Ei draed א B D L Brnd.; draed yr Iesu C P X., ac efe a'u hiachaodd hwynt: 31fel y rhyfeddodd y torfeydd wrth weled y#15:31 Y mudion yn llefaru C D P Brnd.; y byddariaid yn clywed B. mudion yn llefaru, yr anafusion#15:31 Kullos crymedig, cam, crwca, yna anafus (efallai y golygai y gair yma rai yn grymedig o herwydd poen ac afiechyd yn hytrach nâ rhai wedi eu hanafu). yn iach, a'r cloffion yn rhodio, a'r deillion yn gweled; a hwy a ogoneddasant Dduw Israel.
32A galwodd yr Iesu ei Ddysgyblion ato, ac a ddywedodd, Yr wyf yn tosturio wrth y dyrfa, canys y maent yn aros gyda mi dridiau weithian, ac nid oes ganddynt ddim i'w fwyta, ac nid ydwyf yn ewyllysio eu gollwng hwynt ymaith yn newynog#15:32 Llyth., yn ymprydio (pa un ai yn wirfoddol, Mat 17:21; Act 27:9; neu yn orfodol, 2 Cor 6:5; 11:27)., rhag iddynt ddiffygio#15:32 Eu gwanychu, myned yn lluddedig. ar y ffordd. 33A'r Dysgyblion a ddywedant wrtho, Pa le y caem ni gynnifer o dorthau yn y diffaethwch fel y digonid tyrfa gymmaint? 34A'r Iesu a ddywed wrthynt, Pa sawl torth sydd genych? A hwy a ddywedasant, Saith, ac ychydig bysgod bychain. 35Ac efe a orchymynodd i'r dyrfa#15:35 I'r dyrfa א B D Brnd.; i'r torfeydd C P. eistedd#15:35 Groeg, syrthio yn ol, lled‐orwedd. ar y ddaear. 36Efe a gymmerodd y saith dorth a'r pysgod; ac a ddiolchodd, ac a dorodd, ac a roddodd i'r Dysgyblion, a'r Dysgyblion i'r torfeydd; 37a hwy oll a fwytasant ac a ddigonwyd; ac a godasant o weddill y briwfwyd saith fasgedaid#15:37 Spuris, gair gwahanol i'r hwn a ddefnyddir yn 14:20. [Kophinos, basgaid a wnaed o fer‐helyg (wicker). Spuris, rhywbeth wedi ei gyfrodeddu, ei blethu, neu ei blygu yn nghyd, fel fflasg neu gawell. Fel rheol, yr oedd basged o'r fath yn un fawr.] yn llawn. 38A'r rhai a fwytasant oeddynt bedair mil o wyr, heblaw gwragedd a phlant. 39Ac wedi iddo ollwng y torfeydd ymaith, efe a aeth i'r cwch, ac a ddaeth i gyffiniau Magadan.#15:39 Cafodd Magdala ei osod yn lle Magadan fel lle mwy adnabyddus; y mae hyn yn fwy tebygol nâ'r dybiaeth wahanol.#15:39 Magadan א B D Brnd.; Magdala L.

Dewis Presennol:

Matthew 15: CTE

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda