Luc 12
12
Lefain y Phariseaid
[Mat 10:19, 20, 26–33]
1Yn y cyfamser, pan yr ymgasglodd y dyrfa yn ddegau#12:1 Neu, yn filoedd lawer. Golyga murias, ddeg mil, yna, tyrfa afrifed. o filoedd ynghyd, hyd oni sathrent eu gilydd, efe a ddechreuodd ddywedyd wrth y Dysgyblion yn gyntaf oll#12:1 Neu, y Dysgyblion, Yn gyntaf oll gwyliwch, &c. Gwel 9:61; 10:5, Gwyliwch arnoch rhag lefain y Phariseaid, yr hwn yw rhagrith. 2Ond nid oes dim wedi ei orchuddio i fyny#12:2 Neu, yn hollol, [yma yn unig yn y T. N.], a'r nis dad‐orchuddir, a dim dirgel, a'r nis gwybyddir. 3O herwydd paham, pa bethau bynag a ddywedasoch yn y tywyllwch, a glywir yn y goleuni: a'r hyn a lefarasoch i'r glust mewn celloedd#12:3 tameion, llyth.: ystordy, trysor‐gell, yna, fel y cyfryw, ystafell ddirgel: gwel Mat 6:6; 24:26. dirgel, a gyhoeddir ar benau tai.
4Ac yr wyf yn dywedyd i chwi, fy nghyfeillion#12:4 Ioan 15:14, 15, Nac ofnwch ddim oddiwrth y rhai sydd yn lladd y corff, ac wedi hyny#12:4 Llyth.: y pethau hyn. heb ganddynt ddim yn mhellach i'w wneuthur. 5Ond mi a ddangosaf i chwi pwy a ofnwch: ofnwch yr hwn#12:5 Sef Duw, ac nid Diafol., wedi y lladd, sydd ag awdurdod ganddo i fwrw i Gehenna#12:5 Gwel Mat 5:22; ie, meddaf i chwi, hwnw a ofnwch.
Gofal Duw am y rhai a gyffesant Grist
[Mat 10:29–33]
6Oni werthir pump o adar y tô am ddwy geiniog#12:6 Gr. Assarion, yr hwn oedd gyfwerth â phedwar Kodrantés. Yr oedd yr olaf yn ateb yn agos i'n ‘ffyrling’ ni. Felly yr oedd ‘assarion’ tua cheiniog o'n harian ni. Yn Mat 10:29 darllenwn, “Oni werthir dau aderyn y tô er ceiniog;” ond trwy brynu gwerth dwy geiniog, fe roddid un ychwanegol yn rhâd.? Ac nid oes un o honynt wedi cael ei anghofio gerbron Duw. 7Ond y mae hyd y nod wallt eich pen chwi wedi eu cyfrif oll. Nac ofnwch#12:7 gan hyny A D: Gad. א B L., yr ydych chwi yn rhagorach na llawer o adar y tô#12:7 Gwel Mat 10:29. 8Ac yr wyf yn dywedyd i chwi, Pob un a'm cyffeso#12:8 Gr. a gyffeso ynof fi. h. y. mewn undeb â mi. i gerbron dynion, Mab y Dyn hefyd a'i cyffesa yntau#12:8 Gr. ynddo yntau. ger bron Angelion Duw. 9Ond yr hwn a'm gwado i ger bron dynion, a lwyr‐wedir ger bron Angelion Duw. 10A phob un a ddywedo air#12:10 Yr hwn a lefarir mewn anwybodaeth, &c. mewn perthynas i Fab y Dyn, fe a faddeuir iddo: ond i'r hwn a gablo mewn perthynas i'r Yspryd Glân, ni faddeuir. 11A phan y'ch dygant chwi i mewn o flaen y Synagogau, a'r Llywodraethau, a'r Awdurdodau, na fyddwch bryderus am ba fodd neu ba beth i amddiffyn#12:11 Gwel Act 22:1; Phil 1:7, 16; 1 Petr 3:15 eich hun, neu i ddywedyd; 12canys yr Yspryd Glân a ddysg i chwi yn yr awr hono beth a ddylech ei ddywedyd#12:12 Ex 4:12–15; Act 6:8, 10; 2 Tim 4:17.
Tynghed y gwr cyfoethog. Hunangarwch.
13A rhyw un o'r dyrfa a ddywedodd wrtho, Athraw, dywed wrth fy mrawd am ranu â myfi yr Etifeddiaeth. 14Yntau a ddywedodd wrtho, Ddyn, pwy a'm gosododd i yn Farnwr#12:14 i benderfynu yr hyn oedd iawn. neu yn Rhanwr#12:14 i ddwyn i weithrediad y ddedfryd. arnoch chwi? 15Ac efe a ddywedodd wrthynt, Edrychwch a gwyliwch rhag pob#12:15 pob, prif‐law‐ysg. Brnd. trachwant#12:15 Pleonexia, llyth.: dymuniad am ragor mewn unrhyw gyfeiriad, nid yn unig yn yr ystyr o gybydd‐dod, ond hefyd o chwantau cnawdol eraill. Gwel Col 3:5 (a Lightfoot ar y cyfryw).: canys#12:15 Llyth. nid yn llawnder dyn y mae ei fywyd, o'r meddianau sydd ganddo: neu, er fod gan ddyn lawnder, nid yw ei fywyd yn un o'r pethau sydd yn ei feddiant. Godet. nid yw bywyd#12:15 Gr. Zoê, y gwir fywyd; bios. y bywyd naturiol, a ymddybyna ar yr hyn sydd gan y dyn: Zoê ar yr hyn yw y dyn. neb yn gynwysedig yn helaethrwydd y meddianau sydd ganddo.
16Ac efe a ddywedodd ddammeg wrthynt, gan ddywedyd, Tir rhyw wr goludog a gnydiodd yn dda. 17Ac efe a ymresymodd ynddo ei hun, gan ddywedyd, Pa beth a wnaf, canys nid oes genyf le i gasglu fy ffrwythau iddo? 18Ac efe a ddywedodd, Hyn a wnaf: Mi a dynaf i lawr fy ysguboriau, ac a adeiladaf rai mwy: ac yno y casglaf ynghyd fy holl yd#12:18 yd B L Tr. WH. Diw.: gynyrch א A Al. La. Ti. a'm da. 19A dywedaf wrth fy enaid#12:19 Neu, fywyd., Enaid, y mae genyt dda lawer wedi ei roi i gadw ar gyfer blynyddoedd lawer; gorphwys, bwyta, ŷf, mwynhâ dy hun. 20Ond Duw a ddywedodd wrtho, O'r un anystyriol#12:20 Llyth.: disynwyr, difeddwl.! y nos hon y gofynant#12:20 Angelion Duw, neu genadon Angeu, Job 33:22 dy enaid#12:20 Neu, fywyd. oddi wrthyt: a'r pethau a barotoaist, i bwy y byddant? 21Felly yw yr hwn a drysora iddo ei hun, ac nid yw gyfoethog tu ag at Dduw.
Gwers y gigfrân a'r lili
[Mat 6:25–34]
22Ac efe a ddywedodd wrth ei Ddysgyblion, O herwydd hyn meddaf i chwi, na fyddwch bryderus am y#12:22 y bywyd א A B D L: eich bywyd X. bywyd#12:22 Neu, enaid., beth a fwytâoch, nac am y corff, beth a wisgoch. 23Canys#12:23 Canys א B D L: Gad. A. y mae y bywyd#12:23 Neu, enaid. yn fwy na'r bwyd, a'r corff na'r wisg.
24Ystyriwch y cigfrain#12:24 Job 38:41; Salm 145:15, nad ydynt yn hau nac yn medi; i'r rhai nid oes ystordy#12:24 Gwel adn 3 nac ysgubor, ac y mae Duw yn eu porthi hwynt: pa faint mwy yr ydych chwi yn rhagori ar yr ehediaid? 25A phwy o honoch wrth fod yn bryderus a ddichon chwanegu un cufydd at hyd ei einioes#12:25 Gwel nodiad, Mat 6:27? 26Os gan hyny ni ellwch hyd y nod yn yr hyn sydd leiaf, paham yr ydych yn bryderus am y gweddill? 27Ystyriwch flodau'r lili, pa#12:27 pa fodd y maent yn tyfu א A B L La. WH. Diw.: Gad. D Ti. Al. fodd y maent yn tyfu; nid ydynt yn llafurio#12:27 llafurio nac yn nyddu א A B L La. WH. Diw. Nid ydynt yn nyddu nac yn gwau D. Al. Ti. nac yn nyddu: ond meddaf i chwi, hyd y nod Solomon#12:27 Gwel 1 Br 3:13; 10:1–29; Can 3:6–11 yn ei holl ogoniant ni amwisgwyd fel un o'r rhai hyn. 28Ac os felly y mae Duw yn dilladu y glaswellt, y rhai sydd heddyw mewn maes, ac yfory yn cael eu taflu i ffwrn, pa faint mwy y dillada efe chwi, O chwi o ychydig ffydd? 29A chwychwi, na cheisiwch beth a fwytâoch, a pha beth a yfoch, ac na fyddwch mewn amheuaeth bryderus#12:29 Meteôrizesthai, yma yn unig yn y T. N. (1) Daw o meteôros, lan yn yr awyr, uchel: fel pethau yn yr awyr, neu longau a ymddangosant yn uchel pan ar y cefnfor. Golyga (2) ymchwyddo, gan falchder “O Arglwydd, nid ymfalchiodd fy nghalon,” Salm 131:1 (3) bod yn ansefydlog o ran meddwl, anwadal, amheus.. 30Canys y pethau hyn oll y mae cenedloedd y byd yn eu hargeisio: ac y mae eich Tâd chwi yn gwybod fod arnoch chwi eisieu y pethau hyn. 31Yn mhellach, ceisiwch ei#12:31 ei Deyrnas ef א B D L Brnd.: Deyrnas Dduw A. Deyrnas ef, a'r peth hyn#12:31 oll A D X: Gad. א B L Brnd. (o Mat) a ychwanegir i chwi. 32Nac ofna, y praidd bychan; canys rhyngodd bodd i'ch Tâd roddi i chwi y Deyrnas.
Y ddyledswydd o elusengarwch
[Mat 6:19–21]
33Gwerthwch eich meddianau#12:33 Gwel Act 2:44, 45, a rhoddwch elusen: gwnewch i chwi eich hunain gôdau#12:33 Gwel 10:4 ni heneiddiant, trysor diddarfod yn y Nefoedd, lle nad yw lleidr yn agoshâu, na phryfed yn llwyr‐ddifa#12:33 Gwel Iago 5:2. 34Canys lle y mae eich trysor chwi, yno y bydd eich calon hefyd.
Y ddyledswydd o wylio: gwobr gweision gwyliadwrus
35Bydded eich lwynau wedi eu gwregysu, a'r lampau yn llosgi, 36a chwithau yn debyg i ddynion yn dysgwyl eu Harglwydd eu hunain, pan yr ymadawo#12:36 Analuô, llyth.: gollwng yn rhydd, megys llong o'r angorfa, neu dynu pabell i lawr. Yma ac yn Phil 1:23 “Y mae arnaf chwant ymddatod;” “amser fy ymddatodiad,” 2 Tim 4:6 o'r briodas‐wledd; fel, pan ddelo a churo, yn ebrwydd yr agorant iddo. 37Gwyn fyd y gweision#12:37 Gr. caeth‐weision. hyny, y rhai a gaiff yr Arglwydd pan ddêl yn gwylio#12:37 Gwel Marc 13:35 yn ddyfal. Yn wir meddaf i chwi, efe a ymwregysa, ac a wna iddynt eistedd i fwyta; ac efe a ddaw yn mlaen, ac a wasanaetha arnynt. 38Ac os daw efe yn yr ail, ac os yn y drydedd wyliadwriaeth, a chael felly, gwyn fyd y#12:38 y rhai hyny א B D L Ti. WH. Diw.; y gweision hyny A [Al.] [Tr.] rhai hyny. 39A gwybyddwch hyn, pe gwybuasai meistr y tŷ pa awr y mae y lleidr yn dyfod, efe#12:39 efe a wyliasai yn ddyfal, ac B L La. Al. WH. Diw.: Gad. א D. Ti. a wyliasai yn ddyfal, ac#12:39 efe a wyliasai yn ddyfal, ac B L La. Al. WH. Diw.: Gad. א D. Ti. ni adawsai iddo gloddio trwy ei dŷ ef. 40A chwithau,#12:40 gan hyny A: Gad. א B L., byddwch barod; canys mewn awr ni thybioch y mae Mab y Dyn yn dyfod#Mat 24:43, 44..
Dammeg y goruchwyliwr anffyddlawn
[Mat 24:45–51]
41A Phetr a ddywedodd#12:41 wrtho א A: Gad. B D L X., Arglwydd, Ai wrthym ni yr wyt yn dywedyd y ddammeg hon, ai hefyd wrth bawb? 42A'r Arglwydd a ddywedodd, Pwy yn wir yw y goruchwyliwr ffyddlawn, synwyrol#12:42 phronimos, call, synwyrol, pwyllog, deallus, gwel 1 Cor 4:1, 2, yr hwn a esyd ei arglwydd dros ei wasanaethyddion#12:42 therapeia, gwasanaeth (yn enwedig gwasanaeth feddygol, gwellhâd, iachâd, Luc 9:11) yna, y rhai a wasanaethant. Yn fynych yn Rhufain, &c., neillduid un o'r caeth‐weision fel pen ar y caeth‐weision eraill., i roddi mewn pryd eu cyfran o fwyd#12:42 Llyth.: eu mesur o fwyd (yma yn unig).?
43Gwyn fyd y gwas#12:43 Gr. caethwas. hwnw, yr hwn y caiff ei arglwydd pan ddêl yn gwneuthur felly. 44Mewn gwirionedd yr wyf yn dywedyd i chwi, efe a'i gesyd ef dros ei holl eiddo. 45Ond os dywed y gwas#12:45 Gr. caethwas. hwnw yn ei galon, Y mae fy arglwydd yn oedi dyfod, a dechreu curo y gweision#12:45 Llyth.: bechgyn, yna, gweision. a'r morwynion, a bwyta, ac yfed, a meddwi; 46daw arglwydd y gwas#12:46 Gr. caethwas. hwnw mewn dydd nad yw efe yn dysgwyl, ac mewn awr nad yw efe yn gwybod; ac efe a'i fflangella#12:46 Dichotomeô, llyth.: tori yn ddau (Ex 29:17), naill ai yn cyfeirio at y gosp greulon yn mhlith yr Israeliaid (1 Sam 15:33) a Chenedloedd eraill o dori carcharorion yn ddarnau â'r cleddyf; neu yn hytrach golyga tori â ffrewyll, curo yn erwin, &c. Y mae yr hyn a ganlyn yn ffafr yr ystyr hwn. yn erwin; ac a esyd ei gyfran gyd â'r anffyddloniaid. 47A'r gwas hwnw, yr hwn a wybu ewyllys ei arglwydd, ac nid ymbarotôdd, ac ni wnaeth yn unol â'i ewyllys, a gurir â llawer curiad. 48Eithr yr hwn ni wybu, ond a wnaeth bethau yn haeddu curiadau, a gurir âg ychydig. Ac i bwy bynag y rhoddir llawer, llawer a geisir oddi wrtho: ac i'r hwn yr ymddiriedasant lawer, mwy a ofynant oddi wrtho.
Tori Cysylltiadau bywyd er sancteiddrwydd buchedd
[Mat 10:34–36]
49Mi a ddaethum i fwrw tân#12:49 “Efe a'ch bedyddia chwi â thân” Mat 3:11. Dywedir mai un o ymadroddion anysgrifenedig Crist oedd, “Yr hwn sydd agos ataf fi sydd agos at y tân.” ar y ddaear: a pha beth a ewyllysiaf? O na fyddai wedi ei gyneu eisioes#12:49 Dyma gyfieithiad llawer, o Origen i lawr: eraill (De Wette, Bleek, &c.): ‘A chymaint yr ewyllysiaf ei gyneu eisioes!’ eraill (Beza, &c.) ‘A pha beth yr ewyllysiaf, os cyneuwyd ef eisioes?’ H. y. ‘Pa beth a ewyllysiaf (yn rhagor) os yw y tân yn barod wedi ei gyneu?! 50Y mae genyf Fedydd â'r hwn y'm bedyddir: ac mor gyfyng#12:50 Dal yn dyn (megys mewn twymyn, neu yn garcharor); bod mewn cyfyngder, trallod meddwl, “Y mae yn gyfyng arnaf o'r ddeu‐tu,” Phil 1:23; cymhell, “Cariad Crist yn ein cymhell ni,” 2 Cor 5:14. yw arnaf hyd oni orphener! 51A ydych chwi yn tybied i mi ddyfod i roddi heddwch ar y ddaear? Naddo, meddaf i chwi, ddim arall ond ymraniad#12:51 Ioan 7:43: 52canys bydd o hyn allan bump mewn un tŷ wedi ymranu: tri#12:52 Felly א B D L Brnd.: y tâd a ymrana, &c., A X. yr erbyn dau, a dau yn erbyn tri a ymranant#12:52 Felly א B D L Brnd.: y tâd a ymrana, &c., A X.;
53Tâd yn erbyn mab, a mab yn erbyn tâd;
Mam yn erbyn merch, a merch yn erbyn y fam#12:53 y fam א B D L: mam A X.;
Chwegr yn erbyn ei gwaudd, a gwaudd yn erbyn y chwegr#12:53 y chwegr א B D L: ei chwegr A X.#Mic 7:6.
Arwyddion yr amserau
[Mat 5:25, 26]
54Ac efe a ddywedodd hefyd wrth y torfeydd, Pan weloch gwmwl yn cyfodi o'r Gorllewin#12:54 Yn yr Hebraeg y mae yr un gair am fôr a gorllewin. Yr oedd Môr y Canoldir i'r Gorllewin o Ganaan (1 Br 18:44, 45)., yn ebrwydd chwi a ddywedwch, Y mae gwlaw#12:54 Imbros, tymhestl o wlaw. trwm yn dyfod: ac felly y mae. 55A phan fo y Deheu‐wynt yn chwythu, chwi a ddywedwch. Poeth‐wynt#12:55 Neu, Gwres deifiol [S. Simoom]. Bydd Deheu‐wynt yn chwythu dros ddiffaethwch tywodlyd crasboeth. a fydd: ac y mae. 56Ragrithwyr, chwi a, wyddoch pa fodd i wneuthur prawf#12:56 Dokimazô, gwneyd prawf, holi, gwirio. o wyneb‐pryd y ddaear a'r wybr: ond y tymhor hwn, pa fodd na wyddoch sut i wneuthur prawf o hono? 57A phaham nad ydych hyd y nod o honoch eich hunain yn barnu yr hyn sydd gyfiawn? 58Canys tra fyddi yn myned gyd â'th wrthwynebwr#12:58 Mewn llys barn. o flaen y llywodraethwr, ar y ffordd gwna dy oreu i gael myned yn rhydd oddi wrtho; rhag iddo dy lusgo#12:58 Yma yn unig yn y T. N. at y Barnwr, a'r Barnwr a'th draddoda at y Dirwywr#12:58 Gr. Praktôr, un a gasglai y dirwyon, neu a gariai allan y cospau a benodid gan yr Ynadon., a'r Dirwywr a'th dafla i garchar. 59Yr wyf yn dywedyd i ti, ni ddeui di mewn un modd allan oddi yno, hyd oni thelyt hyd y nod yr hatling#12:59 Gwerth tair rhan o wyth o ffyrling. olaf.
Dewis Presennol:
Luc 12: CTE
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.