Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 11

11
Gweddi y Dysgyblion
[Mat 6:9–13]
1A bu, ac efe mewn rhyw fan yn gweddïo, pan orphenodd, rhyw un o'r Dysgyblion a ddywedodd wrtho, Arglwydd, dysg ni i weddïo, yr un modd ag y dysgodd Ioan ei Ddysgyblion. 2Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pan weddioch, dywedwch,
O Dâd#11:2 Ein Tad yr hwn wyt yn y Nefoedd A C D La. [o Mat 6:9]; O Dâd א B L Ti. Tr. Al. WH. Diw.,
Sancteiddier dy enw.
Deled dy Deyrnas.#11:2 Gwneler dy ewyllys, megys yn y Nef, ar y ddaear א A C D La.: Gad. B L Al. Ti. Tr. WH. Diw.
3Dyro i ni o ddydd i ddydd ein bara cyfreidiol#11:3 Gwel y nodiad, Mat 6:11.
4A maddeu i ni ein pechodau: canys yr ydym ni ein hunain hefyd yn maddeu i bob un sydd yn ein dyled ni.
Ac na ddwg ni i brofedigaeth#11:4 eithr gwared ni rhag y drwg [neu yr un Drwg] A C D La.: Gad. א B L Brnd..
Y cyfaill taer.
5Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pwy o honoch chwi fydd iddo gyfaill, ac a â ato haner nos, ac a ddywed wrtho, Gyfaill, dyro yn fenthyg i mi dair torth: 6canys cyfaill i mi a ddaeth ataf o daith, ac nid oes genyf beth i'w osod ger ei fron ef. 7Ac yntau oddi mewn a etyb ac a ddywed, Na flina fi: y mae y drws yn barod wedi ei gau; ac y mae fy mhlant bychain gyd â mi yn y gwely: nid wyf yn gallu codi drachefn a rhoddi i ti. 8Yr wyf yn dywedyd i chwi, Os hyd y nod na rodda efe iddo gan gyfodi drachefn, o herwydd ei fod ef yn gyfaill iddo, eto o herwydd ei daerni digywilydd#11:8 Anaideia, digywilydd‐dra, haerllugrwydd, ystyfnigrwydd, herder. Yma yn unig yn T. N. Gwel enghreifftiau; Abraham ar ran Sodom (Gen 18:23–33); y wraig o Syrophenicia (Mat 15:22–28). Gwel Es 62:6, efe a gyfyd#11:8 Golyga, wedi ei lwyr ddeffroi., ac a rydd iddo gynifer ag sydd arno eu heisieu. 9Ac yr wyf yn dywedyd i chwi, Gofynwch, a rhoddir i chwi; ceisiwch, a chwi a gewch; curwch, ac fe a agorir i chwi: 10canys pob un sydd yn gofyn sydd yn derbyn; a'r hwn sydd yn ceisio sydd yn cael, ac i'r hwn sydd yn curo yr agorir.
Y tâd daearol caredig: y Tâd nefol caredicach.
11Ac i bwy o honoch chwi sydd dâd y gofyn ei fab#11:11 Gad. dorth, ac a rydd gareg iddo yn ei lle, neu hefyd B WH. Fel yn y Testyn א A C D Brnd. ond WH. dorth, ac a rydd gareg iddo yn ei lle? neu hefyd bysgodyn#11:11 Gad. dorth, ac a rydd gareg iddo yn ei lle, neu hefyd B WH. Fel yn y Testyn א A C D Brnd. ond WH., ac a rydd iddo sarff yn lle pysgodyn? 12Neu hefyd a ofyn efe ŵy, a ddyry efe iddo ysgorpion yn ei le? 13Os chwi gan hyny, y rhai ydych ddrwg o'r dechreu, a wyddoch pa fodd i roddi rhoddion da i'ch plant, pa faint mwy y rhydd eich Tâd o'r Nef#11:13 Yr hwn sydd yn y Nef, ac a rydd allan o'r Nef. yr Yspryd Glân i'r rhai a ofynant ganddo?
Y Cythraul mud, a'r pechod yn erbyn yr Yspryd Glân
[Mat 12:22–30]
14Ac yr oedd efe yn bwrw allan gythraul#11:14 yr hwn oedd C: Gad. א A B L. mud#11:14 Cymh. Mat 12:22. Os yr un oeddynt, yr oedd y dyn yn fud, byddar, a lloerig.. A bu, wedi i'r cythraul fyned allan, i'r mudan lefaru: a'r torfeydd a ryfeddasant. 15Ond rhai o honynt a ddywedasant, Trwy Beelzebwl, Penaeth y cythreuliaid, y mae efe yn bwrw allan gythreuliaid. 16Ac yr oedd eraill, gan ei demtio#11:16 Neu, brofi. ef, yn ceisio arwydd allan o'r Nef#11:16 Fel gynt, pan y gelwid tân i lawr, &c. ganddo. 17Yntau, yn gwybod eu meddyliau#11:17 Neu, cynllwynion. hwynt, a ddywedodd wrthynt, Pob Teyrnas wedi ymranu yn ei herbyn ei hun sydd anghyfanedd; a phob tŷ yn erbyn tŷ sydd yn syrthio: 18ac os ydyw Satan hefyd wedi ymranu yn ei erbyn ei hun, pa fodd y saif ei Deyrnas ef? Canys chwi a ddywedwch mai trwy Beelzebwl#11:18 Gwel Marc 3:22, yr wyf fi yn bwrw allan y cythreuliaid. 19Ond os wyf fi trwy Beelzebwl yn bwrw allan y cythreuliaid, trwy bwy y mae eich Meibion#11:19 eu Dysgyblion, fel Meibion y Proffwydi. chwi yn eu bwrw allan? O herwydd hyn, hwynt‐hwy fyddant eich barnwyr chwi. 20Ond os trwy fys#11:20 Matthew, Yspryd Duw, gwel Es 8:19 Duw yr wyf yn bwrw allan y cythreuliaid, Teyrnas Dduw yn wir a'ch goddiweddodd. 21Pan fyddo y cryf wedi ei lawn arfogi#11:21 Llyth.: wedi ei arfogi i lawr (o'i ben i'w draed). yn gwylied ei anedd#11:21 Aulê, yn briodol, y cyntedd agored o flaen y tŷ; yna, y ty ei hun, anedd, neuadd, palas., y mae ei eiddo ef mewn heddwch. 22Ond pan ddêl un cryfach nag ef arno, a'i orchfygu, efe a ddwg ymaith ei holl arfogaeth, yn#11:22 Llyth.: ar. yr hon yr oedd wedi ymddiried, ac y mae yn rhanu ei anrheithion ef#11:22 Gwel Es 53:12; Col 2:15.. 23Yr hwn nid yw gyd â mi sydd yn fy erbyn; a'r hwn nid yw yn casglu gyd â mi sydd yn gwasgaru#11:23 Gwel ynghylch y gwirionedd cyflenwol 9:51. Cyfeirir at wasgariad praidd, megys gan fleiddiaid, &c., Ioan 10:12.
Diwedd y Gwrthgiliwr
[Mat 12:43–45]
24Pan yr êl yr yspryd aflan allan o'r dyn, y mae efe yn myned trwy leoedd diddwfr#11:24 Sef, anial‐diroedd. Credai yr Iuddewon fod y cythreuliaid yn trigo yn yr anial‐diroedd sych a diffaith, gwel Tobit 8:3; Baruch 4:35; hefyd Es 13:21, 22; 34:14. Cyf. Diw. Cheyne a gyfieitha yn yr olaf, night‐fairy., gan geisio gorphwysdra; a phan nad yw yn ei gael, efe a ddywed, Mi a ddychwelaf i'm tŷ o'r hwn y daethum allan. 25A phan ddêl, y mae yn ei gael wedi ei ysgubo a'i drwsio. 26Yna y mae yn myned, ac yn cymmeryd ato saith yspryd arall#11:26 Gr. gwahanol., gwaeth nag ef ei hun: ac y maent hwy, wedi myned i mewn, yn trigo yno. Ac y mae cyflwr#11:26 Llyth.: pethau. diweddaf y dyn hwnw yn waeth na'r cyntaf#11:26 Gwel Ioan 5:14; Heb 6:4–6; 10:26–29; 2 Petr 2:20, 21..
Meddianydd gwir ddedwyddwch.
27A bu, pan yr oedd efe yn llefaru y pethau hyn, rhyw wraig o'r dyrfa a gododd ei llef, ac a ddywedodd wrtho, Gwyn fyd y grôth a'th ddug di, a'r bronau a sugnaist#11:27 Yn ol Matthew (Mat 12:46) yr oedd ei Fam newydd ddyfod.. 28Ond efe a ddywedodd, Felly, yn wir, gwyn fyd y rhai sydd yn gwrando Gair Duw, ac yn ei gadw.
Teithi y Genedlaeth, ac arwydd Duw iddi
[Mat 12:38–42]
29Ac fel yr oedd y torfeydd yn ymdyru ynghyd ato ef, efe a ddechreuodd ddywedyd, Y Genedlaeth hon, cenedlaeth#11:29 cenedlaeth א B D L Brnd.: Gad. C. ddrwg ydyw: y mae yn ceisio arwydd: ac arwydd ni roddir iddi, ond arwydd Jonah#11:29 Y Proffwyd A C: Gad. א B D L Brnd.. 30Canys fel y bu Jonah yn arwydd i'r Ninifëaid#Jonah 1:17; felly y bydd Mab y Dyn hefyd i'r genedlaeth hon. 31Brenines#11:31 Gwel 1 Br 10:1–13; 2 Cr 9:1–12 y Deheu a gyfyd yn y Farn gyd â gwŷr y genedlaeth hon, ac a'u condemnia hwynt; canys hi a ddaeth o eithafoedd y ddaear i wrando doethineb Solomon: ac wele, fwy#11:31 Yn y ganolryw, “rywbeth mwy;” gwel Mat 12:42. na Solomon yma. 32Gwyr o Ninifëaid#11:32 Ninifeaid א A B C L: Ninife Δ. a gyfodant i fyny yn y Farn gyd â'r genedlaeth hon, ac a'i condemniant hi: canys hwy a edifarhasant wrth#11:32 Llyth.: i, fel i fabwysiadu dysgeidiaeth Jonah: bregeth#11:32 Neu, genadwri. Jonah; ac wele fwy na Jonah yma.
Y Goleuni mewnol, a'r gwerthfawrogiad o hono
[Mat 5:15; 6:22, 23]
33Ni wna neb, wedi goleuo lamp, ei gosod mewn cudd‐gell#11:33 Neu, seler [S. cellar, crypt]., neu o dan y mesur‐lestr#11:33 Gwel Mat 5:15., ond ar y daliadyr, fel y gwelo y rhai a ddelo i mewn y goleuni. 34Lamp y corff yw dy#11:34 dy א A B C D Brnd. lygad. Pan#11:34 Gan hyny A C: Gad. א B D L. fyddo dy lygad yn syml#11:34 Unplyg, da, iach., dy holl gorff hefyd fydd ddysglaer: ond pan fyddo yn ddrwg, dy gorff hefyd fydd yn dywyllwch. 35Edrych gan hyny rhag i'r goleuni sydd ynot fod yn dywyllwch. 36Os dy holl gorff gan hyny sydd ddysglaer, heb fod un rhan yn dywyll, bydd yr oll yn ddysglaer, fel pan y mae y lamp yn ei dysglaerdeb llachar yn dy oleuo di.
Glendid allanol a phurdeb tufewnol
[Mat 23:25, 26]
37Ac fel yr oedd efe yn llefaru, Pharisead#11:37 rhyw A C: Gad. א B L. a ofynodd iddo giniawa gyd âg ef; ac efe a aeth i mewn, ac a eisteddodd i lawr wrth y bwrdd#11:37 Llyth.: a syrthiodd yn ol, a led‐orweddodd, gwel Marc 6:39.. 38A'r Pharisead pan welodd, a ryfeddodd nad ymdrochasai#11:38 Gwel Marc 7:4 efe yn gyntaf cyn ciniaw. 39A'r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Yn awr chwychwi y Phariseaid ydych yn glanhâu y tu allan i'r cwpan a'r ddysgl: ond eich tu mewn sydd yn llawn o drais a drygioni. 40O rai anystyriol! Onid yr hwn a wnaeth yr hyn sydd oddi allan a wnaeth yr hyn sydd oddi fewn hefyd? 41Yn mhellach, rhoddwch y pethau sydd tu fewn#11:41 ta enonta, y pethau mewnol, sef cynwysiad y cwpan a'r ddysgl, y gwin a'r danteithion; “yr ydych yn glanhâu y tu allan, ond yn cadw yr oll o'r hyn sydd tu fewn at eich defnydd eich hunain. Ni wna glanhâu y cwpan a'r ddysgl borthi un mewn angen. Felly, hefyd, meithrinwch gyfiawnder yn y galon, a chymwynasgarwch enaid, y rhai yn unig sydd gymeradwy gyd â Duw.” “Gweithred gariadlawn a wna ddwylaw glân.” fel elusen, ac wele, y mae pob peth yn lân i chwi. 42Ond gwae chwi, Y Phariseaid, canys yr ydych yn talu degwm o'r mintys, a'r ryw, a phob llysieuyn#Deut 14:22, ac yn myned heibio i'r Farn a Chariad Duw: ond y pethau hyn a ddylasech eu gwneuthur, heb fyned#11:42 fyned heibio B L Al. La. Tr. Ti. WH.: gosod o'r neilldu א C. heibio y lleill. 43Gwae chwi, y Phariseaid, canys yr ydych yn caru y brif gadair yn y Synagogau, a'r cyfarchiadau yn y marchnad‐leoedd. 44Gwae chwi,#11:44 Ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr A D: Gad. א B C L Brnd. canys yr ydych fel beddau anamlwg, a'r dynion a gerddant drostynt heb wybod hyny.
45Ac un o Ddysgawdwyr#11:45 Gwel 10:25. y Gyfraith gan ateb a ddywed wrtho, Athraw, wrth ddywedyd hyn yr wyt yn dirmygu hyd y nod nyni. 46Ond efe a ddywedodd, gwae hefyd chwi, Ddysgawdwyr y Gyfraith, canys yr ydych chwi yn beichio y bobl#11:46 Llyth.: dynion. â beichiau anhawdd eu dwyn, a chwychwi nid ydych yn cyffwrdd#11:46 Term meddygol, cyffwrdd yn dyner a man tost. â'r beichiau âg un o'ch bysedd.
Cyfodi Cofadeiliau i Broffwydi llofruddiedig
[Mat 23:29–36]
47Gwae chwi! canys yr ydych yn adeiladu beddau y Proffwydi, a'ch Tâdau chwi a'u lladdasant hwynt. 48Felly yr#11:48 yr ydych chwi yn dystion א B L Brnd.: yr ydych yn tystiolaethu A C D. ydych chwi yn dystion, ac yn cymeradwyo#11:48 Neu, yn cydsynio, trwy wrthod Ioan, ac yr oeddynt ar groeshoelio y mwyaf o'r Proffwydi. yn hollol weithredoedd eich Tâdau; canys hwynt‐hwy a'u lladdasant, a chwithau sydd yn adeiladu eu beddau#11:48 eu beddau A C La.: Gad. א B D L Brnd.. 49O herwydd hyn hefyd Doethineb#11:49 Gwahanol farnau, (1) Diar 1:20–31; (2) Geiriau a ddefnyddiodd efe ei hun yn flaenorol (gwel Mat 23:34); (3) “Doethineb Duw;” llyfr yn awr wedi ei golli, [gwel 7:35|LUK 7:36; 1 Cor 1:30]. Duw a ddywedodd,
Mi a anfonaf atynt Broffwydi ac Apostolion,
A rhai o honynt hwy a laddant ac a#11:49 a erlidiant א B C L WH. Diw.: yrant allan A D [Al.] [Tr.] Ti. La. erlidiant.
50Fel y gofyner gwaed yr holl Broffwydi a dywalltwyd#11:50 Llyth.: sydd yn cael ei dywallt: gweithred barhâol.,
O seiliad y byd, oddiar law y Genedlaeth hon;
51O waed Abel hyd waed Zechariah#11:51 Mab Barachiah yn ol Matthew [Mat 23:35]. “Ond diameu mai gau-ddarlleniad ydyw hwn. Mab Jehoiada oedd y Zechariah a enwir yn 2 Cr 24. Zechariah y Proffwyd yn debygol a fu farw o farwolaeth naturiol. Lladdwyd Zechariah, mab Barachiah, gan y Zelotiaid ddeugain mlyned ar ol hyn,” Farrar., yr hwn a ddyfethwyd rhwng yr Allor a'r Tŷ#2 Cr 24:20–22.
Ie, meddaf i chwi, gofynir ef oddiar law y Genedlaeth hon.
52Gwae chwi! Ddysgawdwyr y Gyfraith, canys chwi a ddygasoch#11:52 yn ol D chwi a guddiasoch. ymaith allwedd gwybodaeth: chwychwi eich hunain nid aethoch i mewn; a chwi a waharddasoch i eraill fyned i mewn. 53Ac wedi iddo ddyfod allan oddiyno#11:53 Felly א B C L Brnd. ond La. Ac fel yr oedd efe yn dywedyd y pethau hyn wrthynt A D La., yr Ysgrifenyddion a'r Phariseaid a ddechreuasant ymosod#11:53 Enechô, bod yn ddigofus, gosod yn erbyn, pwyso ar (Cyf. Diw. S.), gwel Marc 6:19. yn angerddol arno ef, a'i groes‐holi#11:53 Mewn Gr. Clasurol, adrodd o gôf, adrodd i un beth a ysgrifeno, yna, holi fel athraw, holwyddori; yma croes‐holi, neu ymdrechu ei ddal yn ei ymadrodd. Yma yn unig yn y T. N. ynghylch mwy a mwy o bethau: 54gan osod cynllwyn iddo, a dal#11:54 cheisio dal A C D [Tr.] La.: dal א B L a Brnd. eraill.#11:54 Llyth.: dal wrth hela. ar rywbeth o'i enau ef#11:54 fel y cyhuddent ef A C D La. [Tr.] Gad. א B L a Brnd. eraill..

Dewis Presennol:

Luc 11: CTE

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda