Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 13

13
Damweiniau a barnau.
1A chyrhaeddodd rhai yn y cyfamser hwnw, gan fynegi iddo am y Galileaid, gwaed y rhai a gymysgodd Pilat â'u haberthau#13:1 Dan lywodraeth Pilat ac eraill dygwyddai trychinebau fel hyn yn fynych. Ar adeg un Pasc cafodd 3,000 eu lladd, ac 20,000 ar adeg arall. Gwel Josephus: Hynafiaethau xvii., xviii. Gwel Luc 23:1; Act 21:34.. 2Ac efe#13:2 Iesu A D X: Gad. א B L. a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, A ydych chwi yn tybied fod y Galileaid hyn yn bechaduriaid tu hwnt i'r holl Galileaid, am eu bod wedi dyoddef y#13:2 y pethau hyn א B D L: y cyfryw bethau A. pethau hyn? 3Na, meddaf i chwi; eithr onid edifarhêwch, chwi oll a ddyfethir yn yr un modd. 4Neu y deunaw hyny, ar y rhai y syrthiodd y Twr yn Siloam, ac a'u lladdodd hwynt: a ydych chwi yn tybied fod y#13:4 y rhai hyn eu hunain א A B L X: y rhai hyn Δ. rhai hyn eu hunain yn ddyledwyr tu hwnt i'r holl ddynion oedd yn trigo yn Jerusalem? 5Na, meddaf i chwi, eithr onid edifarhêwch#13:5 Yma, yn ol y darlleniad a fabwysiedir, golyga yr amser a ddefnyddir, edifarhâu ar unwaith neu yn y man., chwi a ddyfethir oll yr#13:5 ôsautôs, yr un modd yn hollol א B L Brnd.: homoiôs, yr un modd A D X. un modd yn hollol.
Dammeg y ffigysbren ddiffrwyth.
6Ac efe a ddywedodd y ddammeg hon: Yr oedd gan un ffigysbren wedi ei blanu yn ei winllan: ac efe a ddaeth gan geisio ffrwyth arno, ac ni chafodd. 7Ac efe a ddywedodd wrth y gwinllanydd, Wele, y mae tair blynedd o'r#13:7 o'r adeg [aph’ hou] א B D L: Gad. A X. adeg yr wyf yn dyfod gan geisio ffrwyth ar y ffigysbren hwn, ac nid wyf yn cael: tor ef allan#13:7 o blith y prenau eraill.: paham y mae efe hefyd yn diffrwytho#13:7 Katargeô, gwneyd yn ddieffaith, peri i fod yn segur, musgrell, &c. Gwel Rhuf 3:31; Gal 3:17 y tir? 8Ac efe gan ateb a ddywed wrtho, Arglwydd, gâd ef y flwyddyn hon hefyd#13:8 2 Petr 3:9, hyd oni chloddiaf o'i amgylch a'i achlesu: 9ac os dwg ffrwyth#13:9 Felly א B L Brnd. am y dyfodol, da: ond os na wna, yn wir, ti#13:9 Ni ddywed y gwinllanydd, “Mi a'i toraf,” ac ni rydd orchymyn, — yn unig dywed y ffaith. a'i tori ef allan.
Rhagrith ynghylch y Sabbath: gwellhâd y wraig grymedig.
10Ac yr oedd efe yn dysgu yn un o'r Synagogau ar y Sabbath. 11Ac wele wraig ag ynddi yspryd gwendid ddeunaw mlynedd, ac yr oedd wedi cyd‐grymu, ac ni allai ymuniawni o gwbl#13:11 Llyth.: i'r eithaf [Heb 7:25].. 12A'r Iesu a'i gwelodd hi, ac a'i galwodd ato, ac a ddywedodd wrthi, Wraig, yr wyt wedi dy ryddhâu oddiwrth dy wendid. 13Ac efe a osododd ei ddwylaw arni, ac yn y man hi a uniawnwyd, ac yr oedd yn gogoneddu Duw. 14A Llywodraethwr#13:14 Gwel 8:41 y Synagog a ffromodd#13:14 Gwel Mat 20:24 yn aruthr am i'r Iesu wellhâu ar y Sabbath, ac a atebodd ac a ddywedodd wrth y dyrfa, Y mae chwe diwrnod yn y rhai y dylid gweithio; yn y rhai hyn gan hyny deuwch a gwellhâer chwi, ac nid ar y dydd Sabbath#Ex 20:8–11. 15Ond yr Arglwydd a atebodd iddo ac a ddywedodd, O ragrithwyr#13:15 ragrithwyr א A B L Brnd.: ragrithiwr D X., Onid yw pob un o honoch yn gollwng ar y Sabbath ei ych neu ei asyn o'r preseb, a'i arwain ymaith i'r dwfr#13:15 Llyth.: i'w ddiodi.? 16Ond hon, yn ferch i Abraham, yr hon a rwymodd Satan#13:16 Gwel 2 Cor 12:7, wele, ddeunaw mlynedd; oni ddylai gael ei rhyddhâu oddiwrth y rhwymyn hwn ar y dydd Sabbath? 17Ac fel yr oedd efe yn dywedyd y pethau hyn, ei holl wrthwynebwyr a gywilyddiasant; a'r holl dyrfa oedd yn llawenhâu am yr holl bethau gogoneddus a wnaid ganddo.
Dammegion yr hâd mwstard a'r torthau
[Mat 13:31–33; Marc 4:30–32]
18Efe a ddywedodd gan#13:18 gan hyny א B L: ac A D X. hyny, I ba beth y mae Teyrnas Dduw yn debyg, ac i ba beth y cyffelybaf hi? 19Tebyg yw i ronyn mwstard, yr hwn a gymmerodd dyn, ac a fwriodd i'w ardd ei hun; ac efe a dyfodd, ac a ddaeth i fod yn bren#13:19 bren א B D L Ti. WH. Diw.: bren mawr A X. [Al.] [Tr.], ac ehediaid y Nefoedd a ymlochesasant#13:19 Gwel Mat 13:32 yn ei gangau ef.
20A thrachefn efe a ddywedodd, I ba beth y cyffelybaf Deyrnas Dduw? 21Tebyg yw i lefain, yr hwn a gymmerodd gwraig, ac a'i cuddiodd mewn tri mesur#13:21 Gwel Mat 13:33. Yn y LXX. cyfieithir saton (Heb. Seah) metron, mesur. o flawd, hyd oni lefeiniwyd y cwbl oll#13:21 Yr oll o galon dyn (2 Cor 10:5), a'r oll o'r byd (24:47)..
Dammeg y drws cyfyng
[Mat 7:13, 14, 21–23; 8:11, 12]
22Ac efe a ymdeithiodd drwy ddinasoedd a phentrefi, gan ddysgu, a gwneyd ei ffordd i Jerusalem. 23A rhyw un a ddywedodd wrtho, Ai ychydig yw y rhai sydd yn cael eu cadw#13:23 Fel yn Act 2:47? Ac efe a ddywedodd wrthynt, 24Ymorchestwch#13:24 Gr. Agônizomai, ymdrechu [megys yn y chwareuyddiaethau Groegaidd, o agôn, cyd‐ymdrech rhedegwyr, cerbydwyr, ymafaelwyr, &c., 1 Cor 9:25], ymorchestu yn ngwyneb anhawsderau, peryglon, profedigaethau. Yr oedd Crist mewn ‘ymdrech meddwl’ [agônia] yn Gethsemane (22:44). i fyned i mewn drwy y drws#13:24 Ffordd yw y ffugyr yn Matthew, myned i dŷ ydyw yma.#13:24 drws א B D L Brnd.: porth A X [o Mat.] cyfyng: canys llawer, meddaf i chwi, a geisiant fyned i mewn, ac ni fyddant alluog — 25o'r#13:25 Neu alluog. O'r adeg y cyfodo. &c. adeg y cyfodo meistr y tŷ, a chau y drws, a dechreu o honoch sefyll y tu allan a churo y drws, gan ddywedyd, Arglwydd, agor i ni, ac yntau gan ateb a ddywed, Nid adwaen chwi, o ba le#13:25 O ba deulu yr ydych. yr ydych. 26Yna y dechreuwch ddywedyd, Ni a fwytasom ac a yfasom yn dy ŵydd#13:26 Nid ‘gyd âg’ (Mat 26:29); fel yr addawodd Crist i gyd‐wledda gyd â'i Ddysgyblion. di, a thi a ddysgaist yn ein prif‐heolydd#13:26 Llyth.: ein lleoedd llydain.. 27Ac efe a ddywed, Yr wyf yn dywedyd i chwi, nid adwaen o ba le yr ydych: ewch#13:27 Llyth.: sefwch. ymaith oddi wrthyf, holl weithredwyr anghyfiawnder. 28Yno y bydd yr wylofain a'r rhingcian danedd, pan welwch Abraham, ac Isaac, a Jacob, a'r holl Broffwydi, yn Nheyrnas Dduw, ond chwithau wedi eich bwrw i'r tu allan. 29A deuant o'r Dwyrain, ac o'r Gorllewin, o'r Gogledd, ac o'r Deheu, ac a eisteddant i lawr i'r wledd yn Nheyrnas Dduw. 30Ac wele, y mae rhai olaf a fyddant flaenaf, a blaenaf a fyddant olaf.
Gwaith Crist, a'i genadwri i Herod Antipas.
31Yr awr#13:31 awr א A B D Brnd.: dydd Δ. hono daeth ato ryw Pharisead, ac a ddywedodd wrtho, Dos allan a cherdda oddi yma, canys y mae Herod yn ewyllysio dy ladd di. 32Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch a dywedwch wrth y cadnaw hwnw, Wele, yr wyf yn bwrw allan gythreuliaid, ac yn cyflawnu#13:32 Llyth.: dwyn i ben. gweithredoedd o iachâd heddyw ac yfory, a'r trydydd dydd yr wyf yn cyrhaedd y diwedd#13:32 Neu, yr wyf yn cael fy mherffeithio. Llawer o esboniadau: (1) mi a orphenaf [fy ngwaith yn nhiriogaeth Herod]; (2) mi a orphenaf weithredoedd o iachâd; (3) mi a orphenaf fy holl waith; (4) deuaf i'r terfyn drwy gael fy ngosod i farwolaeth. Daeth y gair yn ddiweddarach yn gyfystyr â merthyrdod. Dyoddefiadau a marwolaeth Crist oedd ei berffeithiad. Y mae y gorphen yma yn broffwydoliaeth o “Orphenwyd” y Groes (Ioan 19:30): “Berffeithio awdwr eu hiachawdwriaeth hwy trwy ddyoddefiadau” Heb 2:10; gwel hefyd Heb 5:9; 7:28.. 33Yn mhellach, rhaid i mi ymdaith heddyw, ac yfory, a threnydd: canys ni chaniateir i Broffwyd gael ei ddyfetha tu allan i Jerusalem.
Y galarnad uwch Jerusalem
[Mat 23:37–39]
34O Jerusalem#13:34 Defnyddia Luc y ffurf Hierousalêm 23 o weithiau allan o 26. Yr Efengylwyr eraill a ddefnyddiant Hierosoluma., Jerusalem, yr hon wyt yn lladd y Proffwydi, ac yn llabyddio y rhai a ddanfonwyd atat, pa mor fynych yr ewyllysiais gasglu dy blant ynghyd, y modd y casgl yr iar ei chywion dan ei hadenydd; ac nid ewyllysiech chwi! 35Wele, y mae eich Tŷ yn cael ei adael i chwi#13:35 Eich Tŷ chwi ydyw o hyn allan. Y mae Duw, y Shechinah, wedi ei adael [Esec 10:19; 11:23].#13:35 Felly א A B L Brnd.: yn anghyfanedd D.. Ond meddaf i chwi, Ni welwch fi o gwbl, hyd#13:35 yr amser pan A D: Gad. א B L. nes y dywedwch, Bendigedig yw yr Hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd.

Dewis Presennol:

Luc 13: CTE

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda