Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 14

14
Iachâu y dyfr‐glwyfus: yr hawl i wneuthur daioni ar y Sabbath.
1Bu hefyd pan ddaeth efe i dŷ un o Lywodraethwyr#14:1 Neu o'r Llywodraethwyr, y rhai oeddynt o'r Phariseaid. y Phariseaid ar y Sabbath, i fwyta bara, hwy eu hunain hefyd oeddynt yn ei wylio#14:1 Llyth.: sefyll yn ymyl a gwylio. ef yn ddyfal. 2Ac wele, yr oedd ger ei fron ef ryw wr yn glaf o'r dyfr‐glwyf. 3A'r Iesu gan ateb a lefarodd wrth Ddysgawdwyr#14:3 Gwel 7:30 y Gyfraith a'r Phariseaid, gan ddywedyd, A ydyw gyfreithlawn gwellhâu ar y Sabbath#14:3 ai nad yw א B D L. Gad. A X. a'i nad yw? 4A hwy a gadwasant yn dawel#14:4 Hêsuchazô, cadw yn dawel; gorphwys oddiwrth waith (“Ac ar y Sabbath hwy a orphwysasant yn ol y gorchymyn” 23:56); arwain bywyd tawel (“a rhoddi o honoch eich bryd ar fod yn llonydd” 1 Thess 4:11). Ac efe a afaelodd ynddo, ac a'i hiachâodd ef, ac a'i gollyngodd ymaith. 5Ac efe#14:5 a atebodd ac א A X. Gad B D L. a ddywedodd wrthynt, Mab#14:5 Gwel Ex 23:12 Ceir yr un cyfeiriad “mab ac ŷch” yn rhai o'r ysgrifeniadau Rabbinaidd.#14:5 Mab A B La. Al. Ti. Tr. WH.: asyn א L Diw.; dafad D. neu ŷch pa un o honoch a syrth i bydew, ac yn ebrwydd nis tyn ef i fyny ar y dydd Sabbath? 6Ac ni allent ateb yn ol#14:6 iddo A X: Gad. א B D L. i'r pethau hyn.
Crist yn dysgu gostyngeiddrwydd.
7Ac efe a ddywedodd ddammeg wrth y gwahoddedigion, pan y daliodd sylw ar y modd y dewisent allan iddynt eu hunain y prif eistedd‐leoedd, gan ddywedyd wrthynt, 8Pan y'th wahodder gan neb i briodas‐wledd#14:8 Neu, wledd arbenig., nac eistedd i lawr yn y prif eistedd‐le, rhag bod un anrhydeddusach na thydi wedi ei wahodd ganddo; 9a dyfod o'r hwn a'th wahoddodd di ac yntau, a dywedyd wrthyt, Dyro le i hwn: ac yna dechreu o honot gyd â chywilydd gymmeryd meddiant o'r lle olaf#14:9 Diar 25:6, 7. 10Ond pan y'th wahodder, dos ac eistedd i lawr#14:10 Llyth.: syrth yn ol i'r. yn y lle olaf, fel pan ddelo yr hwn sydd wedi dy wahodd di, y dywed wrthyt, Gyfaill, dos yn uwch i fyny: yna y bydd i ti anrhydedd#14:10 Llyth.: ogoniant. yn ngŵydd pawb#14:10 pawb א A B L X: Gad. D. a eisteddant gyd â thi. 11Canys pob un a ddyrchafo ei hun a ostyngir: a'r hwn sydd yn ei ostwng ei hun, a ddyrchefir.
Yr hyn yw gwir letygarwch.
12Ac efe a ddywedodd hefyd wrth yr hwn oedd wedi ei wahodd, Pan wnelyt giniaw neu swper, na alw dy gyfeillion, na'th frodyr, na'th berthynasau, na chymydogion cyfoethog, rhag unrhyw amser iddynt hwythau hefyd dy wahodd dithau eilchwyl, ac y bydd ad‐daliad i ti. 13Eithr pan wnelyt wledd#14:13 Llyth.: dderbyniad, yna, arfoll, croesaw [S. reception]., gwahodd dlodion, anafusion, cloffion, deillion: 14a dedwydd fyddi, am nad oes ganddynt ddim i ad‐dalu i ti: canys fe ad‐delir i ti yn Adgyfodiad y rhai cyfiawn#Diar 19:17.
Dammeg y Swper Mawr a'r esgusodion
[Mat 22:1–10]
15A phan glywodd rhyw un o'r rhai oedd yn cyd‐eistedd wrth fwyd y pethau hyn, efe a ddywedodd wrtho, Gwyn fyd pwy bynag a fwytâo fara yn Nheyrnas Dduw. 16Ac efe a ddywedodd wrtho, Rhyw ddyn#14:16 oedd yn gwneuthur (ams. anmherff.) א B, a wnaeth A D L. oedd yn gwneuthur swper mawr, ac a wahoddodd lawer: 17ac a ddanfonodd ei was#14:17 Gr. caethwas. ar bryd#14:17 Llyth.: awr. y swper i ddywedyd wrth y gwahoddedigion#14:17 Arferiad cyffredin yn y Dwyrain (Diar 9:1–5)., Deuwch, canys y mae pob#14:17 pob peth א A D: Gad. B L. peth weithian yn barod. 18A hwy oll a ddechreuasant o un fryd#14:18 Llyth.: o un (fryd, farn, gyd âg un llais, &c.) ymesgusodi#14:18 paraiteomai, gofyn ymaith, gwrthod (“nid wyf yn gwrthod marw” Act 25:11); osgoi (“gad heibio halogedig a gwrachiaidd chwedlau” 1 Tim 4:7); ymesgusodi [S. beg off].: y cyntaf a ddywedodd wrtho, Mi a brynais faes, ac y mae angenrhaid arnaf fyned allan i'w weled: yr wyf yn gofyn i ti, cymmer fi yn esgusodol#14:18 Llyth.: fel wedi fy esgusodi.. 19Ac arall a ddywedodd, Mi a brynais bum iau o ychain, ac yr wyf yn myned i'w profi hwynt: yr wyf yn gofyn i ti, cymmer fi yn esgusodol#14:19 Llyth.: fel wedi fy esgusodi.. 20Ac arall a ddywedodd, Mi a briodais wraig, ac o herwydd hyn nis gallaf ddyfod#14:20 Y tri rhwystr oeddynt, balchder, cyfoeth, pleserau, neu, golud, marsiandiaeth, mwyniant. Plê y cyntaf oedd angenrhaid, yr ail, ei gynllun neu ei fympwy, y trydydd ni roddodd esgus o gwbl. Yr un yspryd, bydolrwydd, oedd yn y tri. Cyfeiria Paul yn debyg at y ddammeg hon, 1 Cor 7:29–33.. 21A'r gwas#14:21 hwnw X Δ: Gad. א A B D L., pan gyrhaeddodd, a fynegodd i'w arglwydd y pethau hyn. Yna Meistr y tŷ a fu ddigllawn, ac a ddywedodd wrth ei was, Dos allan ar frys i'r prif‐ystrydoedd a chul‐heolydd y Ddinas, a dwg i mewn yma y tlodion, a'r anafusion, a'r#14:21 a'r deillion, a'r cloffion א B D: cloffion a'r deillion X Δ. deillion, a'r cloffion. 22A'r gwas a ddywedodd, Arglwydd, y#14:22 y peth א B D L: fel A X. peth a orchymynaist sydd wedi ei wneuthur, ac eto y mae lle. 23A'r arglwydd a ddywedodd wrth y gwas, Dos allan i'r ffyrdd a'r cloddiau#14:23 Yn nghysgod y rhai yr ymlochesai crwydriaid., a chymhell hwynt i ddyfod i mewn, fel y llanwer fy nhŷ. 24Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, Ni cha neb o'r gwyr#14:24 “Yr oedd yr Iesu erbyn hyn wedi cael ei wrthod yn Nazareth (4:29), yn Jerusalem (Ioan 8:59), yn Judea, yn Samaria (9:53), Galilea (10:13), Peraea (8:37).” — Farrar. hyny sydd wedi eu gwahodd brofi o'm swper i.
Yr hyn sydd gynwysedig mewn canlyn Crist.
25A thorfeydd lawer oeddynt yn myned gyd âg ef: ac efe a drodd, ac a ddywedodd wrthynt, 26Os oes neb yn dyfod ataf fi, ac nid yw yn cashâu ei dâd, a'i fam, a'i wraig, a'i blant, a'i frodyr, a'i chwiorydd, ie, a'i einioes#14:26 Neu, enaid, y bywyd anifeilaidd, sef y chwantau a'r serchiadau daearol. ei hun hefyd#14:26 Mat 10:37, ni all efe fod yn ddysgybl i mi: 27a phwy bynag nid yw yn dwyn ei groes ei#14:27 ei hun A B Al. WH. La. Ti. Gad. D L Tr. (o Mat 10:38). hun, ac yn dyfod ar fy ol i, ni all efe fod yn ddysgybl i mi.
Cyfrif y draul.
28Canys pwy o honoch chwi yn ewyllysio adeiladu tŵr, nid eistedd yn gyntaf a chyfrif#14:28 Yma ac yn Dad 13:18: psêphizô, o psêphos, caregyn: defnyddid caregos mewn cyfrifiadau, ac hefyd mewn pleidleisiau neu ddyfarniadau, “Mi a roddais farn (psêphos, pleidlais) yn eu herbyn” Act 26:10 y draul, a oes ganddo ddigon i'w orphen#14:28 Llyth.: a oes ganddo i'w orpheniad.? 29Rhag byth, wedi iddo osod y sylfaen, ac heb allu dwyn i ben yn hollol, ddechreu o bawb a ddaliant sylw ei watwar ef, 30gan ddywedyd, Y dyn hwn a ddechreuodd adeiladu, ac ni allodd ddwyn i ben yn hollol.
31Neu pa frenin yn myned allan i wrth‐daraw â brenin arall mewn rhyfel, nid eistedd yn gyntaf ac ymgynghori a all efe â deng mil gyfarfod â'r hwn sydd yn dyfod yn ei erbyn ef âg ugain mil? 32Os amgen, tra fyddo efe eto yn mhell, efe a enfyn lys‐genadaeth, ac a ofyna amodau#14:32 Llyth.: y pethau tu ag at heddwch. Cymharer Rhuf 14:19 heddwch. 33Felly, gan hyny, pob un o honoch chwithau nid ymwrthodo a chymaint oll ag a feddo, ni all fod yn ddysgybl i mi.
34Da gan#14:34 gan hyny א B L Brnd.: Gad. A D La. hyny yw yr halen: eithr os collodd hyd#14:34 hyd y nod א B D L X: Gad. A. y nod yr halen ei flas, â pha beth yr helltir ef? 35Nid yw efe gyfaddas nac i'r tir nac i'r domen: y maent yn ei fwrw ef allan. Y neb sydd ganddo glustiau, gan wrando, gwrandawed.

Dewis Presennol:

Luc 14: CTE

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda