Luc 19
19
Zaccheus y Treth‐gasglwr#Y mae iaith yr hanes hwn yn llai clasurol na rhanau eraill o'r Efengyl..
1Ac efe a aeth i mewn, ac a ddechreuodd fyned trwy Jericho. 2Ac wele wr a elwid wrth yr enw Zacchëus#19:2 Enw Iuddewig, Zakkai, y Pur, neu y Cyfiawn. Ez 2:9; Neh 7:14; ac yr oedd efe yn brif Drethgasglwr, ac yr oedd yn gyfoethog. 3Ac yr oedd efe yn ceisio gweled yr Iesu, pwy#19:3 Neu, pa fath un. ydoedd; ac ni allai gan#19:3 Llyth.: oddiwrth. y dyrfa, am ei fod yn fychan o gorffolaeth. 4Ac efe a redodd o'r blaen, ac a ddringodd i fyny ar sycomorwydden#19:4 Neu, masarnen. Y mae y gair o sukon, ffigys, a morea, masarnen (mulberry). Nid oedd yr un a'n sycomorwydden ni, ond y ffigysbren Aiphtaidd. Yr oedd y cangenau yn llawer ac yn isel, ac felly yn ddigon hawdd i Zaccheus i'w dringo., fel y gwelai efe ef, oblegyd yr oedd efe ar ddyfod y ffordd hono. 5A phan ddaeth efe at#19:5 Llyth.: ar. y lle, yr Iesu a edrychodd i fyny,#19:5 ac a'i gwelodd ef A [Al.] Diw.: Gad. א B L Ti. Tr. WH., ac a ddywedodd wrtho, Zacchëus, disgyn ar frys: canys rhaid#19:5 Golyga dei, reidrwydd moesol. i mi heddyw aros yn dy dŷ di. 6Ac efe a ddisgynodd ar frys, ac a'i gwahoddodd ef yn llawen. 7A phan welsant, grwgnach yn ddirfawr a wnaethant oll, gan ddywedyd, Efe a aeth i mewn i letya#19:7 Gwel 9:12 gyd â dyn pechadurus! 8A Zacchëus a safodd i fyny, ac a ddywedodd wrth yr Arglwydd, Wele, yr haner o'm meddianau, Arglwydd, yr wyf yn eu rhoddi#19:8 Yn dynodi bwriad sydyn ac amcan canmoladwy, ac nid arferiad yn y gorphenol. i'r tlodion; ac os cam‐golledais#19:8 Llyth.: achwyn ar gam (ar y rhai a ddygent ffigys allan o Attica), yna dwyn ar gam, cam‐golledu. Gwel Luc 3:14. Cyrhaeddodd saeth argyhoeddiad y ffigys‐gyhuddwr yn mhlith cangenau y ffigys‐fasarnen. Ynghylch adferyd yr hyn a gam‐ddygid, gwel Num 5:7; 1 Sam 12:3 neb, yr wyf yn ei ad‐dalu bedwar cymaint. 9A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Heddyw y daeth Iachawdwriaeth i'r tŷ hwn, o herwydd ei fod yntau hefyd yn fab Abraham. 10Canys daeth Mab y Dyn i geisio ac i gadw yr hyn oedd wedi ei golli#Esec 34:13–16.
Dammeg y Deg Mina.
11Ac a hwy yn gwrando ar y pethau hyn, efe a chwanegodd, ac a ddywedodd ddammeg, am ei fod yn agos i Jerusalem, ac am iddynt dybied fod Teyrnas Dduw ar ymddangos#19:11 Llyth.: dangos allan: defnyddir y gair am ymddangosiad dysglaer a gogoneddus; yma ac yn Act 21:3 yn eglur yn y man. 12Efe a ddywedodd gan hyny, Rhyw wr boneddig#19:12 Da neu uchel ei enedigaeth. Yr oedd Archeläus ychydig cyn hyn wedi myned i Rufain i geisio y Teitl o Frenin, a gwnaeth Antipas yr un peth (Josephus Hyn: xiv. xvii.). Yr oedd gan Archeläus balas ardderchog yn Jericho. a aeth i wlad bell i dderbyn Teyrnas iddo ei hun, ac i ddychwelyd. 13Ac wedi galw ei ddeg gwas#19:13 Gr. caeth‐was., efe a roddodd iddynt ddeg mina#19:13 Gr. mna, yn gyfartal i gan drachma, ac yn werth 3p. 6s. 8c. o'n harian ni, Yn yr Hen Dest. yr oedd y mina yn bwysau, ac yn gyfartal i gan sicl (1 Br 10:17; 2 Cr 9:16). Yr oedd dammeg y deg talent (Mat 25:14 &c.), yn dysgu ymddiriedaeth a chyfrifoldeb mewn pethau mawrion; y mae y ddammeg hon yn dysgu y pwysigrwydd o ffyddlondeb mewn pethau bychain., ac a ddywedodd wrthynt, Masnachwch tra#19:13 tra fyddwyf yn dyfod [h. y. yn myned ac yn dychwelyd] א A B D Brnd.: hyd oni ddelwyf Δ. fyddwyf yn dyfod. 14Eithr ei ddinaswyr ef oeddynt yn ei gashâu#19:14 “Eithr y Tywysog Archeläus, yr hwn a ail‐adeiladodd yn ogoneddus y Palas Breninol yn Jericho, a hwyliodd o Syria i Rufain i geisio y Deyrnas ar ol ei Dâd: ond cenadaeth o'r Iuddewon, ei ddinaswyr, gan brofi eu bod yn ei gashâu ef yn gyfreithlawn, a ddanfonwyd i'w wrthwynebu,” Joseph. Hyn.: xiv. 14. Cyfarfu 8,000 o'u cydgenedl â hwynt yn Rhufain., ac a ddanfonasant genadaeth ar ei ol ef, gan ddywedyd, Ni fynwn ni hwn i deyrnasu arnom. 15A bu, pan ddychwelodd drachefn, wedi derbyn y Deyrnas, ddywedyd o hono ef hefyd alw ato y gweision#19:15 Gr. caeth‐weision. hyn, i'r rhai yr oedd wedi rhoddi yr arian, fel y gwybyddai beth#19:15 a wnaethant mewn masnach א B D L: a wnaeth un [bob un] mewn masnach A Δ. a wnaethent mewn masnach#19:15 Yma yn unig: argymmeryd â masnach; masnachu yn ddifrifol neu egniol, yna yn llwyddianus.. 16A'r cyntaf a ddaeth ger ei fron, gan ddywedyd, Arglwydd, dy fina a wnaeth#19:16 Llyth.: a weithiodd ychwaneg. Yma yn unig. ddeg mina yn ychwaneg. 17Ac efe a ddywedodd wrtho, Da#19:17 Da yn wir [euge] B D Al. WH. La. Ti.: Da א A R L. yn wir, was da: canys ti a fuost yn ffyddlawn yn y lleiaf#19:17 Neu, mewn ychydig iawn., bydded i ti awdurdod dros ddeg dinas#19:17 Rhoddodd Archelâus lywodraeth dinasoedd yn llaw amryw o'i gyfeillion. Gwel 2 Tim 2:12.. 18A daeth yr ail, gan ddywedyd, Dy fina, Arglwydd, a wnaeth bum mina. 19Ac efe a ddywedodd wrth hwn hefyd, Bydd dithau hefyd dros bum dinas. 20A'r#19:20 A'r un arall [llyth.: gwahanol] א B D L Brnd. un arall a ddaeth, gan ddywedyd, Arglwydd, Wele dy fina di, yr hon oedd genyf wedi ei dodi ymaith mewn napcyn#19:20 Soudarion. o'r Lladin, (yma ac yn Act 19:12) o sudor, chwys, yr hyn a sych y chwys Nid oedd hwn yn weithiwr, ac felly nid oedd angen y napcyn arno at y chwys.; 21canys yr oeddwn yn dy ofni di, am dy fod yn wr caled#19:21 Gr. austêros [o auô, sychu, yna, caledu]. Defnyddir y gair am flas, yn wrthgyferbyniol i meddf, hyfryd, melusber. yna am gymmeriad, caled, llym, tyn, [“dyn tyn yw ef”]. Yma yn unig.: yr wyt yn cymmeryd i fyny yr hyn ni osodaist i lawr, ac yn medi yr hyn ni heuaist. 22Ac y mae efe yn dywedyd wrtho, Allan o'th enau dy hun y'th farnaf, O was drwg. A wyddit#19:22 Neu, Ti a wyddit, &c. fy mod i yn wr caled; yn cymmeryd i fyny yr hyn ni osodais i lawr, ac yn medi yr hyn ni heuais? 23A phaham na roddaist fy arian i'r banc#19:23 Llyth.: ar fwrdd [y cyfnewidwyr arian, y rhai a dalent yn ol gyd â llôg arian ar fenthyg]. Dywedir mai un o ymadroddion Crist ydoedd “Byddwch fancwyr cymeradwy.”; a minau a ddaethwn ac a'u codwn#19:23 Gwel 3:13 gyd â llôg? 24Ac efe a ddywedodd wrth y rhai oedd yn sefyll gerllaw, Dygwch oddi arno ef y fina, a rhoddwch i'r hwn y mae deg mina ganddo. 25A hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, y mae ganddo ef ddeg mina#19:25 A lefarwyd gan y swyddogion, neu gan y dyrfa o amgylch Crist.. 26Yr#19:26 Canys A D R: Gad. א B D wyf yn dywedyd i chwi, I bob un y mae ganddo y rhoddir; eithr oddi ar yr hwn nid oes ganddo, ie, yr hyn sydd ganddo a ddygir ymaith#19:26 oddi arno A D R: Gad. א B L.. 27Yn mhellach, fy ngelynion#19:27 hyn א B K L; hyny A D R. hyn, y rhai ni fynasent i mi deyrnasu arnynt, dygwch#19:27 Grym y ferf, dygwch hwynt ar unwaith, yn y man, &c. hwynt yma, a lleddwch#19:27 Katasphazô, lladd ymaith, gwneuthur lladdfa, tori i lawr. Yma yn unig. hwynt ger fy mron i. 28Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, efe a aeth o'r blaen, gan fyned i fyny i Jerusalem.
Y Farchogaeth freninol i Jerusalem
[Mat 21:1–9; Marc 11:1–10; Ioan 12:12–19]
29A bu, pan neshâodd efe i Bethphage#19:29 Ty Ffigys. a Bethania#19:29 Ty Palmaeron. Yr oedd Bethphage yn agosach i Jerusalem na Bethania. Ystyrid y blaenaf bron yn rhan o Jerusalem. Efallai i'n Harglwydd fyned hyd yno cyn troi yn ol i orphwys yn Bethania., wrth y Mynydd a elwid Olew‐wydd#19:29 Defnyddir dau air i ddynodi y Mynydd: yn gyffredin Mynydd yr Olew‐wydd, (Mat 21:1; Marc 11:1 &c.); ac, Olew‐wydd, (yn y rhif unigol, elaion), neu, y Mynydd a elwir Olew‐wydd, fel y Lladin Olivetum, llwyn neu goedwig Olew‐wydd., efe a anfonodd ddau o'i Ddysgyblion, 30gan ddywedyd, Ewch i'r pentref sydd ar eich cyfer, yn yr hwn pan yr eloch i mewn, chwi a gewch ebol wedi ei rwymo, ar yr hwn nid eisteddodd neb dynion erioed; a chan ei ollwng ef yn rhydd, arweiniwch ef yma. 31Ac os gofyn neb i chwi, Paham yr ydych yn ei ollwng yn rhydd? fel hyn y dywedwch#19:31 wrtho A: Gad. א B D R L., Y mae ar yr Arglwydd ei eisieu. 32A'r rhai a ddanfonasid a aethant ymaith, ac a gawsant fel y dywedodd efe wrthynt. 33A hwy yn gollwng yr ebol yn rhydd, ei berchenogion#19:33 Llyth.: ei arglwyddi. a ddywedasant wrthynt, Paham yr ydych yn gollwng yr ebol yn rhydd? 34A hwy a ddywedasant, Y mae ar yr Arglwydd ei eisieu. 35A hwy a'i harweiniasant ef at yr Iesu; ac wedi iddynt fwrw#19:35 Yma a 1 Petr 5:7 “gan fwrw eich pryder.” Dynoda fwrw mewn brys. eu gwisgoedd uchaf ar yr ebol, hwy a osodasant yr Iesu arno. 36Ac fel yr oedd efe yn myned, yr oeddynt yn taenu eu gwisgoedd uchaf eu#19:36 eu hunain A B: Gad. א D L. hunain ar#19:36 Llyth.: yn. y ffordd. 37Ac weithian, ac efe yn neshâu at ddisgynfa Mynydd yr Olew‐wydd, dechreuodd yr holl luaws Dysgyblion lawenhâu a moli Duw gyd â llef uchel am yr holl weithredoedd nerthol#19:37 Llyth.: alluoedd. a welsant, 38gan ddywedyd,
Bendigedig#19:38 Felly A L La. Al. Tr. Diw.: Bendigedig yw yr hwn sydd, &c., D: Bendigedig yw yr hwn sydd yn dyfod, Y Brenin B WH. yw y Brenin sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd!
Yn#19:38 Felly B L WH. Al. Tr.: Tangnefedd yn y Nef, א A D R Diw. y Nef Tangnefedd, a Gogoniant yn y Goruchafion#19:38 yn y goruchafion leoedd.!#Salm 118:25, 26
39A rhai o'r Phariseaid o'r dyrfa a ddywedasant wrtho ef, Athraw, cerydda dy Ddysgyblion. 40Ac efe a atebodd ac a ddywedodd#19:40 wrthynt A D R: Gad. א B L., Yr wyf yn dywedyd i chwi, Pe tawai y rhai hyn, y cerig a lefant allan.
Crist yn wylo dros Jerusalem.
41A phan ddaeth efe yn agos, efe a welodd#19:41 Gwelid y Ddinas o ddau fan ar y ffordd. Dynoda adn 37 yr olygfa gyntaf, sef y rhan ddeheuol o honi: ond o'r fan hon (adn. 41), ymdora y rhan ogleddol, ynghyd a'r Deml ysblenydd ei hun, ar yr olygfa. y Ddinas, ac a wylodd#19:41 Klaiô, wylo yn uchel, yn hyglyw, wylo fel plentyn. allan drosti, 42gan ddywedyd, O na wybuasit tithau hefyd#19:42 yn gystal a'r Dysgyblion a folianent., yn#19:42 ïe, neu o'r hyn lleiaf, (Kai ge) A Ti. Al. La.: Gad. א B D L Tr. WH. Diw. y#19:42 yn y dydd hwn א A B D Tr. WH. Diw.: yn dy ddydd hwn R. Ti. [Al.] dydd hwn, y pethau a berthynant i dy#19:42 dy A D [Al.] [La.] [Tr.] Ti.: Gad. א B L WH. Diw. heddwch: eithr yn awr cuddiwyd hwy oddi wrth dy lygaid! 43Canys daw y dyddiau arnat, a'th elynion a fwriant wrthglawdd#19:43 Gr. charax, llyth.: polyn, yna gwrthglawdd, neu warchglawdd o bolion, y rhai a ddygid gan y milwyr Rhufeinig: amddiffynfa o bolion, polgaer [Llad. vallum]. Yma yn unig. o'th amgylch, ac a'th amgylchant#19:43 Yma yn unig. yn hollol, ac a'th warchaeant o bob tu, 44ac a'th fwriant#19:44 Llyth.: a'th daflant i lawr i'r gwaelod neu i'r sylfaen (edaphos). Act 22:7 Yma yn unig. i'r llawr, a'th blant o'th fewn; ac ni adawant ynot faen ar faen: am na wybuaist amser dy Ymweliad#19:44 episkopê, arolygiaeth, edrychiad ar, ymweliad, naill ai i gospi. (Ex 3:16; Es 10:3 &c.), neu i fendithio, (Job 34:9, 1 Petr 5:6). Dygwydda bedair gwaith yn y T. N. Yn Act 1:20; 1 Tim 3:1 golyga swydd, arolygiaeth: yma ac 1 Petr 2:12 ymweliad grasusol.#Es 29:3; Hos 10:14, 15.
45Ac efe a aeth i mewn i'r Deml, ac a ddechreuodd fwrw allan y rhai oeddynt yn gwerthu#19:45 ynddi A D K: a'r rhai oedd yn prynu A C D R La.: Gad. א B L Brnd., 46gan ddywedyd wrthynt, Y mae yn ysgrifenedig,
A#19:46 Felly א B L Brnd.: Fy Nhy i, Ty Gweddi yw A C D. bydd fy Nhŷ i yn Dŷ Gweddi#Es 56:7:
Eithr chwi a'i gwnaethoch yn Ogof Ysbeilwyr#Jer 7:11.
47Ac yr oedd efe yn dysgu beunydd yn y Deml: ond yr Arch‐offeiriaid a'r Ysgrifenyddion oeddynt yn ceisio ei ddyfetha ef, fel y gwnai hefyd Benaethiaid y bobl: 48ac ni chawsant beth a fedrent wneuthur; canys yr holl bobl oeddynt yn crogi#19:48 Yma yn unig; llyth.: crogi oddiwrth, yna, glynu gyd â serch, yn talu sylw gofalus, &c. wrth ei wefusau, pan yn gwrando.
Dewis Presennol:
Luc 19: CTE
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.