Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 17

17
Peryglon yn peri tramgwydd
[Mat 18:6, 7, 15, 21, 22]
1Ac efe a ddywedodd wrth ei Ddysgyblion, Ni ellir caniatâu#17:1 Llyth.: y mae yn anghaniataol. na ddaw achlysuron tramgwydd#17:1 Gwel Mat 5:29; 13:41; ond gwae efe trwy yr hwn y maent yn dyfod. 2Y mae yn talu#17:2 Llyth.: talu y trethi, cael yn ol treulion, bod o fantais neu les. iddo pe bai maen#17:2 maen melin א B D L Brnd.: maen a droid gan asyn A X. [Yn y Groeg y blaenaf mulikos, yr olaf onikos.] melin yn crogi o amgylch ei wddf, ac yntau wedi ei daflu i'r môr, yn hytrach na pheri o hono i un o'r rhai bychain#17:2 Rhai bychain yn y ffydd, y Treth‐gasglwyr a'r pechaduriaid. hyn dramgwyddo.
Maddeugarwch.
3Edrychwch arnoch eich hunain: os pecha dy frawd#17:3 yn dy erbyn D X; Gad. א A B L Brnd., cerydda ef; ac os edifarhâ, maddeu iddo. 4Ac os pecha yn dy erbyn seithwaith yn y dydd, a seithwaith#17:4 yn y dydd A: Gad. א B D L X Brnd. droi atat, gan ddywedyd, y mae yn edifar genyf; ti a faddeui iddo.
Nertholrwydd ffydd
[Mat 17:20; 21:21; Marc 11:23]
5A dywedodd yr Apostolion wrth yr Arglwydd, Ychwanega ein ffydd ni#17:5 Llyth.: ychwanega ffydd i ni.. 6A'r Arglwydd a ddywedodd, Pe byddai genych ffydd fel gronyn o hâd mwstard#17:6 Mat 13:31, 32, chwi a ddywedech wrth y sycaminwydden#17:6 Sycaminwydden, pren a'i ffurf a'i ddail fel morwydden, ond ei ffrwyth fel eiddo y ffigysbren. Dywed Tristram mai y forwydden ddu yw y Sycamin, a'r ffigys‐forwydden (19:4) yw y Sycomor [1 Br 10:27; Es 9:10; Amos 7:14]. hon, Ymddadwreiddier di, a phlaner di yn y môr: a hi a ufuddhäai i chwi.
Cyflawnu dyledswydd heb ddysgwyl gobrwy.
7Eithr pa un o honoch a chanddo was yn aredig neu yn bugeilio, a ddywed wrtho pan y dêl i mewn o'r maes, Yn ebrwydd tyred yn mlaen, ac eistedd i lawr i fwyta; 8ond yn hytrach ai ni ddywed wrtho, Gwna yn barod beth i mi i swperu, ac ymwregysa, a gweina arnaf, hyd nes i mi fwyta ac yfed: ac wedi y pethau hyn y bwytai ac yr yfi dithau? 9Oes ganddo ddiolch i'r gwas#17:9 hwnw Δ: Gad. א A B D L X Brnd. am iddo wneuthur y pethau a orchymynwyd#17:9 Llyth.: a drefnwyd.#17:9 iddo D X: Gad. Prif‐law‐ysg. eraill.?#17:9 Nid wyf yn tybied A D: Gad. א B L Brnd. 10Felly chwithau hefyd, wedi i chwi wneuthur y cwbl oll a orchymynwyd#17:10 Llyth.: a drefnwyd. i chwi, dywedwch, Gweision anfuddiol#17:10 Nid yn yr ystyr o fod yn ddiwerth, ond yn yr ystyr nad oeddynt wedi gwneuthur dim fel ag i ddysgwyl lles personol neu wobr. ydym! Yr#17:10 oblegyd X: Gad. prif‐law‐ysg. ydym wedi gwneuthur yr hyn yw ein dyledswydd i wneuthur.
Iachâd y deg gwahan‐glwyfus: degwm o ddiolchgarwch.
11A bu pan#17:11 efe A D X Al. [Tr.]. Gad. א B L WH. Diw. yr oeddynt yn myned i Jerusalem, yr oedd efe hefyd yn myned trwy ganol Samaria a Galilea#17:11 Hon oedd y daith ymadawol. Efallai y golyga y geiriau “trwy gyffiniau Samaria,” &c.. 12Ac fel yr oedd efe yn myned i mewn i ryw bentref, cyfarfu âg ef ddeg#17:12 Yn 2 Bren 13:2; ceir hanes am bedwar gwahan‐glwyfus yn byw gyd â'u gilydd. o wŷr gwahan‐glwyfus, y rhai a safasant o hirbell#17:12 Yn ol cyfraith Moses, yr oedd yn rhaid i'r gwahan‐gleifion fyw wrthynt eu hunain. Lef 13:46; Num 5:2: 13a hwy a godasant eu llef, gan ddywedyd, Iesu, O Feistr#17:13 Gwel 5:5, trugarhâ wrthym. 14A phan welodd, efe a ddywedodd#17:14 pan nad oeddynt o fewn cant o gamrau oddiwrtho. wrthynt, Ewch a dangoswch eich hunain i'r offeiriaid. A bu, fel yr oeddynt yn myned, fe a'u glanhâwyd hwynt. 15Ac un o honynt, pan welodd ddarfod ei iachâu, a ddychwelodd, gan folianu Duw â llef uchel; 16ac efe a syrthiodd ar ei wyneb wrth ei draed ef, gan roddi diolch iddo: ac efe ei hun oedd Samariad. 17A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, oni lanhâwyd y deg? Ond y naw, pa le y maent? 18Oni#17:18 Neu, Ni chafwyd a ddychwelasant, &c. chafwyd a ddychwelasant i roddi gogoniant i Dduw ond yr alltud cenedlig#17:18 Gr. allogenes, un o genedl arall, estron, alltud (Lef 22:10). Ni ddygwydda y gair yn yr Awduron Clasurol, ond daw o'r LXX. (Gen 17:27; Ex 12:43). Yr oedd y Samariaid o ddisgyniad estronol. Darfu i Shalmanezer ddanfon trefedigion o Babylon, Cuthah, Afa, Hamath, a Sepharfaim, i boblogi rhanbarth Samaria. Ychydig o Israeliaid oedd yn y wlad. Ymbriododd y rhai hyn a'r dyeithriaid, a phan ddychwelodd yr Iuddewon, ni chydnabyddent y Samariaid fel Israeliaid: (Gwel 2 Cr 30:6, 10; 34:9). hwn? 19Ac efe a ddywedodd wrtho, Cyfod, a dos ymaith: y mae dy ffydd wedi dy achub di.
Teyrnas Nefoedd oddi mewn.
20A phan ofynwyd iddo gan y Phariseaid, Pa bryd y mae Teyrnas Dduw yn dyfod? efe a atebodd iddynt, ac a ddywedodd, Nid yw Teyrnas Dduw yn dyfod wrth sylwadaeth wyliadwrus#17:20 paratêrêsis, y weithred o sylwi yn ofalus, gwylio yn ddyfal (weithiau, gwylio yn ystrywgar). Daliai yr Iuddewon sylw ar arwyddion allanol, ar ddadblygiad gweledig, &c.: ond ysprydol yw Teyrnas Dduw.. 21Ni ddywedant chwaith, Wele yma; neu, Wele acw: canys, Wele, Teyrnas Dduw, o'ch mewn#17:21 Hyn yw ystyr mwyaf naturiol entos: “Yr hyn sydd oddi fewn i'r cwpan” Mat 23:26; “Gwresogodd fy nghalon o'm mewn” Salm 39:3. “A'm calon a archollwyd o'm mewn,” Salm 109:22. Y mae yr ystyr hyn yn gydunol â'r cyd‐destyn, ac â natur y Deyrnas. Y mae Crist yn gwneyd dadganiad cyffredinol. Llefarai wrth Phariseaid, addolwyr allanolion. Nid oedd y Deyrnas eto ynddynt, ond ni ddeuent iddi cyn y byddai ynddynt. chwi y mae.
Dyfodiad Crist, yn wahanol i'r Deyrnas, yn ddyfodiad amlwg a gogoneddus.
22Ond efe a ddywedodd wrth y Dysgyblion, Y dyddiau a ddeuant, pan yr ymawyddwch weled un o ddyddiau Mab y Dyn, ac nis gwelwch. 23A hwy a ddywedant wrthych, Wele#17:23 Wele acw; neu, Wele yma א B L. acw; neu, Wele yma; nac ewch ymaith, ac na redwch#17:23 Diôkô, canlyn o ddifrif, dylyn yn ymdrechgar. ar eu hol: 24canys fel y mae y fellten yn melltenu allan o'r naill ran dan y Nef yn dysglaerio hyd y rhan arall dan y Nef; felly y bydd Mab y Dyn#17:24 hefyd D: Gad. y prif‐ysg. eraill. yn ei Ddydd. 25Eithr yn gyntaf rhaid iddo ddyoddef llawer, a'i wrthod#17:25 Mat 21:42 gan y genedlaeth hon.
Ei Ddyfodiad yn sydyn
[Mat 24:17–28, 36–42]
26Ac megys y bu yn nyddiau Noah#Gen 5:28—9:29 felly y bydd hefyd yn nyddiau Mab y Dyn. 27Yr oeddynt yn bwyta, yn yfed, yn priodi, yn cael eu rhoi mewn priodas, hyd y dydd yr aeth Noah i mewn i'r Arch, a daeth y Diluw, ac a'u dinystriodd hwynt oll#Gen 7:1–24. 28Yr un modd fel y bu#17:28 hefyd A D: Gad. prif‐ysg. eraill. yn nyddiau Lot#17:28 Gen 11:27–32; 13:1–13; 14:1–16; 18:16–19: yr oeddynt yn bwyta, yn yfed, yn prynu, yn gwerthu, yn planu, yn adeiladu; 29eithr y dydd yr aeth Lot allan o Sodom y gwlawiodd Duw dân a brwmstan o'r Nef, ac a'u dinystriodd oll#17:29 Esec 16:46–56; Am 4:11; Es 13:19; Judas 7#Gen 19:15–25. 30Yn ol#17:30 yr un pethau B D X Al. WH. Tr. Diw.: y pethau hyn א A L. yr un pethau y bydd yn y dydd y mae Mab y Dyn yn cael ei ddadguddio.
31Yn y dydd hwnw, yr hwn a fyddo ar ben y tŷ, a'i ddodrefn#17:31 Mat 12:29; Marc 3:27 yn y tŷ, na ddisgyned i ddwyn y cyfryw ymaith: a'r hwn a fyddo yn y maes, yn gyffelyb na ddychweled yn ei ol. 32Cofiwch wraig Lot#Gen 19:26.
33Pwy bynag a geisio#17:33 peripoiêsasthai, gadw iddo ei hun B L Brnd. ond La.: perisôsai, cadw א A La. gadw#17:33 enill, cadw yn ddyogel, prynu, (“Yr hon [Eglwys Dduw] a brynodd efe a'i briod waed.” Act 20:28). iddo ei hun ei fywyd#17:33 Neu, enaid., a'i cyll#17:33 Neu, a'i dinystria.: a phwy bynag a'i cyll#17:33 ef A L X: Gad. B D Brnd., a'i ceidw yn fyw#17:33 Zôogoneô, llyth.: dwyn allan yn fyw, bywhau (“Yr hwn sydd yn bywhau pob peth,” 1 Tim 6:13) epilio (“beri iddynt fwrw allan eu plant, fel nad epilient, neu, fel na fyddent byw,” Act 7:19).. 34Yr wyf yn dywedyd i chwi, Y nos hono y bydd dau yn#17:34 Llyth.: ar. yr un gwely: un a gymmerir, a'r llall a adewir. 35-36Dwy a fyddant yn malu yn nghyd; un a gymmerir, a'r llall a adewir.#17:35 Dau a fyddant yn y maes; y naill a gymmerir, a'r llall a adewir. [o Mat 24:40]. Gad. prif. ysg. a Brnd. 37A chan ateb y maent yn dywedyd wrtho, Pa le, Arglwydd? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y lle y byddo y corff, yno hefyd y bydd yr eryrod yn ymgasglu yn nghyd.

Dewis Presennol:

Luc 17: CTE

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda