Ond hi a ddaeth, ac a ymgrymodd iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, cymhorth fi. Eithr efe a atebodd ac a ddywedodd, Nid da cymmeryd bara y plant a'i fwrw i'r cwn. Eithr hi a ddywedodd, Gwir, Arglwydd; canys y mae y cwn yn bwyta o'r briwsion sydd yn syrthio oddiar fwrdd eu meistriaid.