Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 20

20
Arweinwyr y bobl mewn cyfyng‐gynghor
[Mat 21:23–27; Marc 11:27–33]
1A bu ar un o'r dyddiau#20:1 hyny A C R: Gad. א B C D Q L Brnd., ac efe yn dysgu y bobl yn y Deml, ac yn efengylu#20:1 Hoff air gan Luc. Defnyddia ef bump ar hugain o weithiau., yr#20:1 yr Arch‐offeiriaid א B C D La. Tr. WH. Diw.: yr offeiriaid A Al. Ti. Arch‐offeiriaid a'r Ysgrifenyddion, gyd â'r Henuriaid, a ddaethant yn ddisymwth#20:1 Gwel Luc 2:9 Defnyddir y gair un ar hugain o weithiau yn y T. N. — ddeunaw o honynt gan Luc. arno, 2ac a lefarasant#20:2 Felly א B L WH. Diw.: Gad. gan ddywedyd C D. gan ddywedyd wrtho, Dywed i ni trwy ba fath awdurdod yr wyt yn gwneuthur y pethau hyn? Neu pwy a roddodd i ti yr awdurdod hon? 3Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, A minau a ofynaf i chwithau air#20:3 Ymadrodd, mater, cwestiwn.#20:3 un C D Q: Gad. א B L R., a dywedwch i mi: 4Bedydd Ioan, a'i o'r Nef yr ydoedd, ai o ddynion? 5A hwy a ymresymasant#20:5 Llyth.: dwyn cyfrifon ynghyd, cyfrif i fyny, cydymgynghori. Yma yn unig: yn y T. N. wrthynt eu hunain, gan ddywedyd, Os dywedwn, O'r Nef, efe a ddywed, Paham#20:5 gan hyny A C D: Gad. א B R L. na chredasoch iddo? 6Ond os dywedwn, O ddynion; y bobl oll a'n llabyddiant#20:6 Yma yn unig: a'n llabyddiant i'r eithaf. i farwolaeth: canys y maent wedi eu llwyr‐ddarbwyllo fod Ioan yn Broffwyd. 7A hwy a atebasant, nas gwyddant o ba le. 8A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid wyf finau ychwaith yn dywedyd i chwi drwy ba fath awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.
Dammeg y Llafurwyr Drwg
[Mat 21:34–46; Marc 12:1–12]
9Ac efe a ddechreuodd ddywedyd wrth y bobl y ddammeg hon: Gwr#20:9 Rhyw wr A: Gwr א B C D R L &c. a blanodd winllan, ac a'i rhoddodd allan i lafurwyr, ac a aeth ymaith o'i wlad#20:9 Gwel Marc 13:34 ei hun am amser hir#20:9 Llyth.: am amseroedd digonol (hirion).. 10Ac ar adeg briodol efe a anfonodd was#20:10 Gr. caeth‐was. at y llafurwyr, fel y#20:10 y rhoddant א A B L Brnd.: y rhoddent C D. rhoddant iddo o ffrwyth y winllan. Ond y llafurwyr a'i curasant ef, ac a'i danfonasant allan ymaith yn wag. 11Ac efe a chwanegodd anfon gwas#20:11 Gr. caeth‐was. arall#20:11 Llyth.: gwahanol; un tro danfonodd Duw offeiriaid fel Aaron; Barnwyr fel Samuel, Proffwydi fel Esaiah.; a hwn hefyd, wedi ei guro a'i anmharchu, hwy a ddanfonasant allan ymaith yn wag. 12Ac efe a chwanegodd ddanfon trydydd: a hwn hefyd hwy a glwyfasant#20:12 Yma ac Act 19:16, ac a fwriasant allan. 13A dywedodd arglwydd y winllan, Pa beth a wnaf? Mi a anfonaf fy Mab Anwyl#20:13 Llyth.: fy Mab, yr Anwylyd.: ond odid#20:13 isôs, llyth.: yn gyfartal, yn debygol, gellir dysgwyl, &c. Yma yn unig.#20:13 pan welant A R: Gad. א B C D Brnd. y parchant#20:13 Gwel 18:2 hwn. 14Eithr pan welodd y llafurwyr ef, hwy a ymresymasant yn ddifrifol#20:14 yn mhlith eu gilydd א B D L R: yn mhlith eu hunain A C. yn mhlith eu gilydd, gan ddywedyd, Hwn yw yr etifedd: lladdwn#20:14 deuwch א C D R L: Gad. A B Al. La. Ti. Tr. WH. Diw. [o Mat.] ef, fel y byddo yr etifeddiaeth yn eiddom ni. 15A hwy a'i bwriasant ef allan o'r winllan#20:15 Ioan 19:17; Heb 13:12, 13, ac a'i lladdasant. Pa beth gan hyny a wna arglwydd y winllan iddynt hwy? 16Efe a ddaw ac a ddyfetha y llafurwyr hyn, ac a rydd ei winllan i eraill. Eithr pan glywsant hyn, hwy a ddywedasant, Na fydded#20:16 Hwn yw yr unig fan yn yr Efengylau lle y dygwydda yr ymadrodd. Defnyddir ef yn fynych gan Paul mewn ymresymiadau, apeliadau &c., (ddeg gwaith yn y Rhufeiniaid). Y mae y cyfieithiad, Na ato Duw, yn fynych allan o le. Y mae yr ymadrodd yn wrthgyferbyniol i Amen. hyn. 17Ac efe a edrychodd arnynt, ac a ddywedodd, Beth gan hyny yw hyn sydd wedi ei ysgrifenu:
Maen a wrthododd#20:17 Llyth.: anghymeradwyodd. yr Adeiladwyr:—
Hwn a wnaed yn ben congl?#Salm 118:22
18Pob un a syrthio ar y maen hwnw a chwilfriwir#20:18 ganddryllir, friwir, falurir, (Mat 21:44); gwel 1 Petr 2:7, 8 yn ddarnau: ond ar bwy bynag y syrthio, efe a'i chwâl#20:18 Gwel Mat 21:44; Es 8:14, 15; Dan 2:44, 45 ef fel llwch. 19A'r Ysgrifenyddion a'r Arch‐offeiriaid a geisiasant osod eu dwylaw arno yr awr hono; a hwy a ofnasant y bobl: canys gwybuant mae yn eu herbyn hwy y dywedodd efe y ddammeg hon.
Dyledswydd dynion at y Wladwriaeth, ac at Dduw
[Mat 22:15–22; Marc 12:13–17]
20A hwy a wyliasant gyfleu, ac a anfonasant allan gynllwynwyr#20:20 Gr. engkathetos, llyth.: un wedi ei ddanfon i lawr (yn ddirgelaidd), un yn gwylio mewn llechwrfa; yna, un a gyflogir i ddal arall yn ei ymadroddion: ysbiwr, Job 31:9; Jos 8:14 Yma yn unig yn y T. N., y rhai a gymmerent#20:20 Llyth.: a ragrithient. arnynt eu bod hwy eu hunain yn gyfiawn#20:20 Yn ngolwg y Gyfraith., fel y caent afael ar ei ymadrodd ef, i'w draddodi ef i'r Llywodraeth ac i Awdurdod y Llywydd#20:20 i'r Llywodraeth Rufeinig, ac i'r Swyddog yr hwn a gynrychiolai y Gallu Ymerodrol. Yn ol eraill, dynoda y blaenaf, y Gallu Milwrol, a'r olaf, y Gallu Gwladol.. 21A hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Athraw, ni a wyddom dy fod yn dywedyd ac yn dysgu yn uniawn, ac nad wyt yn derbyn wyneb#20:21 Ymadrodd Hebreig; gwel Lef 19:15; Mal 1:8; Act 10:34; Eph 6:9; Iago 2:1, ond yn dysgu ffordd Duw yn wirioneddol. 22A ydyw gyfreithlawn i ni roddi teyrnged#20:22 phoros, (yr hyn a ddygir); treth ar diroedd, meddianau, a phersonau. Defnyddia Mat a Marc Kênsos, cofrestriad, gyd â bwriad i drethu. i Cesar, ai nid yw? 23Eithr efe yn darganfod#20:23 6:41 eu cyfrwysdra#20:23 Llyth.: pob gweithred; yr oeddynt yn barod i unrhyw beth. hwynt, a ddywedodd wrthynt,#20:23 Paham y temtiwch fi? A C D La. Gad. א B L Brnd. ond La. 24Dangoswch i mi ddenarion#20:24 Gwel Mat 20:2. Eiddo pwy yw y ddelw a'r argraff#20:24 Neu, y darlleniad.? A hwy gan ateb a ddywedasant, Eiddo Cesar. 25Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yna rhoddwch yn ol#20:25 Neu, telwch. bethau Cesar i Cesar, a phethau Duw i Dduw. 26Ac nis gallasant gymmeryd gafael ar ei air ef gerbron y bobl, a chan ryfeddu wrth ei ateb ef, hwy a dawsant.
Afresymoldeb Rhesymoliaeth: y Saduceaid
[Mat 22:23–33; Marc 12:18–27]
27A daeth ato rai o'r Saduceaid, y rhai sydd yn#20:27 yn dywedyd א B C D L Brnd.: yn gwrth‐ddywedyd (yn gwadu) A P. dywedyd nad oes Adgyfodiad, 28a hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Athraw, Moses a ysgrifenodd i ni:—
Os byddai farw brawd neb, ac iddo wraig, a'i fod#20:28 a'i fod ef B L P: Al. WH. Tr. Diw.: a marw o hono A. ef yn ddi‐blentyn, ar gymmeryd o'i frawd ei wraig ef, a chodi hâd i'w frawd#Deut 25:5.
29Yr oedd, ynte, saith o frodyr: a'r cyntaf a gymmerodd wraig, ac a fu farw yn ddi‐blentyn. 30A'r ail#20:30 a gymmerodd y wraig, ac a fu farw yn ddi‐blentyn A P: Gad. א B D L Brnd., 31a'r trydydd a'i cymmerodd hi, a'r un modd hefyd y saith ni adawsant blant, ac a fuont feirw. 32Yn#20:32 Yn ddiweddaf oll A P: yn ddiweddaf א B D L Brnd. ddiweddaf bu farw y wraig hefyd. 33Yn yr Adgyfodiad gan hyny, gwraig i bwy un o honynt yw hi? Canys y saith a'i cawsant hi yn wraig. 34A'r Iesu a#20:34 a atebodd ac A P: Gad. א B D L. ddywedodd wrthynt, Plant y byd#20:34 Gr. aion, oes, oes y byd, yna y byd yn ei gyflwr presenol fel yn bechadurus; byd amser, ac nid byd mater. hwn sydd yn priodi ac yn rhoddi i briodas: 35ond y rhai a gyfrifir yn deilwng i gyrhaedd nod#20:35 cyrhaedd, caffael, mwynhau, enill, cyrhaedd nôd. y byd hwnw, a'r Adgyfodiad o feirw, nid ydynt yn priodi nac yn rhoddi i briodas: 36canys chwaith nid ydynt yn gallu marw mwy; canys cydradd âg angelion#20:36 isanggeloi, cydradd‐engyl, fel angelion, yn debyg o ran natur, yn yr un sefyllfa ysprydol ac anfarwol. Yma yn unig. ydynt, ac y maent yn Feibion i Dduw, gan eu bod yn Feibion yr Adgyfodiad. 37A bod y meirw yn cael eu cyfodi, hyd y nod Moses a awgryma#20:37 Mênuô, egluro, dadenhuddo, hysbysu: gwel Ioan 11:57; Act 23:30; 1 Cor 10:28 yn yr adran ar y Berth#20:37 Gwel Marc 12:27, pan y mae yn galw yr Arglwydd,
Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Jacob.#Ex 3:6
38Ond nid Duw dynion meirw ydyw ef, ond byw: canys y mae pawb yn fyw#20:38 Yn eu perthynas ag ef. Y mae Abraham, Isaac, a Jacob yn farw yn eu perthynas â ni, ond yn fyw yn eu perthynas â Duw. iddo ef. 39A rhai o'r Ysgrifenyddion gan ateb a ddywedasant, Athraw, da y dywedaist. 40Canys#20:40 canys א B L Brnd.: Ac A D P. ni feiddiasant o hyn allan ofyn dim iddo ef.
Mab ac Arglwydd Dafydd
[Mat 22:41–44; Marc 12:34–37]
41Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa fodd y maent yn dywedyd fod y Crist yn Fab Dafydd? 42Ac y mae Dafydd ei hun yn dywedyd yn Llyfr y Salmau,
Yr Arglwydd#20:42 Yn yr Hebraeg: Jehofa a ddywedodd wrth fy Arglwydd, [Adonai]. a ddywedodd wrth fy Arglwydd#20:42 Yn yr Hebraeg: Jehofa a ddywedodd wrth fy Arglwydd, [Adonai]., Eistedd ar fy neheulaw,
43Hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i'th draed#Salm 110:1.
44Y mae Dafydd gan hyny yn ei alw ef yn Arglwydd; a pha fodd y mae efe yn fab iddo?
Balchder a threisgarwch yr Ysgrifenyddion
[Mat 23:1–7; Marc 12:38–40]
45A'r holl bobl yn gwrando, efe a ddywedodd wrth ei Ddysgyblion, 46Ymogelwch rhag yr Ysgrifenyddion, y rhai ydynt awyddus i rodio mewn llaes‐wisgoedd, ac yn hoffi cyfarchiadau yn y marchnad‐leoedd; a'r brif‐gadair yn y Synagogau, a'r prif‐eistedd‐leoedd yn y Swperau; 47y rhai sydd yn llwyr‐fwyta tai y gwragedd gweddwon, ac mewn rhith yn hir‐weddio; y rhai hyn a dderbyniant farnedigaeth lymach#20:47 Llyth.: helaethach..

Dewis Presennol:

Luc 20: CTE

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda