Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Matthew 16

16
Arwydd Jonah i genedlaeth ddrwg.
[Marc 8:10–13]
1A'r Phariseaid a'r Saduceaid a ddaethant ato, a chan ei demtio hwy a atolygasant iddo ddangos iddynt arwydd o'r nef. 2Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, [Pan#16:2 Gadewir allan yr adran rhwng cromfachau yn y ddwy lawysgrif henaf — y Sinäitaidd a'r Vaticanaidd; hefyd mewn hen lawysgrifau prif‐lythyrenol ereill, yn gystal a rhai rhedegog (cursive); hefyd, mewn amryw o'r hen gyfieithiadau. Nid oedd yn y llawysgrifau oeddynt yn adnabyddus i Jerome, ac ni chymmer Origen sylw o honi. Ar y llaw arall, y mae yn y ddwy lawysgrif ydynt nesaf mewn pwysigrwydd i'r ddwy uchod, sef yn C a D. Hefyd, y mae yn y Cyfieithiad Syriaeg (yr ail ganrif). Y mae mantol yr awdurdodau yn hytrach yn erbyn y dybiaeth ei bod yn rhan o'r testyn gwreiddiol; etto, y mae yn anhawdd cyfrif am dani yn y lleill. Felly, gosodwn hi rhwng cromfachau fel yn amheus. Y mae y beirniaid yn annghytuno — rhai yn amheus, fel Alford a Tischendorf; ereill dros, fel Tregelles a'r Diwygwyr Seisnig; ereill yn erbyn, fel Westcott a Hort, McClellan, &c. ddaw yr hwyr, dywedwch, Tywydd teg#16:2 Gair yn deilliaw o Zeus, Jupiter, yr hwn yn Ofergoeliaeth y Groegiaid oedd arglwydd yr wybren a llywodraethwr y tywydd., canys y mae y nefoedd yn goch. 3Ac yn y boreu, Tywydd garw heddyw, canys y mae y nefoedd yn goch ac yn bruddaidd#16:3 Gair a ddefnyddir yn fwyaf neillduol am y gwyneb dynol fel yn arddangos gofid a phetrusder (“Ac efe a bruddhaodd wrth yr ymadrodd,” Marc 10:22), ac yn golygu syrthio (“syrthiodd ei wynebpryd”), pruddhau, cymmylu; felly, llefara ein Harglwydd am wyneb y nefoedd.. Chwi#16:3 O ragrithwyr E; Gad C D L Δ Brnd. a fedrwch ddeall gwyneb y nefoedd, ond arwyddion yr amseroedd ni fedrwch.] 4Cenedlaeth ddrwg#16:4 Y mae i ponêros, yr hwn a gyfieithir ‘drwg’ ddau ystyr neillduol yn y T. N. sef (1) drygionus, yn yr ystyr o achosi drwg, niwed, colled, &c., felly ysgeler, niweidiol. [S. mischievous] “Na wrthwynebwch ddrwg [neu, yr un drwg]; ond pwy a'th darawo ar dy rudd ddehau,” &c. Mat 5:39. “Gwared ni oddiwrth yr Un drwg” [yr hwn a wnel niwed i ni] Mat 6:13. “A'r Iesu yn gwybod eu drygioni [bwriad drygionus] hwynt,” Mat 22:18. (2) anhael, cybyddlyd, trachwantus, crintachlyd; “Os chwychwi gan hyny, a chwi yn ddrwg [crafanclyd, anhael, &c,] a fedrwch roddi rhoddion da i ch plant,” &c., Mat 7:11. “A ydyw dy lygad di yn ddrwg [anhael, cenfigenus,] am fy mod i yn dda?” [yn hael, yn garedig,] Mat 20:15. a godinebus sydd yn ceisio arwydd; ac arwydd nis rhoddir iddi, ond arwydd Jonah#16:4 Y Proffwyd C; Gad. א B Brnd.. Ac efe a'u gadawodd hwynt, ac a aeth ymaith.
Hen lefain Phariseaeth.
[Marc 8:14–21]
5A'r Dysgyblion a ddaethant i'r lan arall, ac a annghofiasant gymmeryd bara. 6A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Edrychwch ac ymogelwch rhag lefain y Phariseaid a'r Saduceaid. 7A hwy a ymresymasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Hyn sydd am na chymmerasom fara#16:7 Llyth., Ni chymmerasom fara.. 8A'r Iesu yn gwybod a ddywedodd#16:8 Wrthynt C; Gad. א B D L Brnd., O chwychwi o ychydig ffydd, paham yr ydych yn ymresymu yn eich plith eich hunain fod hyn am na chymmerasoch fara? 9Onid ydych chwi yn deall etto, nac yn cofio pum' torth y pum' mil, a pha sawl basgedaid#16:9 Groeg, Kophinos, gweler 15:38. a gymmerasoch i fyny? 10Na saith dorth y pedair mil, a pha sawl basgedaid#16:10 Groeg, spuris, gweler 15:38. a gymmerasoch i fyny? 11Pa fodd nad ydych yn deall nad am fara#16:11 Gr., torthau. y dywedais wrthych, Ac ymogelwch rhag lefain y Phariseaid a'r Saduceaid#16:11 Neu, Pa fodd nad ydych yn deall nad am fara y dywedais wrthych? Ond ymogelwch rhag lefain y Phariseaid a'r Saduceaid.? 12Yna y deallasant na ddywedodd efe am ymogelyd rhag lefain y torthau, ond rhag dysgeidiaeth y Phariseaid a'r Saduceaid.
Barn Petr am Grist, a gwaith Crist i Petr.
[Marc 8:27–29; Luc 9:18–20]
13Ac wedi dyfod yr Iesu i barthau Cesarea Philippi, efe a ofynodd i'w Ddysgyblion, gan ddywedyd, Pwy y mae dynion yn dywedyd yw#16:13 Fy mod i, Mab y Dyn D L Δ La. Al.; yw Mab y Dyn א B Ti. Tr. WH. Diw. Mab y Dyn? 14A hwy a ddywedasant, Rhai, mai Ioan Fedyddiwr; a rhai, mai Elias; ac ereill, mai Jeremiah, neu un o'r proffwydi. 15Efe a ddywed wrthynt, Ond pwy meddwch chwi ydwyf fi? 16A Simon Petr a atebodd ac a ddywedodd, Ti yw y Crist, Mab y Duw byw. 17A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Gwyn#16:17 Neu, Dedwydd dydi. dy fyd di, Simon fab#16:17 Neu, Bar‐Jonah. Jonah, canys nid cig a gwaed a ddatguddiodd hyn i ti, ond fy Nhad yr hwn sydd yn y Nefoedd. 18Ac yr wyf finau hefyd yn dywedyd i ti, Ti yw Petr#16:18 Petros, darn o graig.; ac ar y graig#16:18 Petra, craig. Y mae y geiriau yn gyffelyb yn y Groeg. “Y graig hon.” (1) Petr ei hun, yn ol y Pabyddion, (2) Crist ei hun, yn ol Awstin, &c., (3) ffydd a chyffes Petr, yn ol Chrysostom, &c. hon yr adeiladaf fy Eglwys#16:18 Ekklêsia. Defnyddir y gair yn fynych yn y LXX fel cyfieithiad o'r gair Heb. Kahal, cynnulleidfa. Dygwydda yma ac yn Mat 18:17, yn unig yn yr Efengylau. Defnyddir hefyd sunagôgê yn y LXX am gynnulleidfa. Ond yr oedd synagog erbyn hyn yn dynodi cynnulleidfa neillduol, sef cynnulleidfa o Iuddewon yn eu haddoldai, wedi cyfarfod er darllen yr Ysgrythyrau, er gweddio a chynghori. Felly defnyddia Crist ekklêsia i ddynodi corff ei ganlynwyr. Ystyr y gair ydyw galwad allan, yna, corff o ddynion wedi eu galw allan. Y mae yr eglwys felly yn gyfundeb o ddynion rhydd wedi eu galw allan at amcan pennodol., a phyrth Hades#16:18 Hades, y byd anweledig; yn ol y Groegiaid, derbynfa eneidiau y drwg a'r da, fel y mae y bedd yn dderbynfa eu cyrff; felly, y mae yn cynnwys Paradwys ac uffern (yn ystyr cyfyngedig y gair); Hebraeg, Sheol, tiriogaeth y meirw yn gyffredinol, cartrefle marwolaeth a dinystr. nis gorchfygant#16:18 Llyth., ni fyddant gryf yn ei herbyn hi. hi. 19A rhoddaf i ti agoriadau Teyrnas Nefoedd; a pha beth bynag a rwymech ar y ddaear, a fydd rwymedig yn y Nefoedd; a pha beth bynag a ryddhaech ar y ddaear, a fydd wedi ei ryddhau yn y Nefoedd. 20Yna y gorchymynodd efe i'w Ddysgyblion na ddywedent i neb mai efe yw y#16:20 Iesu y Crist C. Y Crist א B L Δ Brnd. Crist.
Rhybudd i'r Dysgyblion a cherydd i Petr.
[Marc 8:30–33; Luc 9:21, 22]
21O hyny allan y dechreuodd yr Iesu ddangos i'w Ddysgyblion fod yn rhaid iddo fyned ymaith i Jerusalem, a dyoddef llawer oddiwrth yr Henuriaid a'r Archoffeiriaid a'r Ysgrifenyddion, a'i ladd, a'r trydydd dydd ei gyfodi. 22A Phetr, wedi ei gymmeryd#16:22 Hyny yw, trwy gymmeryd ei law, ac efallai, ei arwain o'r neilldu. ef ato, a ddechreuodd ei geryddu ef, gan ddywedyd, Duw fyddo dosturiol wrthyt#16:22 Llyth., “Tosturiol wrthyt,” hyny yw, “Duw fyddo dosturiol wrthyt,” nid “Trugarha wrthyt dy hun.” Yr oedd y geiriau yn ffurf fer o ymbiliad rhag drygau yn mhlith yr Iuddewon (gweler 2 Samuel 20:20)., Arglwydd: ni fydd hyn o gwbl#16:22 Defnyddir dau negydd — ou mê, ni fydd ddim, byth, neu o gwbl. i ti. 23Ac efe a drodd ac a ddywedodd wrth Petr, Dos y tu ol i mi, Satan#16:23 Y gair Hebraeg am Ddiafol; golyga gwrthwynebwr, gelyn Duw a Christ, a'i bobl; yna, un fel Satan, yn ymdrechu rhwystro, gwrthwynebu Crist i gario allan ei fwriadau mawrion a grasol., rhwystr#16:23 Neu (skandalon), achos tramgwydd, magl, maen, neu graig rwystr. ydwyt ti i mi, canys nid ydwyt yn synied#16:23 Phroneô, meddwl, ystyried, teimlo. y pethau sydd o Dduw, ond y pethau sydd o ddynion.
Y lleshad o ddylyn Crist.
[Marc 8:34—9:1; Luc 9:23–27]
24Yna yr Iesu a ddywedodd wrth ei Ddysgyblion, Os ewyllysia neb ddyfod ar fy ol I, ymwaded ag ef ei hun, a chyfoded ei groes, a chanlyned fi. 25Canys pwy bynag a ewyllysio gadw ei fywyd#16:25 Neu enaid; golyga psuche (1) anadl, yna (2) bywyd, (3) yr hyn y mae ganddo fywyd, enaid. Yma golyga y bywyd daearol; weithiau ei ystyr yw, yr enaid fel cartrefle serchiadau, dymuniadau, teimladau, ac yn gyfystyr â'r gair calon; yna, yr enaid, fel elfen anfarwol a bod ysprydol. a'i cyll; a phwy bynag a gollo ei fywyd#16:25 Neu enaid; golyga psuche (1) anadl, yna (2) bywyd, (3) yr hyn y mae ganddo fywyd, enaid. Yma golyga y bywyd daearol; weithiau ei ystyr yw, yr enaid fel cartrefle serchiadau, dymuniadau, teimladau, ac yn gyfystyr â'r gair calon; yna, yr enaid, fel elfen anfarwol a bod ysprydol. o'm plegyd I a'i caiff. 26Canys pa leshad#16:26 Llyth., Pa fodd y llesolir dyn? (y ferf yn yr amser dyfodol). a fydd i ddyn os ennill efe yr holl fyd a fforfedu#16:26 Zemioô, gwneyd niwed, achosi colled, dirwyo; felly yn y goddefol, fforffedu, dyoddef colled o herwydd bai neu drosedd. ei fywyd#16:26 Neu enaid. Golyga y gair yma y bywyd ysprydol, fel y golyga yn yr adnod olaf, y bywyd corfforol. Luc 9:25, “A fforffedu ei hun.” ei hun; neu pa beth a rydd dyn yn bridwerth#16:26 Antallagma, yr hyn a roddir yn gyfnewid, prynwerth. am ei fywyd. 27Canys Mab y Dyn a ddaw yn ngogoniant ei Dâd gyd â'i angelion; ac yna y rhydd efe i bob un yn ol ei weithred. 28Yn wir, meddaf i chwi, y mae rhai o'r sawl sydd yn sefyll yma a'r ni phrofant angeu hyd oni welont Fab y Dyn yn dyfod yn ei Deyrnas.

Dewis Presennol:

Matthew 16: CTE

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda