Luc 16
16
Cyfrwysder bydol a doethineb ysprydol: y goruchwyliwr anonest.
1Ac efe a ddywedodd hefyd wrth y Dysgyblion, Yr oedd rhyw wr goludog, yr hwn oedd ganddo oruchwyliwr: a hwn a gyhuddwyd#16:1 Yma yn unig. Llyth.: bwrw yn groes: gwneyd ensyniadau, cyhuddo yn ddichellgar, enllibio, difenwi. wrtho fel yn gwastraffu#16:1 15:13 ei feddianau ef. 2Ac efe a'i galwodd ef, ac a ddywedodd wrtho, Pa beth yw hyn yr wyf yn ei glywed am danat? Dyro yn ol y cyfrif o'th oruchwyliaeth: canys ni elli fod mwy yn swydd goruchwyliwr. 3A'r goruchwyliwr a ddywedodd ynddo ei hun, Pa beth a wnaf, gan fod fy arglwydd yn dwyn yr oruchwyliaeth oddi wrthyf? Nid oes genyf nerth i gloddio; ac y mae arnaf gywilydd i gardota. 4Mi a wn#16:4 Llyth.: mi a wyddwn. Dynoda feddylddrych neu benderfyniad megys yn fflachio yn sydyn ar y meddwl: penderfynais beth a wnaf. beth a wnaf, fel pan y'm symuder o'r oruchwyliaeth, y derbyniont fi i'w#16:4 i'w tai eu hunain א B X Brnd.: i'w tai A D L. tai eu hunain. 5Ac efe a alwodd ato bob un o ddyledwyr ei arglwydd ei hun, ac a ddywedodd wrth y cyntaf, Pa faint o ddyled sydd arnat ti i'm harglwydd? 6Ac efe a ddywedodd, Can bath#16:6 Mesur Iuddewig at wlybyroedd, yn cynwys wyth neu naw galwyn. Yr oedd hwn yr un a bath yr Hen Destament. Cynwysai y Môr Tawdd “ddwy fil o bathau” (1 Bren 7:26). Gwel hefyd 2 Cr 2:10; 4:5; Ezra 7:22; Esec 45:14. o olew. Ac efe a ddywedodd wrtho, Cymmer dy ddyleb#16:6 ta grammata., llyth.: ysgrifeniadau, (dyleb, rhwymeb), א B D L Brnd.: to gramma, ysgrifen A., ac eistedd ar frys, ac ysgrifena ddeg a deugain. 7Yna y dywedodd wrth arall, A pha faint o ddyled sydd arnat tithau? Ac efe a ddywedodd, Can côr#16:7 Y mesur sych Iuddewig mwyaf. Yr oedd gymaint a deg bath. Kôr yw y ffurf Hebreig: Koros y ffurf Roegaidd. Defnyddir ‘corus’ yn yr Hen Destament. “Ac wele i'th weision, i'r seiri a naddant y coed, y rhoddaf ugain mil corus o wenith wedi ei guro, ac ugain mil corus o haidd, ac ugain mil bath o win ac ugain mil bath o olew” (2 Cr 2:10). Yr oedd y côr yn gyfartal i'r homer neu ddeg ephah: tua wyth pwysel, neu yn ol Josephus, (Hynaf. xv. 9, 92) yn agos i ddeuddeg pwysel. o wenith. Dywed wrtho, Cymmer dy ddyleb, ac ysgrifena bedwar ugain.#16:7 Yr oedd y goruchwyliwr yn anghyfiawn yn ei anghyfiawnder; yn caniatau haner cant o ostyngiad i un, ac ugain i'r llall. 8A'r arglwydd a ganmolodd y goruchwyliwr anghyfiawn#16:8 Llyth.: goruchwyliwr yr anghyfiawnder, ffurf Hebreig, fel “Barnwr anghyfiawnder” 18:6; ‘geiriau gras’ 4:22; “Mab ei gariad” Col 1:13; “chwant aflendid” 2 Petr 2:10. am iddo wneuthur yn gall#16:8 yn synwyrol (o'i saf‐bwynt ei hun); yn fedrus, deheuig. Defnyddir y gair yn fynych yn y T. N. am un a ofalo am ei les ei hun, (Mat 10:16; 24:45; Luc 12:42 &c.): canys y mae Meibion y byd#16:8 Llyth.; oes; yna, oes, yspryd, teithi, tueddfryd y byd; yna, y byd. hwn yn gallach tu ag at#16:8 Yn eu perthynas a'u, yn eu hymddygiadau tu ag at. Yr oedd y goruchwyliwr a'r dyledwyr yr un mor anonest: ac felly yr oeddynt yr un tylwyth. Y mae gweithgarwch a zel plant y tywyllwch yn fynych yn gerydd ac yn wers i blant y goleuni. eu cenedlaeth eu hun na Meibion y goleuni. 9Ac yr wyf yn dywedyd i chwi, Gwnewch i chwi eich hunain gyfeillion allan o'r Mamon Anghyfiawn#16:9 Llyth.: Mamon yr Anghyfiawnder. Mamon: gair o'r Caldaeg: yr hyn yr ymddiriedir ynddo, yna, golud, cyfoeth, trysor, Gen 43:23; Mat 6:24. Nid oes yma gondemniad o olud fel y cyfryw; ond y mae y byd yn gwneuthur camddefnydd o hono, yn ei wneuthur yn offeryn anghyfiawnder. Ariangarwch, h. y. hunangarwch, yw gwreiddyn pob drwg (1 Tim 6:10)., fel pan y pallo#16:9 y pallo (cyfoeth, eiddo) א A B L Brnd., y'ch derbyniont#16:9 Nid y tlodion a lesolwyd a'u derbyniant; na Duw a Christ; ond yn hytrach yr Angelion, y rhai ydynt “ysprydion gwasanaethgar” i'r rhai ydynt gyfoethog tu ag at Dduw 15:10. i'r tragywyddol bebyll. 10Yr hwn sydd ffyddlawn mewn ychydig sydd hefyd ffyddlawn mewn llawer: a'r hwn sydd anghyfiawn mewn ychydig sydd anghyfiawn hefyd mewn llawer. 11Os gan hyny ni fuoch ffyddlawn yn y Mamon Anghyfiawn, pwy a ymddiried i chwi yr hyn sydd wirioneddol#16:11 Neu, sylweddol: yn wrthwynebol i'r hyn sydd ymddangosiadol.? 12Ac os ni fuoch ffyddlawn yn yr hyn sydd eiddo arall, pwy a rydd i chwi eich#16:12 eich eiddo eich hun א A D Brnd. ond WH. ein eiddo ein hunain B L. eiddo eich hun#16:12 iachawdwriaeth a'i bendithion. Y mae iachawdwriaeth yn golygu cyfrifoldeb yn gystal a braint. Y mae i fod yn eiddo i ddyn ei hun: y mae yn etifeddiaeth (Act 20:32; Rhuf 8:17; Gal 3:18); yn drysor (Mat 6:19–21).? 13Ni ddichon un gwas teulu wasanaethu dau arglwydd: canys naill ai efe a gashâ y naill, ac a gâr y llall#16:13 Llyth.: yr un gwahanol.: neu efe a lŷn wrth y naill, ac a ddirmyga y llall. Ni ellwch wasanaethu Duw a Mamon.
Arian‐garwch: godineb: Cyfraith Duw.
14A'r Phariseaid#16:14 hefyd A X: Gad. א B D L., y rhai oeddynt#16:14 Llyth.: oeddynt o'r dechreu. ariangar, a glywsant yr holl bethau hyn, ac a'i gwawdiasant#16:14 Llyth.: troi i fyny y trwyn, fel arwydd o ddirmyg, ffroen‐wawdio, gwatwar, yma ac yn 23:35 yn unig. ef. 15Ac efe a ddywedodd wrthynt, Chwi yw y rhai sydd yn cyfiawnhâu eich hunain gerbron dynion: ond y mae Duw yn gwybod eich calonau chwi: canys y peth sydd uchel yn mhlith dynion sydd ffieidd‐dra#16:15 Mat 24:15 ger bron Duw.
16Yr oedd y Gyfraith a'r Proffwydi hyd Ioan: o'r pryd hwnw y pregethir Teyrnas Dduw trwy yr Efengyl#16:16 Llyth.: yr efengylir Teyrnas Dduw., ac y mae pob un yn ymwthio â'i holl nerth#16:16 Biazomai (yn y llais canolog) gwneyd ffordd gyd ag ymdrech i le, ymdrechu yn rymus i fyned i mewn. Gwel Mat 11:12. iddi. 17Ond hawddach yw i Nef a daear fyned heibio nag i un tipyn#16:17 Keraia (yma a Mat 5:18) tipyn, mymryn. Golyga Keraia, corn bychan, sef y cyrn bychain neu y nodau a wahaniaethant y llythyrenau tebyg yn yr Hebraeg. o'r Gyfraith syrthio i'r llawr.
18Pob un o ollyngo ymaith ei wraig, ac a briodo un arall, y mae efe yn godinebu: a'r hwn#16:18 pob un א A X: Gad. B D L Brnd. a briodo yr hon sydd wedi ei gollwng ymaith oddi wrth wr, y mae efe yn godinebu.
Y Gwr goludog a'r Cardotyn.
19Ac yr oedd rhyw wr#16:19 Traddodiad ddywed mai Nimeusis oedd ei enw. Dives yw y Lladin am ddyn goludog. goludog; ac yr oedd yn arfer cael ei wisgo mewn porphor#16:19 Yn wreiddiol, y pysgodyn yn yr hwn y darganfyddwyd y lliw: yna, y lliw ei hun. Ni ddynodir yr un lliw yn wastad gan y gair. Weithiau defnyddir ef fel desgrifair o'r môr (gan Homer ac eraill) pan yr ymddangosa yn ddu‐goch‐las: weithiau am yr Ysgarlad Tyriaidd. a llian#16:19 Gr. Bussos, llin Aiphtaidd, neu lian a wnelid o hono; yr oedd yn dyner i'r teimlad ac yn deg i'r llygad. Gwisgai y goludog hwn yn isaf, a'r porphor drosto. Dywedir fod gwisg o hono werth ei phwysau ddwywaith mewn aur. [Gwel Gen 41:42; Esth 8:15; Dad 18:12]. teg gwerthfawr, gan fwynhâu#16:19 Neu fyw yn llawen (15:15, 23, 24). ei hun bob dydd yn ysblenydd#16:19 lamprôs, mewn gwychder, rhwysg, yn odidog.. 20A rhyw#16:20 yr oedd … yr hwn A: Gad. א B D L Brnd. ddyn tlawd#16:20 ptôchos, (o ptosso, [un] yn cael ei ddychrynu, ymgrymu neu guddio gan ofn), dyn tlawd, cardotyn., o'r enw Lazarus#16:20 Heb. Eleazar, Duw sydd gynorthwy. [Nid o lo ezer, dim help, gwrthodedig]., a#16:20 yr oedd … yr hwn A: Gad. א B D L Brnd. fwriwyd wrth ei borth ef yn gornwydlyd#16:20 Yma yn unig yn y T. N. “A bu cornwyd drwg a blin ar y dynion oedd a nod y bwystfil,” Dad 16:2, 21ac yn awyddu cael ei ddigoni â'r pethau#16:21 â'r briwsion A [La.] [Tr.]: Gad. א B L Al. Ti. WH. Diw. [Gwel Mat 15:27]. a syrthient o fwrdd y goludog: ond hyd y nod y cwn#16:21 Nid i ddangos tosturi y cwn, ond i ddangos esgeulusdod, diofalwch, a chreulondeb y goludog a'i weision. a ddaethant, ac a lyfasant ei gornwydydd ef. 22A bu i'r dyn tlawd farw, a'i ddwyn ymaith gan yr Angelion i fynwes Abraham#16:22 Y lle dedwyddaf a gogoneddusaf, yn ol y Rabbiniaid, yn Mharadwys. Yn 4 Mac 13:16 y mae Abraham, Isaac, a Jacob yno yn derbyn y ffyddloniaid i'w mynwesau.. A'r goludog hefyd a fu farw ac a gladdwyd: 23ac yn Hades#16:23 Gwel Mat 11:23 Y byd anweledig, y sefyllfa rhwng angeu a'r Farn. efe a gododd ei olwg, ac efe#16:23 Gr. ac efe o'r dechreu. mewn dirboenau, ac y mae yn gweled Abraham o hirbell, a Lazarus yn ei fynwes#16:23 Gwel Ioan 1:18; 13:23.. 24Ac efe ei hun a lefodd, ac a ddywedodd, Dâd Abraham, trugarhâ wrthyf, a danfon Lazarus, fel y trocho ben ei fys mewn dwfr#16:24 “I'r hwn a wrthodo y briwsion y gwrthodir y dyferynau.”, ac oeri#16:24 Yma yn unig yn y T. N. (Gen 18:4). fy nhafod, canys yr wyf fi mewn trallod#16:24 ôdunaô, bod mewn gofid, trallod meddwl, ing enaid. Defnyddir y ferf gan Luc yn unig, (“Wele dy dâd a minau yn ofidus iawn yn dy geisio” 2:48). “Y mae i mi dristyd mawr” Rhuf 9:2 yn y fflam hon. 25Ond Abraham a ddywedodd, Blentyn, cofia i ti dderbyn#16:25 Llyth.: derbyn yn ol, ac felly nid oes dim rhagor yn ddyledus iddo. dy bethau da yn dy fywyd, a Lazarus yr un modd y pethau drwg: ond yn awr y mae efe yma#16:25 yma א A B D Brnd. yn cael ei ddyddanu, ond tithau dy drallodi. 26Ac heblaw y pethau hyn oll, rhyngom ni a chwithau y mae gagendor#16:26 Yn wrthwynebol i ddysgeidiaeth y Rabbiniaid, mai mur neu hyd y nod llaw neu edefyn a wahanai y ddau. Oni ddysgir yr un peth eto gan rai? [Gwel 2 Sam 18:17 LXX.] mawr wedi ei sicrhâu, fel na allo y rhai a ewyllysient fyned drosodd oddi yma atoch chwi; na'r rhai oddi yna groesi drosodd atom ni. 27Ond efe a ddywedodd, Yr wyf yn gofyn i ti, gan hyny, O dâd, ei anfon ef i dŷ fy nhâd; 28canys y mae i mi bump o frodyr: fel y tystiolaetho yn ddifrifol iddynt hwy, fel na ddelont hwythau hefyd i'r lle poenus#16:28 Llyth.: lle hwn y Boenedigaeth. hwn. 29Ond Abraham a ddywed#16:29 wrtho A D: Gad. א B L., Y mae ganddynt Moses a'r Proffwydi: bydded iddynt wrando arnynt hwy. 30Ond efe a ddywedodd, Na, Y tâd Abraham: eithr os â rhyw un oddiwrth y meirw atynt, hwy a edifarhânt. 31Ond efe a ddywedodd wrtho, Os nad ydynt yn gwrando ar Moses a'r Proffwydi, ni#16:31 nid ydynt yn credu D. ddarbwyllir hwynt ychwaith os adgyfyd un o blith y meirw#16:31 Dywed y goludog danfon, dywed Abraham, pe adgyfyd; y goludog oddiwrth y meirw (apo), dywed Abraham, pe adgyfodai un allan o blith y meirw; y goludog hwy a gredant, dywed Abraham, ni wna gymaint a'u darbwyllo..
Dewis Presennol:
Luc 16: CTE
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.